{"id":2434,"date":"2026-04-16T13:35:32","date_gmt":"2026-04-16T12:35:32","guid":{"rendered":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/2026\/04\/16\/ymchwilio-i-feddylgarwch-yng-nghwricwlwm-waldorf\/"},"modified":"2026-05-04T22:23:35","modified_gmt":"2026-05-04T21:23:35","slug":"ymchwilio-i-feddylgarwch-yng-nghwricwlwm-waldorf","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/2026\/04\/16\/ymchwilio-i-feddylgarwch-yng-nghwricwlwm-waldorf\/","title":{"rendered":"Ymchwilio i Feddylgarwch yng Nghwricwlwm Waldorf"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"has-text-align-center has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-1 wp-block-paragraph\"><p><em>\u201cRwy\u2019n hynod o ddiolchgar i mi fy hun pan yn iau am fod yn barod i arbrofi gydag ymarfer meddylgarwch a\u2019i fabwysiadu yn rhan o\u2019m bywyd bob dydd. Y gwerthfawrogiad hwn sy\u2019n sail i fy awydd i barhau i ddwys\u00e1u fy nealltwriaeth, gan gynnwys fy ymchwil PhD.\u201d\u00a0 (<\/em>Tom Blackwell)<\/p><\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-2 wp-block-paragraph\">Mae Tom Blackwell yn fyfyriwr PhD llawn amser ym Mhrifysgol Nottingham, yn gofyn y cwestiynau cyfareddol a all meddylgarwch gael ei integreiddio i addysg Waldorf ac yn benodol a yw addysg Waldorf yn barod yn fath ystyriol o addysg.<\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-3 wp-block-paragraph\">Mae\u2019n tynnu ar gyfuniad cyfoethog o brofiadau, gan gynnwys bod yn athro Waldorf gyda dyletswyddau ym maes anghenion dysgu ychwanegol, diogelu a rheoli; ei r\u00f4l fel rhiant sengl i ddau o blant; ei astudiaethau blaenorol mewn crefydd a diwinyddiaeth a mwy nag ugain mlynedd o brofiad o ymarfer meddylgarwch ac o fyfyrio. <\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-4 wp-block-paragraph\"> Yn ystod ei radd gyntaf mewn Astudiaethau Crefydd a Diwinyddiaeth darganfyddodd Tom ei fod yn gwerthfawrogi\u2019n fawr grefyddau Indiaidd, yn enwedig Bwd\u0457aeth. Yn ogystal \u00e2 darllen amdano a\u2019i astudio, dechreuodd arbrofi gartref gyda meddylgarwch. Ochr yn ochr \u00e2\u2019i fyfyrio ffurfiol wrth eistedd, mae\u2019n ymarfer meddylgarwch mewn sawl gweithgaredd bob dydd, popeth o ymolchi i yfed coffi yn y gwely yn y bore, i siarad gyda\u2019i blant a cherdded o gwmpas y pentref. Mae ymarfer bod yn ystyriol ac yn garedig yn agweddau pwysig ar ei ymarfer meddylgarwch. Mae profi buddion enfawr o\u2019r ymarferion hyn wedi ei annog i barhau \u00e2 nhw a chysylltu ag ymarferwyr eraill.<\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-5 wp-block-paragraph\">Yn hytrach na cheisio dod \u00e2 meddylgarwch i mewn i addysg Waldorf, man cychwyn Tom yw dyfalu am yr elfen ystyriol sydd yn bresennol yn barod mewn ysgolion Waldorf, er enghraifft i\u2019w gweld yn ymagwedd myfyriol athrawon sydd wedi eu hyfforddi i ddatblygu ymwybyddiaeth ddwys wedi ei seilio ar arsylwi o ddatblygiad plentyn, ac felly o\u2019r plant yn eu gofal.<\/p>\n\n<p class=\"has-text-align-center has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-6 wp-block-paragraph\"><p><em>\u201cGallwn ddweud bod gan addysg Waldorf sawl man cychwyn. Un o\u2019r rhain yn bendant yw datblygiad y plentyn. Serch hynny mae Rudolf Steiner hefyd yn ein hatgoffa bod yn rhaid i ni sy\u2019n athrawon weithio arnon ni ein hunain; dyma fan cychwyn arall athroniaeth ein haddysg.\u201d\u00a0 <\/em><\/p><\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-7 wp-block-paragraph\">Ochr yn ochr \u00e2 gwerthuso yr ymarfer myfyriol hwn, a mynegiant arall o ymagwedd ystyriol sydd efallai wedi ei ymgorffori mewn addysg Waldorf \u2013 er enghraifft mewn celf, rhythm a phensaern\u0457aeth \u2013 mae Tom hefyd yn archwilio a fyddai lle i fynegiant mwy ffurfiol o feddylgarwch fel myfyrio wrth eistedd neu wrth gerdded; ymarfer na fyddai\u2019r rhan fwyaf o addysgwyr Waldorf yn ei gyflwyno i\u2019r dosbarth.<\/p>\n\n<p class=\"has-text-align-center has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-8 wp-block-paragraph\"><p><em>\u201cOs yw addysg Waldorf yn ystyriol yn barod, fe all wella ein dealltwriaeth o\u2019r hyn mae\u2019n ei olygu i ddefnyddio meddylgarwch mewn addysg, a\u2019r hyn yw gwir ystyr meddylgarwch\u2026Gall dynnu sylw at ffyrdd y gall addysg Waldorf ysbrydoli addysg a meddylgarwch \u2013 mewn \u2013 addysg, gan ein caniat\u00e1u ni i ystyried sut rydyn ni\u2019n cyflwyno addysg, ond hefyd sut rydyn ni\u2019n defnyddio meddylgarwch mewn addysg.