{"id":2677,"date":"2026-07-24T12:57:14","date_gmt":"2026-07-24T11:57:14","guid":{"rendered":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/2026\/07\/24\/cerdded-ir-presennol\/"},"modified":"2026-08-28T21:38:00","modified_gmt":"2026-08-28T20:38:00","slug":"cerdded-ir-presennol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/2026\/07\/24\/cerdded-ir-presennol\/","title":{"rendered":"Cerdded I\u2019r Presennol"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"has-text-align-center has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-1 wp-block-paragraph\"><p><em>\u201cFfordd wych o gysylltu \u00e2\u2019r funud ac \u00e2 natur ac o fod yn bresennol.\u201d\u00a0 <\/em>(Davy Greenough)<\/p><\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-2 wp-block-paragraph\">Dechreuodd meddylgarwch i Davy yn 2008 fel cymorth ymarferol yn ystod cyfnod o waith caled, o straen a gorbryder. Ymunodd \u00e2 chwrs wyth wythnos Therapi Gwybyddol sy\ua78cn Seiliedig ar Feddylgarwch ym Mhrifysgol Bangor, ac o fewn wythnosau, teimlodd fod ei orbryder yn cilio.<\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-3 wp-block-paragraph\">Gwnaeth y cwrs cyntaf hwnnw fwy na lleddfu gorbryder Davy; fe agorodd lwybr gydol oes o ymarfer, o astudio, ac o rannu. Aeth ymlaen i ddwys\u00e1u ei hyfforddiant trwy gwblhau cwrs Byw yn Ystyriol Yn Seiliedig ar Feddylgarwch gyda Judith Soulsby, cwrs hyfforddi athrawon gyda Sarah Silverton, helpu gydag addysgu, ac encil dawel bum niwrnod yn Nhrigonos yng Ngogledd Cymru. Yn ystod hyn lluniwyd ei ddealltwriaeth gan athrawon ac awduron gan gynnwys Jon Kabat-Zinn, Thich Nhat Hanh ac Eckhart Tolle. Dros gyfnod o amser, datblygodd addysgu Davy ei hun i gynnwys meddylgarwch ffurfiol ac anffurfiol fel ei gilydd, gan gynnwys nifer o flynyddoedd yn cynnal gr\u0175p ymarfer cymunedol yng Nghanolfan Ucheldre yng Nghaergybi.<\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-4 wp-block-paragraph\">Mae ei ymarfer dyddiol ef yn syml: tair i bum munud o feddylgarwch boreol gyda Jane, ei wraig, yn ogystal \u00e2 meddylgarwch anffurfiol yn ystod y dydd. Gall olygu sylwi ar y corff wrth wneud gwaith t\u0177, bod yn ymwybodol wrth yrru, neu ddal y meddwl wrth iddo araf lithro i gynllunio. Mae\ua78cr effaith wedi bod yn un ddofn: llai o orbryder, mwy o orfoledd, a bywyd sy\ua78cn teimlo\ua78cn fyw ac yn llawn lliw.<\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-5 wp-block-paragraph\">Yn ogystal mae wedi newid sut mae\ua78cn ymdopi \u00e2 chyfnodau anodd. Nid yw meddylgarwch am dawelu yn unig; mae am fod yn bresennol pan fo pethau\ua78cn anodd, eglura Davy. Yn hytrach nag atal profiadau amhleserus, mae Davy yn disgrifio gallu ymdrin \u00e2\ua78cr hyn sy\ua78cn digwydd, gan ei helpu ef i fod yn fwy presennol gydag anwyliaid tra bo \u201cbywyd go iawn\u201d yn digwydd o\ua78ci gwmpas.<\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-6 wp-block-paragraph\">Heddiw, mae Davy yn rhannu\ua78cr ymarfer trwy gerdded yn ystyriol. Mae wedi cymhwyso i arwain teithiau cerdded yr iseldir trwy\ua78cr Mountain Training Association ac i roi cymorth cyntaf awyr agored. Mae\ua78cn arwain teithiau o gwmpas Caergybi, Cwm Idwal a Pharc Cenedlaethol Eryri, gyda mudiadau fel Y Parc Cenedlaethol a\u2019r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a grwpiau lleol ar hyd llwybr yr arfordir ar Ynys M\u00f4n.<\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-7 wp-block-paragraph\">Mae\ua78cr fformat yn syml ond yn bwerus. Mae\ua78cr cyfranogwyr yn cerdded y rhan gyntaf mewn distawrwydd, gan adael bwlch llydan rhwng pob person. Mae\ua78cr gr\u0175p yn cael saib tair neu bedair gwaith am fyfyrdodau byr, wrth sefyll neu wrth eistedd fel bo\ua78cn briodol. Efallai y bydd darlleniadau neu gerddi sy\ua78cn gysylltiedig \u00e2\ua78cr tirwedd, \u00e2\ua78cr hanes neu \u00e2\ua78cr tymor. Tua hanner ffordd, mae cwpanaid o goffi a byrbryd yn nodi\ua78cr pwynt lle byddant yn dechrau sgwrsio wrth gerdded yn \u00f4l.<\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-8 wp-block-paragraph\">Mae Davy yn mynegi tawelwch nid fel rheol, ond fel gwahoddiad. Mae rhai yn ei chael hi\ua78cn anodd; eraill yn teimlo rhyddhad fod y pwysau arferol i sgwrsio wedi ei leihau. Bydd rhai yn aros yn dawedog hyd yn oed yn ystod yr ail hanner. Mae hiwmor yn help, ac mae\ua78cr pwyslais bob amser ar arbrofi yn hytrach nag ar berfformio.<\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"https:\/\/mindfulness-wales.org\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/Davy-G-1-1-1024x768.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2573\" srcset=\"https:\/\/mindfulness-wales.org\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/Davy-G-1-1-980x735.jpg 980w, https:\/\/mindfulness-wales.org\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/Davy-G-1-1-480x360.jpg 480w\" sizes=\"(min-width: 0px) and (max-width: 480px) 480px, (min-width: 481px) and (max-width: 980px) 980px, (min-width: 981px) 1024px, 100vw\" \/><\/figure>\n\n<p class=\"has-text-align-center has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-9 wp-block-paragraph\"><p><em>\u201cMae\u2019n ffordd wych o gysylltu \u00e2\u2019r foment ac \u00e2 natur ac o fod yn bresennol.