{"id":2663,"date":"2026-08-07T10:43:37","date_gmt":"2026-08-07T09:43:37","guid":{"rendered":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/2026\/08\/07\/o-fangor-i%ea%9e%8cr-byd-datblygu-cymuned-meddylgarwch-byd-eang\/"},"modified":"2026-08-20T22:55:52","modified_gmt":"2026-08-20T21:55:52","slug":"o-fangor-i%ea%9e%8cr-byd-datblygu-cymuned-meddylgarwch-byd-eang","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/2026\/08\/07\/o-fangor-i%ea%9e%8cr-byd-datblygu-cymuned-meddylgarwch-byd-eang\/","title":{"rendered":"O Fangor I\ua78cr Byd: Datblygu Cymuned Meddylgarwch Byd-eang"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"has-text-align-center has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-1 wp-block-paragraph\"><p><em>\u201cY ffordd i ddatblygu yw trwy rwydweithio, parodrwydd a bod yn agored i ymgysylltu a chyd-weithio\u201d (<\/em>Yr Athro Rebecca Crane<em>)<\/em><\/p><\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-2 wp-block-paragraph\">Wedi ei lleoli ym Mhrifysgol Bangor, gogledd Cymru, mae\ua78cr Canolfan Ymchwil ac Ymarfer Meddylgarwch wedi datblygu o fenter leol i ganolfan ryngwladol o ddysgu a chymuned. Mae ei gweledigaeth yn syml ond yn ddwys: meithrin meddylgarwch i leihau afiechyd, cynyddu llesiant a helpu bobl ffynnu.<\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-3 wp-block-paragraph\">Yn ei blynyddoedd cynnar, roedd gwreiddiau\ua78cr Ganolfan yn ddwfn yn yn y DU, yn dod \u00e2 meddylgarwch i faes iechyd a gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig y GIG. Roedd y gwaith wedi ei angori yn y rhaglenni seiliedig &#8211; ar &#8211; dystiolaeth Dulliau Seiliedig ar Feddylgarwch i Leihau Straen (MBSR) a Therapi Ymwybyddol Seiliedig ar Feddylgarwch (MBCT). Yn raddol datblygodd y gwaith tu hwnt i ymarfer clinigol gyda hyfforddeion yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd gan gynnwys meysydd corfforaethol, yr heddlu, addysg, gwasanaethau cymdeithasol, a chyrff cyhoeddus eraill. Ers 2017, ac yn enwedig gydag ehangu dysgu arlein yn ystod Covid, mae ei ddylanwad wedi dod yn raddol yn fwy byd-eang.<\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-4 wp-block-paragraph\">Mae\ua78cr ehangu hwn yn adlewyrchu newid ehangach ym maes meddylgarwch. Mae\ua78cr hyn a ddechreuodd yn bennaf mewn meysydd clinigol bellach yn berthnasol i faes iechyd, i addysg, i weithleoedd, i fywyd cymunedol a datblygiad personol. Heddiw, mae\ua78cr Ganolfan yn croesawu pobl sydd eisiau meithrin meddylgarwch er eu llesiant eu hunain ac er budd y rhai maent yn cyd-fyw ac yn cyd-weithio \u00e2 nhw.<\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-5 wp-block-paragraph\">Dechreuodd taith feddylgarwch Yr Athro Rebecca Crane ymhell cyn i feddylgarwch ddod yn gyffredin ym maes iechyd ac ym maes addysg. Ar \u00f4l cael ei denu at feddylgarwch tra roedd yn ei harddegau hwyr, aeth ar gwrs rhagarweiniol Bwd\u0457aidd un penwythnos, yn ddiweddarach teithiodd yn India am naw mis, ac yna treuliodd rai misoedd yn ymarfer mewn teml yng Ngwlad Thai, gan ddod ar draws dysgeidiaethau a luniodd ei gwerthoedd a\ua78ci hymarfer. Ar \u00f4l hyfforddi fel therapydd galwedigaethol yn Rhydychen, parhaodd i ddwys\u00e1u ei meddylgarwch trwy gysylltu \u00e2 mynach Bwd\u0457aidd ac encilion.<\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-6 wp-block-paragraph\">Erbyn canol y 1990au, roedd meddylgarwch yn ymarfer personol ac yn ddiddordeb proffesiynol a oedd yn dod i\ua78cr amlwg, fel ei gilydd. Roedd Yr Athro Mark Williams ym Mhrifysgol Bangor yn recriwtio cyfranogwyr i ymchwilio i\ua78cr hyn ddaeth yn MBCT, gan ddefnyddio pobl o d\u00eem iechyd meddwl cymunedol Rebecca yng ngogledd Cymru. Testun y profion ymchwil ym Mangor oedd defnydd o MBCT fel ymagwedd i atal ailwaelu mewn pobl a oedd mewn perygl o isleder dro ar \u00f4l tro, gan bontio hen ymarfer myfyrgar a gwyddoniaeth wybyddol gyfoes.