\u201d<\/em><\/p><\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-9 wp-block-paragraph\">Mae Tom yn gobeithio y bydd yr ymchwil o ran ei ddau gwestiwn canolog yn dylanwadu ar y trafod byd-eang ym maes addysg, a meddylgarwch &#8211; mewn &#8211; addysg, o ran sut rydyn ni\u2019n addysgu plant mewn ffordd ystyrlon a chyfannol. Mae\u2019n gobeithio cyfrannu at ffyrdd o addysgu pobl ifanc sy\u2019n eu hystyried fel bodau dynol; fel unigolion, yn gymdeithasol, ac yn rhan o\u2019r byd rydyn ni\u2019n byw ynddo.<\/p>\n\n<p class=\"has-text-align-center has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-10 wp-block-paragraph\"><p><em>\u201cRwy\u2019n ymwybodol iawn o\u2019r llenyddiaeth ymchwil, o sgyrsiau gydag athrawon tu mewn a thu allan i fudiad Waldorf \u2013 a chyda phobl ifanc eu hunain \u2013 bod ar addysg angen ymateb mewn ffordd ystyrlon i gefnogi datblygiad cyfannol cenedlaethau\u2019r dyfodol. Mae fy ngwaith i yn cynrychioli fy ymdrechion i yn hyn o beth.\u201d<\/em><\/p><\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-11 wp-block-paragraph\"><p>Mae ei ymrwymiad i botensial trawsnewidiol addysg yn un rhyngwladol. Mae wedi meithrin partneriaethau gydag addysgwyr a mudiadau ledled y byd, gan gynnwys <a href=\"https:\/\/jhamtse.org\">Jhamtse Gatsal&#8217;s Children&#8217;s Community<\/a>; cartref ac ysgol i blant bregus yn yr Himalaia yn India, yn ogystal \u00e2 menter addysgol llawr gwlad yn Ethiopia sydd wedi ei hanelu at gynyddu defnydd ohoni a chydraddoldeb i gymunedau ar y cyrion. \u00a0Trwy\u2019r holl bartneriaethau hyn mae\u2019n parhau i ganolbwyntio ar feithrin a chefnogi addysg sydd ag urddas, ac \u00e2 pherthyn, ac \u00e2 datblygu potensial dynol yn greiddiol iddo.\u00a0 Yn ddiweddar hefyd trefnodd Tom ddwy sgwrs i gael dechrau trafodaeth fyd-eang sut y gall meddylgarwch fod yn bwysig yn Waldorf. Daeth addysgwyr ac eraill i\u2019r sgyrsiau hyn o Brasil, Yr Ariannin, o Fecsico, o UDA, o\u2019r DU, o Hwngari, o wlad Thai, ac o Indonesia. Yn ogystal mae wedi bod mewn cysylltiad ag eraill yng Nghanada, yn Chile, yn Periw, yn Norwy, yn Ynysoedd Philippines, yn Awstralia, yn Seland Newydd ac yn UDA.<\/p><\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-12 wp-block-paragraph\">Yn y dyfodol, mae Tom yn gobeithio ymweld ag ysgolion Waldorf ledled y byd, a dysgu oddi wrth athrawon yno. Mae\u2019n gobeithio hefyd y bydd ei waith cyfredol yn cefnogi ymchwil byd-eang arall i fod yn gadarnhad sydd yn wir ei angen ar ysgolion Waldorf sydd ar \u00f4l yn y DU.  Yn fwy lleol, mae\u2019n gobeithio cefnogi datblygu system addysg ystyrlon a diffuant yng Nghymru a thu hwnt.<\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-13 wp-block-paragraph\">I ddarganfod rhagor am Tom: <\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><p><strong>Ebost: <\/strong><a href=\"mailto:tom@tomblackwell.education\">tom@tomblackwell.education<\/a><\/p><\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><p><strong>Gwefan<\/strong>: <a href=\"http:\/\/www.tomblackwell.education\">www.tomblackwell.education<\/a><\/p><\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><p><strong>Instagram: <\/strong><a href=\"https:\/\/www.instagram.com\/tomblackwell.education\/\">https:\/\/www.instagram.com\/tomblackwell.education\/<\/a><\/p><\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><p><strong>LinkedIn: <\/strong><a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/in\/tomkblackwell\/\">Tom Blackwell | LinkedIn<\/a><\/p><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>\u201cRwy\u2019n hynod o ddiolchgar i mi fy hun pan yn iau am fod yn barod i arbrofi gydag ymarfer meddylgarwch a\u2019i fabwysiadu yn rhan o\u2019m bywyd bob dydd. Y gwerthfawrogiad hwn sy\u2019n sail i fy awydd i barhau i ddwys\u00e1u fy nealltwriaeth, gan gynnwys fy ymchwil PhD.\u201d\u00a0 (Tom Blackwell) Mae Tom Blackwell yn fyfyriwr PhD [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":2370,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_et_pb_use_builder":"off","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","wds_primary_category":0,"footnotes":""},"categories":[21],"tags":[],"class_list":["post-2434","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-ysbrydoliaeth-o-gymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2434","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2434"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2434\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2437,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2434\/revisions\/2437"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2370"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2434"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2434"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2434"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}