{"id":2602,"date":"2026-07-15T14:28:26","date_gmt":"2026-07-15T13:28:26","guid":{"rendered":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/2026\/07\/15\/yr-ymarfer-a-newidiodd-bopeth\/"},"modified":"2026-08-07T12:56:34","modified_gmt":"2026-08-07T11:56:34","slug":"yr-ymarfer-a-newidiodd-bopeth","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/2026\/07\/15\/yr-ymarfer-a-newidiodd-bopeth\/","title":{"rendered":"Yr Ymarfer a Newidiodd Bopeth"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"has-text-align-center has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-1 wp-block-paragraph\"><p><em>\u201cPe bawn i\u2019n dewis tri gair sydd wrth galon fy ymarfer, llonyddwch, perspectif a chysylltiad fyddai\u2019r rheiny.\u201d <\/em>(Catherine Waterfall)<\/p><\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-2 wp-block-paragraph\">Yn 2014, ymunodd Catherine \u00e2 chwrs Meddylgarwch sy\ua78cn Seiliedig ar Leihau Straen, yn y gobaith y byddai\ua78cn lleihau ei gorbryder; roedd hyn ar \u00f4l profi straen yn gysylltiedig \u00e2 gwaith fel rheolwr-gyfarwyddwr a chyd-berchennog cwmni cyhoeddi. Roedd hi\ua78cn amheus ar y dechrau, yn ansicr a fyddai meddylgarwch yn gwneud gwahaniaeth i feddwl prysur a oedd yn gorweithio. Roedd yr hyn a ddarganfyddodd yn fwy pwerus o lawer: newidiodd y cwrs ei bywyd. \u201c Mae\ua78cn rhoi gofod i mi,\u201deglura. \u201c Mae\ua78cn galluogi i mi gael seibiant. Yn bwysicach fyth, mae\ua78cn fy atgoffa nad oes raid i mi gredu pob syniad pryderus sy\ua78cn mynd trwy fy meddwl.\u201d<\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-3 wp-block-paragraph\">Ddwy flynedd yn ddiweddarach, hyfforddodd Catherine fel athrawes meddylgarwch gyda Prifysgol Bangor. Erbyn hynny roedd meddylgarwch wedi dod yn fwy nag ymarfer i reoli gorbryder; roedd hi \u00e2 diddordeb angerddol ynddo. Roedd hi eisiau helpu eraill a oedd yn delio \u00e2 straen, \u00e2 phwysau ac a oedd wedi eu llorio gan waith a chyfrifoldebau personol.<\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-4 wp-block-paragraph\">Roedd Catherine yn dyst i\ua78cr trawsnewidiad hwn mewn eraill trwy ei haddysgu gydag elusen iechyd meddwl yn Y Trallwng. Mae\ua78cn cofio un cyfranogwr yn cael cymaint o drafferth gyda\ua78cr sesiwn cyntaf o sganio\ua78cr corff fel ei bod yn ei dagrau ac wedi gwylltio gyda Catherine. Ond fe ddaeth yn \u00f4l. Bedair blynedd yn ddiweddarach, hi yw un o\ua78cr rhai mae Catherine yn eu hadnabod sy\ua78cn credu\ua78cn gryfaf o blaid meddylgarwch \u2013 sy\ua78cn ein hatgoffa y gall newid ddechrau yn y mannau lle mae pobl yn teimlo fwyaf anghyfforddus.<\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-5 wp-block-paragraph\">Erbyn hyn, ei bwriad yw treulio o leiaf ugain munud y diwrnod yn myfyrio wrth eistedd, yn ogystal \u00e2 phlethu meddylgarwch anffurfiol trwy fywyd pob dydd, yn enwedig mewn byd natur. Daeth cerdded, rhedeg, nofio a sylwi ar y byd o\ua78ci chwmpas i gyd yn gyfleoedd i ddod yn \u00f4l at y presennol.<\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"https:\/\/mindfulness-wales.org\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/Catherine-Waterfall-1-1024x768.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2534\" srcset=\"https:\/\/mindfulness-wales.org\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/Catherine-Waterfall-1-980x735.jpg 980w, https:\/\/mindfulness-wales.org\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/Catherine-Waterfall-1-480x360.jpg 480w\" sizes=\"(min-width: 0px) and (max-width: 480px) 480px, (min-width: 481px) and (max-width: 980px) 980px, (min-width: 981px) 1024px, 100vw\" \/><\/figure>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-6 wp-block-paragraph\">Yn ogystal mae enciliau ystyriol hunan-gydymdeimlad wedi ei dysgu i fod yn fwy caredig ac yn fwy addfwyn \u00e2 hi ei hun. Er ei bod yn tueddu i ofidio a rhagweld y dyfodol, mae meddylgawrch yn ei helpu i nodi\ua78cr meddyliau hynny heb gael ei llorio ganddyn nhw.<\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-7 wp-block-paragraph\">Mae\ua78cr newidiadau wedi dylanwadu ar nifer o bethau yn ei bywyd. O ran perthynasau mae\ua78cn teimlo ei bod yn well am wrando: yn arafach i adweithio trwy godi gwrychyn a theimlo\ua78cn rhwystredig, ac yn fwy cymwys i fod yn amyneddgar wrth ymateb. Yn gorfforol, mae rhedeg a nofio mewn ffordd ystyriol wedi ei helpu hi i ymgyfarwyddo \u00e2\ua78ci chorff.