{"id":1653,"date":"2025-03-24T15:59:54","date_gmt":"2025-03-24T15:59:54","guid":{"rendered":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/2025\/03\/24\/pwer-perthnasau-ystyriol-yn-y-gweithle\/"},"modified":"2025-04-05T20:18:04","modified_gmt":"2025-04-05T19:18:04","slug":"pwer-perthnasau-ystyriol-yn-y-gweithle","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/2025\/03\/24\/pwer-perthnasau-ystyriol-yn-y-gweithle\/","title":{"rendered":"P\u0175er Perthnasau Ystyriol yn y Gweithle"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"has-text-align-center has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-1 wp-block-paragraph\"><div><i>\u2018Yn ymarferwr anffurfiol, rydw i\u2019n bendant o\u2019r farn fy mod i ar fy ennill o gael meddylgarwch<\/i><\/div><\/p>\n\n<p class=\"has-text-align-center has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-2 wp-block-paragraph\"><div><i>yn rhan o fy mywyd..\u2019 \u00a0<\/i><i>(<\/i>Alun Williams Cynghorydd Sir)<\/div><\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-3 wp-block-paragraph\"><\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-4 wp-block-paragraph\">Flynyddoedd maith yn \u00f4l cymerodd y Cynghorydd Sir Alun Williams ran mewn cwrs ffurfiol ar feddylgarwch. Ers hynny mae wedi parhau i ymarfer myfyrio ac i astudio egwyddorion meddylgarwch a Bwd\u0457aeth. Mae Alun wedi rhannu ei fyfyrdodau gyda Meddylgarwch Cymru am sut mae ei ymarfer rheolaidd wedi effeithio ar ei brofiad o gael r\u00f4l feichus a phrysur ar y Cyngor, sydd yn aml yn gofyn iddo wneud penderfyniadau yn y fan a\u2019r lle o ran sut i ymateb i bobl a sefyllfaoedd.    <\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-5 wp-block-paragraph\">Gan amlaf mae Alun yn eistedd am hanner awr yn y bore, ac mae hyn yn cael effaith amlwg ar sut mae\u2019n ymdopi \u00e2 heriau a ddaw yn ystod y dydd. Mae\u2019r arfer hwn yn galluogi iddo gamu\u2019n \u00f4l yn feddyliol ac ystyried yn gliriach y sefyllfa wrth law, sydd yn ymddangos fel petai\u2019n creu gofod rhwng adegau a digwyddiadau sy\u2019n lleihau\u2019r teimlad o fod ar frys neu o dan bwysau. Mae\u2019r munudau sy\u2019n deillio o hyn yn galluogi iddo i ystyried yn well effeithau ehangach ei ymyriadau a\u2019i ymatebion. <\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-6 wp-block-paragraph\">Mae cyfathrebu yn y gweithle yn cynnig llawer o gyfleoedd i ymchwilio i\u2019r effaith mae arfer Alun yn ei gael. Ambell waith mae\u2019n ynghlwm \u00e2 digwyddiadau lle mae llawer o bobl eisiau siarad ag ef ar yr un pryd am bethau gwahanol. Mae\u2019n gwybod y byddai yn y gorffennol wedi ystyried bod treulio amser gyda rhai o\u2019r bobl hyn ddim mor bwysig \u00e2 chyda phobl eraill, a\u2019i fod wedi ymddangos yn bell ac wedi bod yn swta o ran sgwrs. Mae dulliau meddylgarwch wedi galluogi iddo osgoi pethau dibwys neu feddwl am rhywbeth arall, a thalu rhagor o sylw i bob rhyngweithiad, gan gymryd pawb llawn cymaint o ddifri. Yn deillio o hynny mae\u2019n mwynhau pob rhyngweithiad yn fwy o lawer ac yn elwa mwy ohonyn nhw.   <\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-7 wp-block-paragraph\">Ar yr un pryd, mae ymrwymo i ganolbwyntio ar unigolion wedi ei gynorthwyo i adnabod yn well y nifer prin hynny sydd yn gofyn gormod ganddo neu i wybod lle y byddai\u2019n well canolbwyntio o ran treulio amser, ac mae\u2019n gallu cyfathrebu mewn modd parchus o ran gosod ffiniau clir.