\u201d\u00a0 <\/em>(Cyfranogwr)<\/p><\/p>\n\n<p class=\"has-text-align-center has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-10 wp-block-paragraph\"><p><em>\u201cRydyn ni\u2019n cerdded mewn mannau mor hyfryd mae\u2019n gyfle euraidd i werthfawrogi\u2019r byd natur sydd gennyn ni o\u2019n cwmpas.\u201d\u00a0 <\/em>(Cyfranogwr)<\/p><\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-11 wp-block-paragraph\">Mae pobl yn aml yn gadael yn teimlo eu bod wedi ymlacio ac wedi sadio. Mae nifer ohonyn nhw yn sylwi go iawn ar yr hyn sy\ua78cn eu hamgylchynu, efallai am y tro cyntaf ers tro. Mae\ua78cr camau yn arafu, mae\ua78cr \u201cparablu dibaid yn y meddwl\u201d yn tawelu, ac mae\ua78cr corff yn cofio sut i symud heb ruthro. I ymwelwyr, mae\ua78cr teithiau cerdded yn cynnig cysylltiad cofiadwy ag Ynys M\u00f4n ac ag Eryri; i\ua78cr bobl leol, cyfle i adnewyddu perthynas \u00e2 mannau sy\ua78cn gyffredin iddynt.<\/p>\n\n<p class=\"has-text-align-center has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-12 wp-block-paragraph\"><p>\u201c<em>Mae yna naws tawel a meithrinol i bob taith, gan eu gwneud yn ddelfrydol<\/em> <em>i\u2019r sawl \u00e2 iechyd meddwl bregus<\/em>.\u201d (Cyfranogwr)<\/p><\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-13 wp-block-paragraph\">Wrth galon ymagwedd Davy mae sadio, teimlo cysylltiad \u00e2\ua78cr ddaear, sylwi ar ehangder, a theimlo ei hun yn rhan o rywbeth mwy:<\/p>\n\n<p class=\"has-text-align-center has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-14 wp-block-paragraph\"><p>\u201c<em>Yn y mynyddoedd, wrth ymyl d\u0175r, neu ar yr arfordir, mae pryderon yn newid o ran graddfa \u2013 nid oherwydd eu bod yn diflannu, ond oherwydd eu bod o fewn cyd-destun ehangach o awyr, meini, tywydd ac anadl.\u201d<\/em><\/p><\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-15 wp-block-paragraph\">Fe fyddai Davy wrth ei fodd yn gweld meddylgarwch yn dod yn rhywbeth mwy cyffredin, gan gynnwys \u201csaib meddylgarwch\u201d dyddiol mewn ysgolion. Yn ogystal mae\ua78cn gweld potensial mewn cerdded yn ystyriol trwy bresgripsiynu cymdeithasol ac mae\ua78cn gobeithio cynnig teithiau cerdded ystyriol mewn natur i ragor o ymwelwyr, gan gadw cysylltiad rhwng pobl \u00e2\ua78cr ardal leol gan wneud yr ymarfer yn fwy hygyrch.<\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-16 wp-block-paragraph\">Ymwneud yn llawnach \u00e2 bywyd sydd wrth wraidd cerdded yn ystyriol Davy, nid dianc rhagddo. Cam wrth gam, anadl wrth anadl, mae\ua78cn gwahodd pobl i ddod yn \u00f4l i\ua78cr man lle maen nhw yn barod.<\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-17 wp-block-paragraph\"><p>I gysylltu \u00e2 Davy:<\/p><\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><p><strong>Ebost: <\/strong><a href=\"mailto:davyrgreenough@hotmail.com\">davyrgreenough@hotmail.com<\/a><\/p><\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><p><strong>Gwefan: <\/strong>\u00a0<a href=\"https:\/\/eryri.gov.wales\/visit\/events\/\">Events | Eryri National Park<\/a><\/p><\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><p><strong>Facebook: tudalen gr\u0175p \u2013 Holyhead mindful walking group<\/strong><\/p><\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><p><strong>Instagram: davy_walk<\/strong><\/p><\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><p><strong>LinkedIn: Davy Greenough<\/strong><\/p><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>\u201cFfordd wych o gysylltu \u00e2\u2019r funud ac \u00e2 natur ac o fod yn bresennol.\u201d\u00a0 (Davy Greenough) Dechreuodd meddylgarwch i Davy yn 2008 fel cymorth ymarferol yn ystod cyfnod o waith caled, o straen a gorbryder. Ymunodd \u00e2 chwrs wyth wythnos Therapi Gwybyddol sy\ua78cn Seiliedig ar Feddylgarwch ym Mhrifysgol Bangor, ac o fewn wythnosau, teimlodd fod [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":2561,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_et_pb_use_builder":"off","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","wds_primary_category":0,"footnotes":""},"categories":[21],"tags":[],"class_list":["post-2677","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-ysbrydoliaeth-o-gymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2677","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2677"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2677\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2680,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2677\/revisions\/2680"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2561"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2677"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2677"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/mindfulness-wales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2677"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}