<\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-8 wp-block-paragraph\">Mae hefyd wedi newid perthynas Catherine \u00e2 llwyddiant. Mae\ua78cn llai pwysig iddi lwyddo er  mwyn llwyddo; mae hapusrwydd, bodlonrwydd, a chadernid mewnol yn bwysicach o lawer nag elwa yn ariannol na statws proffesiynol. Trwy ei hymarfer mae Catherine yn egluro ei bod wedi darganfod heddwch trwy lonyddu\ua78cr corff a\ua78cr meddwl. Mae llonyddwch yn ei chadw\ua78cn gadarn yn y presennol ac yn dod \u00e2 thawelwch i\ua78cw dydd.<\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-9 wp-block-paragraph\">Yn ogystal mae wedi sylwi ar newid perspectif sy\ua78cn dod o arafu\ua78cr meddwl, gan roi cyfleoedd iddi sylwi ar feddyliau brawychus a\ua78cu gweld am yr hyn ydyn nhw, gweld problemau yn gliriach na thrwy phrism o ofn. Mae Catherine hefyd yn nodi iddi deimlo cysylltiad cryf ag eraill tra eu bod nhw\ua78cn myfyrio mewn gr\u0175p, yn athrawes ac yn gyfranogwr fel ei gilydd. Mae cydymarfer yn aml yn ei gadael gyda theimlad o berthynas ag eraill.<\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-10 wp-block-paragraph\">Roedd yna adeg pan aeth Catherine o fod yn berson prysur, allanol-lwyddiannus, i rywun na allai agor ei gliniadur heb gael pwl o banic; pan oedd pwysau rhedeg busnes bellach wedi mynd yn ormod. Ni wnaeth meddylgarwch gael gwared \u00e2 phob rhwystr, ond fe wnaeth drawsffurfio sut mae\ua78cn ymateb i straen. Mae\ua78cn dawelach ei meddwl, yn hapusach ac yn gallu ymdopi\ua78cn well \u00e2 bywyd fel y mae.<\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-11 wp-block-paragraph\">Mae Catherine yn gwybod ei fod yn anochel y bydd rhagor o adegau anodd i ddod mewn bywyd ond mae\ua78cn credu y bydd ei bwriad o barhau i gael ffydd yn ei hymarfer yn ei helpu hi i ddelio \u00e2 nhw gyda sadrwydd, gyda dewrder ac mewn modd ystyriol.<\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-12 wp-block-paragraph\">Dymuniad Catherine yw i feddylgarwch fod yn fwy cyffredin mewn cymdeithas, yn enwedig ymysg arweinwyr, cyflogwyr a phobl mewn awdurdod. Mae\ua78cn gwybod o brofiad mor anodd yw arwain ac mae eisiau datblygu rhagor o gysylltiadau yn y byd corfforaethol gydag arweinwyr busnes a rheolwyr. Mae gan feddylgarwch lawer i\ua78cw gynnig i\ua78cr rhai sydd \u00e2 chyfrifoldeb: nid fel datrysiad sydyn ond fel ffordd ymarferol, ddynol i ddatblygu eglurder, gwydnwch a charedigrwydd.<\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-13 wp-block-paragraph\">Dechreuodd profiad Catherine gyda gorbryder ac amheuaeth, ond mae wedi datblygu i fod yn ymarfer gydol oes sydd \u00e2\ua78ci wreiddiau mewn llonyddwch, perspectif a chysylltiad. Dyna pam mae\ua78cn addysgu meddylgarwch: oherwydd mae\ua78cn gwybod sut mae\ua78cn teimlo i gael ei llorio, a hefyd mae\ua78cn gwybod bod ffordd arall o fyw yn bosibl.<\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-14 wp-block-paragraph\"><p><strong>Manylion Cyswllt: <\/strong><\/p><\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><p>Gwefan:\u00a0 <a href=\"http:\/\/www.good4mind.com\/\">http:\/\/www.good4mind.com\/<\/a><\/p><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>\u201cPe bawn i\u2019n dewis tri gair sydd wrth galon fy ymarfer, llonyddwch, perspectif a chysylltiad fyddai\u2019r rheiny.\u201d (Catherine Waterfall) Yn 2014, ymunodd Catherine \u00e2 chwrs Meddylgarwch sy\ua78cn Seiliedig ar Leihau Straen, yn y gobaith y byddai\ua78cn lleihau ei gorbryder; roedd hyn ar \u00f4l profi straen yn gysylltiedig \u00e2 gwaith fel rheolwr-gyfarwyddwr a chyd-berchennog cwmni cyhoeddi. [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":2533,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_et_pb_use_builder":"off","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","wds_primary_category":0,"footnotes":""},"categories":[21],"tags":[],"class_list":["post-2602","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-ysbrydoliaeth-o-gymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2602","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2602"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2602\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2605,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2602\/revisions\/2605"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2533"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2602"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2602"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2602"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}