<\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-8 wp-block-paragraph\">Wrth gadeirio cyfarfodydd mae meddylgarwch yn helpu Alun i ganolbwyntio\u2019n ddiffuant ar bob cyfranogwr a sicrhau bod gan bawb yr un cyfle i gymryd rhan. Tra ei fod wrthi\u2019n gwneud hyn mae ef yn ymwybodol o hyd o anghenion y cyfarfod. Pan fo hyn yn gweithio\u2019n dda, mae\u2019n sylwi bod ei ffordd ef o ryngweithio yn gallu lledu, bod bod yn bositif yn dylanwadu ar ysbryd y cyfarfod a hefyd o bosib ar ymddygiad eraill. Yn ogystal mae wedi sylwi ar y dull hwn o ryngweithio gan eraill ac mae wedi gwethfawrogi hynny:<\/p>\n\n<p class=\"has-text-align-center has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-9 wp-block-paragraph\"><p style=\"font-weight: 400;\"><em>\u2018Un tro roeddwn mewn cyfarfod gyda pherson eitha adnabyddus a thua 20 person arall. Roedd hi\u2019n amlwg fod gan y person hwn allu i wneud i bawb yn yr ystafell deimlo ei fod yn sylwi arnyn nhw a bod ganddo feddwl o bob un ohonyn nhw. Fe wnaeth hynny argaraff fawr arna i. Dydw i ddim yn siwr a alla i efelychu hynny ond rwy\u2019n meddwl ei fod yn rhywbeth i anelu tuag ato.\u2019<\/em><\/p><\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-10 wp-block-paragraph\">Gall Meddylgarwch hefyd fod yn ffordd bwerus o drin y negyddol er gwell. Yn y maes lle mae Alun yn gweithio mae yna lawer o leisiau negyddol neu bobl sy\u2019n anhapus am rywbeth, a gall hyn gael effaith andwyol ar rywun o ran ysbryd a diffyg cynhyrchiant yn sgil hynny. Mae Meddylgarwch yn cynorthwyo Alun i ganolbwyntio ar ddulliau positif ac i osgoi dylanwadau negyddol yn ogystal \u00e2\u2019r effaith a gaiff y rhain. Mae hefyd yn ceisio cynghori eraill i wneud yr un fath.  <\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-11 wp-block-paragraph\">Yn olaf, mae Alun yn cydnabod pwysigrwydd cymuned ymarfer ac mae\u2019n mynd i sawl gr\u0175p lleol. Mae\u2019r \u2018sangha\u2019 (enw Bwdaidd am gymuned ymarfer) yn rhoi sylfaen iddo o ran theori ac ideoleg, gan arwain at ffyrdd o ddatblygu a darllen ymhellach. Mae yna gyfleoedd i gyd-ddysgu, er enghraifft taflu goleuni ar bynciau, ailbwysleisio egwyddorion, amlygu ymarferion da, cydnabod problemau a chynnig syniadau i\u2019w datrys. <\/p>\n\n<p class=\"has-text-align-center has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-12 wp-block-paragraph\"><p style=\"font-weight: 400;\"><em>\u2018Mae\u2019r cyfle i gyfrannu tuag at rywbeth mwy yn rhoi hwb i deimlad o gymuned a chefnogaeth. Mae e i gyd yn rhan o\u2019r cyfan, naill ai drwy gyfrannu tuag at gost llogi ystafell, tacluso ar \u00f4l cynnal cyfarfod neu gyfrannu ar lafar.\u2019<\/em><\/p><\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-13 wp-block-paragraph\">Manylion cyswllt:<\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-14 wp-block-paragraph\">alun1001@yahoo.co.uk<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>\u2018Yn ymarferwr anffurfiol, rydw i\u2019n bendant o\u2019r farn fy mod i ar fy ennill o gael meddylgarwch yn rhan o fy mywyd..\u2019 \u00a0(Alun Williams Cynghorydd Sir) Flynyddoedd maith yn \u00f4l cymerodd y Cynghorydd Sir Alun Williams ran mewn cwrs ffurfiol ar feddylgarwch. Ers hynny mae wedi parhau i ymarfer myfyrio ac i astudio egwyddorion meddylgarwch [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":1626,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_et_pb_use_builder":"off","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","wds_primary_category":0,"footnotes":""},"categories":[21],"tags":[],"class_list":["post-1653","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-ysbrydoliaeth-o-gymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1653","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1653"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1653\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1656,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1653\/revisions\/1656"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1626"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1653"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1653"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1653"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}