{"id":1691,"date":"2025-04-03T17:22:37","date_gmt":"2025-04-03T16:22:37","guid":{"rendered":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/2025\/04\/03\/sarah-silverton-mindfulness-ltd-a-chyrsiau-the-present-cic\/"},"modified":"2025-04-13T19:35:18","modified_gmt":"2025-04-13T18:35:18","slug":"sarah-silverton-mindfulness-ltd-a-chyrsiau-the-present-cic","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/2025\/04\/03\/sarah-silverton-mindfulness-ltd-a-chyrsiau-the-present-cic\/","title":{"rendered":"Sarah Silverton Mindfulness Ltd a Chyrsiau The Present CIC"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-1 wp-block-paragraph\">Drwy gynorthwyo bobl brysur i fod yn fwy ystyriol o ran eu hagweddau a\u2019u hymwybyddiaethau, mae dull The Present yn cynnig cyflwyniad hygyrch i feddylgarwch a llesiant i bawb o 3-103 mlwydd oed.<\/p>\n\n<p class=\"has-text-align-center has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-2 wp-block-paragraph\"><p style=\"font-weight: 400;\"><em>\u201cMae\u2019r Present yn teimlo\u2019n unigryw gan ei fod yn dod \u00e2 ni yn uniongyrchol i mewn i gyfanrwydd bywyd mewn ffordd mor hawdd, gydag ymarferion syml i\u2019w defnyddio a\u2019u hintegreiddio a phrofi meddylgarwch yn treiddio trwy eich diwrnod. Cwrs hyfryd.\u201d<\/em> (cyfranogwr cwrs Living in the Present)<\/p><\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-3 wp-block-paragraph\">Mae Sarah Silverton yn angerddol dros wneud meddylgarwch yn hygyrch i bawb. Mae\u2019r rhain wrth galon neges dull The Present: helpu bobl brysur ddod ag ymwybyddiaeth hynaws yn rhan o\u2019u bywydau bob dydd, cyflwyno meddylgarwch i bobl o bob oed a datblygu ymarfer oes i gael ffynnu a chadw\u2019n iach. <\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-4 wp-block-paragraph\">Mae Sarah Silverton wedi bod yn ymwneud \u00e2 meddylgarwch yng Nghymru ers y dechrau, ac mae\u2019n athro meddylgarwch profiadol. Yng nghanol y 90au aeth ar gwrs cyntaf MBCT 8 wythnos Mark Williams cyn hyfforddi gydag ef i addysgu MBCT, ac yn 1999, teithiodd i Massachussets i\u2019r Center for Mindfulness Studies i gwblhau ei rhaglen Intern.   <\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-5 wp-block-paragraph\">Dros y blynyddoedd mae wedi llwyddo i ddod ag ymarfer a dysgeidiaeth meddylgarwch i fyd addysg ac i fywyd bob dydd plant a\u2019u hathrawon. Mae hi wedi ymwneud \u00e2\u2019r Prosiect Meddylgarwch Mewn Ysgolion (MISP) ac wedi cydysgrifennu yr hyn a ddaeth yn gyrsiau sylfaen Paws b a .b, sydd bellach wedi\u2019u cyfieithu i nifer o ieithoedd ac sydd yn cael eu haddysgu a\u2019u gwerthfawrogi drwy\u2019r DU ac ymhell tu hwnt. <\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-6 wp-block-paragraph\">Mae cyrsiau The Present wedi datblygu o\u2019r dyhead parhaus hwn i fylchu\u2019r ffiniau sy\u2019n rhwystro mynediad i feddylgarwch. Mae dulliau The Present yn agor y drws i feddylgarwch i bobl sydd wedi teimlo nad ydy meddylgarwch yn iawn iddyn nhw oherwydd prinder amser neu ffactorau eraill. Maen nhw\u2019n darganfod eu bod yn gallu datblygu ymarfer ystyrlon a llesol heb lawer o ymdrech.  Ac wrth weithredu\u2019r dulliau hyblyg a hygyrch hyn maen nhw\u2019n sylweddoli bod cyfle i ymarfer meddylgarwch yn codi unrhyw funud. <\/p>\n\n<p class=\"has-text-align-center has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-7 wp-block-paragraph\"><p style=\"font-weight: 400;\"><em>\u201cMae natur y cwrs sef dysgu trwy brofiad yn cael dylanwad cynnil o wythnos i wythnos, nes sylweddoli ar ddiwedd y cwrs y bydd y cydbrofi a\u2019r cyd-ddysgu yno yn gefn i ti am flynyddoedd i ddod.\u201d<\/em> (cyfranogwr Living in the Present)<\/p><\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-8 wp-block-paragraph\">Ers 2018 mae\u2019r cyfleoedd i ddysgu a chymryd rhan mewn cyrsiau The Present CIC wedi lledaenu ymhell ac agos ac wedi datblygu mewn sawl ffordd. Ers dechrau 2024 mae Prosiect Meddylgarwch Mewn Ysgolion (MISP) wedi cynnig a chynnal cyrsiau The Present i ysgolion a phobl ifanc ar draws y DU.  Mae Sarah yn parhau i addysgu cwrs The Present i Ysgolion a chwrs Byw yn y Presennol yn Tsieina a Taiwan. Mae Sarah Silverton yn addysgu a hyfforddi eraill i addysgu Byw yn Y Presennol yn rheolaidd arlein. <\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"597\" src=\"https:\/\/mindfulness-wales.org\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/Sarah-Silverton-TPfS-China-group-summer-2024-1024x597.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1647\" srcset=\"https:\/\/mindfulness-wales.org\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/Sarah-Silverton-TPfS-China-group-summer-2024-980x571.jpg 980w, https:\/\/mindfulness-wales.org\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/Sarah-Silverton-TPfS-China-group-summer-2024-480x280.jpg 480w\" sizes=\"(min-width: 0px) and (max-width: 480px) 480px, (min-width: 481px) and (max-width: 980px) 980px, (min-width: 981px) 1024px, 100vw\" \/><\/figure>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-9 wp-block-paragraph\">Mae Sarah hefyd yn addysgu gweithdai Ymholi a Symud yn Ystyriol i athrawon med dylgarwch, ac ar hyn o bryd mae Sarah a rhai aelodau o\u2019i th\u00eem yn ysgrifennu llyfr. Mae hefyd yn cynnal cyrsiau preswyl a chyrsiau encil arlein tair-bedair gwaith bob blwyddyn. <\/p>\n\n<p class=\"has-text-align-center has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-10 wp-block-paragraph\"><p style=\"font-weight: 400;\"><em>\u201cMae Encil Presennol Arlein ym mis Ionawr yn ffordd berffaith o ailgydio ynddyn ni ein hunain a dechrau\u2019r Flwyddyn Newydd yn teimlo wedi adfywio ac wedi cryfhau ein hymarfer.