<\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-7 wp-block-paragraph\">I Rebecca, roedd effaith MBCT yn syfrdanol. Gwelodd newid dros gyfnod o wyth wythnos a oedd yn teimlo\ua78cn annhebyg i unrhyw beth roedd wedi bod yn dyst iddo o\ua78cr blaen yn ei gwaith yn y gwasanaethau iechyd meddwl. Nodwyd pwynt arloesol yn y maes wrth gyhoeddi\ua78cr papur cyntaf o\ua78cr profion gwreiddiol yn 2000, gan ddangos lleihad sylweddol mewn graddfa ailwaelu mewn pobl ag iselder clinigol. Penodwyd Rebecca yn gyfarwyddwr sefydlol y Ganolfan ychydig cyn i Mark Williams adael Bangor i ddechrau swydd newydd ym Mhrifysgol Rhydychen.<\/p>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-black-color has-text-color has-link-color has-medium-font-size wp-elements-8\"><p><strong>Datblygu tystiolaeth, hyfforddi athrawon a llunio safonau\u00a0 <\/strong><\/p><\/h2>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-9 wp-block-paragraph\">Sefydlwyd y Ganolfan gyda diben ymarferol ac uchelgeisiol: dod \u00e2 meddylgarwch i\ua78cr GIG mewn ffordd ddefnyddiol, gywir a chadarn. Roedd tystiolaeth yn dechrau dangos bod ymagweddau a oedd yn seiliedig ar feddylgarwch yn gallu helpu, ond roedd cwestiynau allweddol i\ua78cw hateb o hyd. Sut y dylid addysgu rhaglenni? Sut y gellid hyfforddi athrawon mewn ffordd dda? Sut oedd modd adnabod ansawdd? Sut y gellid ymgorffori meddylgarwch mewn gwasanaethau go iawn?<\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-10 wp-block-paragraph\">Arweiniodd y cwestiynau hyn staff y Ganolfan i gymysgedd hynod o ymchwil, o ymarfer ac o hyfforddi. Ymgysylltodd Rebecca ag ymchwilwyr ledled y byd, cyd-weithiodd yn rhyngwladol ar bapurau, ac arweiniodd ar ddatblygu Dulliau Sy\ua78cn Seiliedig ar Feddylgarwch: Meini Prawf Asesiadau Addysgu, sydd wedi bod yn ddylanwadol yn rhyngwladol. Mae  gwaith y Ganolfan bob amser wedi bod yn sylwadol ac yn berthynol: casglu tystiolaeth, dysgu o brofiadau a datblygu cymunedau ymarfer.<\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-11 wp-block-paragraph\">Dechreuodd Rebecca drafod yn gynnar \u00e2 Breathworks ac \u00e2 chyd-weithwyr yn Yr Alban, yn Rhydychen ac yng Nghaerwysg a arweiniodd at greu Rhwydwaith y DU i athrawon a oedd yn defnyddio meddylgarwch, ac yn ddiweddarach a ddaeth yn British Association of Mindfulness-Based Approaches (BAMBA), gan helpu creu canllawiau ymarfer da a chyd-safonau i hyfforddi athrawon meddylgarwch. Mae\ua78cr ysbryd hwn o gyd-weithio yn allweddol i hunaniaeth y Ganolfan: cyd-weithio i warchod integriti addysg meddylgarwch wrth iddo ehangu.<\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-12 wp-block-paragraph\">Daeth y myfyrwyr graddfeistr cyntaf o gefndiroedd ym maes iechyd, ond gydag amser cyrhaeddodd gyfranogwyr o nifer o gyd-destunau proffesiynol a phersonol. Yn gynyddol daeth hyfforddi athrawon o ledled y DU ac yn rhyngwladol a dylanwadodd ar fywyd dinesig yng Nghymru. Dyfarnwyd y tender i Brifysgol Bangor i gyflwyno hyfforddi meddylgarwch yn y Senedd, gydag aelodau\ua78cr cynulliad a\ua78cr staff yn ymwneud \u00e2 meddylgarwch o ran iechyd, addysg a gwasanaethau cyhoeddus. Mae hyn yn adlewyrchu un o obeithion ehangach y Ganolfan: y bydd meddylgarwch yn cynnal systemau mwy dynol, mwy myfyrgar a mwy ystyriol.<\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-13 wp-block-paragraph\">Mae hanfod y gwaith yn parhau i fod yn berthynol. Nid yw meddylgarwch yn dechneg unigol yn unig; mae\ua78cn ffordd o feithrin ymwybyddiaeth, caredigrwydd a chadernid a all dreiddio\ua78cn araf i dimau, i wasanaethau, i deuluoedd ac i gymunedau. Mae\ua78cr Ganolfan yn meithrin cymunedau ystyriol trwy hyfforddeion, trwy gyd-weithio ym maes ymchwil, trwy ddiwylliant y gweithle a thrwy bartneriaethau parhaus ar draws Cymru, Y DU, a thu hwnt.