\u201d<\/em><\/p><\/p>\n\n<p class=\"has-text-align-center has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-11 wp-block-paragraph\"><p style=\"font-weight: 400;\">\u201cRwyf bob amser yn teimlo bod cyrsiau encil Sarah o gymorth mawr, y rhai wyneb-yn-wyneb ac arlein. Mae ei dulliau hi yn gwneud i mi deimlo\u2019n gyfforddus ac yn fy ngalluogi i setlo i ddysgu a datblygu.\u201d (cyfranogwyr encil)<\/p><\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-12 wp-block-paragraph\">Mae cyrsiau The Present CIC a Sarah Silverton Mindfulness yn cyrraedd amrywiaeth eang o boblogaethau gan gynnwys ysgolion, meddygon ifanc, myfyrwyr meddygol, poblogaethau clinigol, athletwyr, a Men\u2019s Sheds i enwi rhai yn unig. Mae yna hefyd amrywiaeth o ran lleoliadau, er enghraifft yn yr awyr agored.<\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-13 wp-block-paragraph\"><p style=\"font-weight: 400;\">Mae gwaith ymchwil wedi\u2019i gyflawni ar y dull hwn ac mae yna astudiaethau ar lefel graddfeistr a doethuriaeth. Mae\u2019r rhain yn cynnwys astudiaeth o addysgu ysgol gyfan o athrawon a phlant yn Warrington, ac astudiaeth o Brifysgol Caerdydd ar gwrs Byw yn y Presennol a gynhaliwyd i rieni plant \u00e2 chyflyrau cronig o\u2019r croen ac astudiaeth ddoethuriaethol gyfredol gyda hyfforddwyr.<\/p><\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-14 wp-block-paragraph\">Trwy eu cyrsiau a\u2019r rhwydwaith gynyddol o athrawon ac ymarferwyr sydd wedi\u2019u hyfforddi yn y dull, mae The Present CIC a Sarah Silverton Mindfulness yn arloesi ac yn meithrin y cymunedau cynyddol o bobl a phlant yng Nghymru a thu hwnt sy\u2019n profi buddion meddylgarwch. <\/p>\n\n<p class=\"has-text-align-center has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-15 wp-block-paragraph\"><p style=\"font-weight: 400;\"><em>\u201cMae hyfrydwch amrywiaeth y lleoliadau rhyfeddol lle mae dull The Present yn ffynnu ac sy\u2019n addas iddo wedi bod yn bresennol dros y 6 mlynedd diwethaf. Rwy\u2019n edrych ymlaen at weld ymhle mae\u2019n ymgartrefu dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.\u201d<\/em> (Sarah Silverton)<\/p><\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-16 wp-block-paragraph\">I gysylltu\u2026<\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-17 wp-block-paragraph\">Ewch i\u2019r wefan: <\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-18 wp-block-paragraph\"><div><span lang=\"CY\"><a href=\"https:\/\/www.sarahsilvertonmindfulness.co.uk\/\"><span lang=\"EN-GB\">www.sarahsilvertonmindfulness.co.uk<\/span><\/a><\/span><\/div><\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-19 wp-block-paragraph\">www.thepresentcourses.org<\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-20 wp-block-paragraph\"><p style=\"font-weight: 400;\">Ebost: <a href=\"mailto:sc.silverton150@gmail.com\">sc.silverton150@gmail.com<\/a><\/p><\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-21 wp-block-paragraph\">Facebook\/Instagram: Sarah Silverton and Living in The Present<\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-22 wp-block-paragraph\">LinkedIn: Sarah Silverton and The Present Courses<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Drwy gynorthwyo bobl brysur i fod yn fwy ystyriol o ran eu hagweddau a\u2019u hymwybyddiaethau, mae dull The Present yn cynnig cyflwyniad hygyrch i feddylgarwch a llesiant i bawb o 3-103 mlwydd oed. \u201cMae\u2019r Present yn teimlo\u2019n unigryw gan ei fod yn dod \u00e2 ni yn uniongyrchol i mewn i gyfanrwydd bywyd mewn ffordd mor [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":1646,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_et_pb_use_builder":"off","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","wds_primary_category":0,"footnotes":""},"categories":[24,21],"tags":[],"class_list":["post-1691","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-ysbridoliaeth-yr-wythnos","category-ysbrydoliaeth-o-gymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1691","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1691"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1691\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1694,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1691\/revisions\/1694"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1646"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1691"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1691"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1691"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}