<\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-14 wp-block-paragraph\">Heddiw, mae\ua78cr Ganolfan yn parhau i ddod ynghyd hen ddoethineb, seicoleg modern a hyfforddiant proffesiynol ymarferol. Mae ei dylanwad yn amlwg mewn ymchwil, datblygu athrawon, safonau, gwasanaethau cyhoeddus, ac yn y bobl niferus sy\u2019n mynd \u00e2 meddylgarwch i\ua78cw cymunedau ac yn ei gynnwys yn ei bywydau. O Fangor, mae\ua78cr gwaith yn lledaenu tu hwnt, gan gael ei gario gan rwydweithiau sydd wedi ymrwymo i ymarfer, i addysgu ac i fyw meddylgarwch gyda gofal.<\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-15 wp-block-paragraph\"><p><strong><u>Manylion Cyswllt: <\/u><\/strong><\/p><\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><p><strong>Gwefan: <\/strong><a href=\"https:\/\/www.bangor.ac.uk\/cy\/meddylgarwch\/cyhoeddiadau\"><strong>Canolfan Ymchwil ac Ymarfer Meddylgarwch<\/strong><\/a><\/p><\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><p><strong>Facebook<\/strong>:\u00a0<strong>Centre formindfulness <\/strong><a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/centreformindfulness\"><strong>https:\/\/www.facebook.com\/centreformindfulness<\/strong><\/a><\/p><\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><p><strong>LinkedIn:\u00a0<\/strong><a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/company\/centre-for-mindfulness-research-and-practice-bangor-university-uk\/?viewAsMember=true\"><strong>https:\/\/www.linkedin.com\/company\/centre-for-mindfulness-research-and-practice-bangor-university-uk\/?viewAsMember=true<\/strong><\/a><\/p><\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><p>Manylion y cwrs:<\/p><\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><p><a href=\"https:\/\/www.bangor.ac.uk\/courses\/postgraduate-taught\/contemplative-psychology-mindfulness-and-compassion?fbclid=IwZXh0bgNhZW0CMTAAYnJpZBExU0ZIbWlSanBFeUIzZkZ0VXNydGMGYXBwX2lkEDIyMjAzOTE3ODgyMDA4OTIAAR7_0EacHsZL2hmvPwXPwZUjPYEmZk3w20hrFI_H-QEhBfGJAJnzVr5vYiEzeA_aem_kK-F3rRjegCzjdB2OUUztQ\">Contemplative Psychology: Mindfulness and Compassion | Bangor University<\/a><\/p><\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><p><strong>YouTube mindfulness channel:\u00a0<\/strong><a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=Z2mWpdyKn54&amp;list=PLtgySf_s3NlOfMvH5DFcG7VD5YJVptR8w\"><strong>https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=Z2mWpdyKn54&amp;list=PLtgySf_s3NlOfMvH5DFcG7VD5YJVptR8w<\/strong><\/a><\/p><\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><p><strong>Pam dewis Bangor? <\/strong><a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=pupR9tzVkTU&amp;list=PLtgySf_s3NlOfMvH5DFcG7VD5YJVptR8w&amp;index=11\"><strong>https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=pupR9tzVkTU&amp;list=PLtgySf_s3NlOfMvH5DFcG7VD5YJVptR8w&amp;index=11<\/strong><\/a><\/p><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>\u201cY ffordd i ddatblygu yw trwy rwydweithio, parodrwydd a bod yn agored i ymgysylltu a chyd-weithio\u201d (Yr Athro Rebecca Crane) Wedi ei lleoli ym Mhrifysgol Bangor, gogledd Cymru, mae\ua78cr Canolfan Ymchwil ac Ymarfer Meddylgarwch wedi datblygu o fenter leol i ganolfan ryngwladol o ddysgu a chymuned. Mae ei gweledigaeth yn syml ond yn ddwys: meithrin [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":2578,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_et_pb_use_builder":"off","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","wds_primary_category":0,"footnotes":""},"categories":[21],"tags":[],"class_list":["post-2663","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-ysbrydoliaeth-o-gymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2663","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2663"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2663\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2666,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2663\/revisions\/2666"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2578"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2663"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2663"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2663"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}