Mindfulness in Education Case Studies

Gymru, a fydd ar waith erbyn 2022, yn tynnu ar arferion da o bob rhan o’r byd ac yn nodi Iechyd a Lles fel un o’i chwe Maes Dysgu a Phrofiad (MDaPh)

Y nod ydy cefnogi dysgwyr drwy gydol eu haddysg, a’u hannog i gyflawni eu potensial yn yr ystyr ehangaf bosib.

Mae’r polisïau hyn yn arwydd fod yna bwyslais newydd ar les ym maes Addysg, yn unol â’r fframwaith Cymru gyfan y mae Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ei bennu.

Ochr yn ochr â’r datblygiadau hyn y mae pryder cynyddol ynglŷn ag iechyd meddwl ac emosiynol plant a phobl ifanc yng Nghymru. Ym mis Ebrill 2018, cyhoeddodd Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc Llywodraeth Cymru’r adroddiad Cadernid Meddwl – roedd ei amrywiaeth o argymhellion ar gyfer gwella’r ddarpariaeth yn cynnwys ymwybyddiaeth ofalgar. Adlewyrchir y pryderon hyn ar draws y system addysg mewn polisïau megis y Canllaw Iechyd a Lles i Weithwyr Ieuenctid a pholisïau sydd ar y gweill ym maes Addysg Bellach ac Uwch.

Gall ymwybyddiaeth ofalgar wneud cyfraniad arwyddocaol at y Maes Dysgu a Phrofiad ‘Iechyd a Lles’. Dengys ymchwil sylweddol a phrofiad eang fod rhaglenni ymwybyddiaeth ofalgar yn gallu bod o gymorth i oedolion a dysgwyr, os ydyn nhw’n cael eu darparu gan staff sydd wedi’u hyfforddi’n briodol. Gall ymwybyddiaeth ofalgar ein helpu:

  • i ymdopi â phwysau ac ansicrwydd mewn bywyd a gwaith
  • i gysylltu â phobl a lleoedd sy’n cynnal rhwydweithiau cymdeithasol a theimlad o berthyn i flodeuo drwy ein gwerthfawrogi ni’n hunain, eraill a’r byd o’n cwmpas
  • i roi’r grym i ni newid drwy feithrin gweledigaeth a phersbectif ehangach.

Gellir eu cyflwyno’n ffurfiol yn y dosbarth neu’n fwy anffurfiol; gellir eu cynnig yn anffurfiol mewn lleoliadau addysg ehangach; a gall staff greu amgylchedd mwy ymwybodol ofalgar.

Yn ddiweddar, mae ymwybyddiaeth ofalgar wedi cael ei chyflwyno mewn ysgolion a lleoliadau addysgol ledled Cymru, gyda chymorth rhaglenni o ansawdd uchel i ddysgwyr (y cafodd rhai ohonynt eu creu yng Nghymru).

Ers mis Mawrth, bu pobl ar draws Cymru a’r gwahanol sectorau Addysg yn cydweithio i greu canllawiau cynhwysfawr sy’n cwmpasu pob sector addysgol, gan ddefnyddio enghreifftiau o arferion da. Rydyn ni hefyd wedi creu datganiad o arfer da, ac wedi drafftio canllawiau i leoliadau sy’n cyflwyno ymwybyddiaeth ofalgar ar sut i ddatblygu cynllun hirdymor a chynaliadwy.

Ymysg y cyfranwyr mae cynrychiolwyr o’r Consortia Addysg, cymdeithasau proffesiynol, grwpiau Arloesi, Estyn a’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, Ysgolion Iach, Seicoleg Addysg, awdurdodau lleol, y GIG, Llywodraeth Cymru, a’r sectorau Addysg Bellach, Addysg Uwch ac Anghenion Addysgol Ychwanegol, yn ogystal â phenaethiaid, athrawon sydd eisoes yn defnyddio ymwybyddiaeth ofalgar yn eu hysgolion, academyddion, athrawon ymwybyddiaeth ofalgar a gweithwyr ieuenctid.

Mae pobl yn y maes eisoes yn defnyddio’r Canllawiau i gynllunio eu defnydd o ymwybyddiaeth ofalgar; mae’r Consortia Addysg yn eu defnyddio i helpu ysgolion i roi’r MDaPh Iechyd a Lles ar waith; ac mae Ysgolion Iach Cymru yn eu defnyddio i helpu ysgolion i hyrwyddo eu hagenda. Disgwyliwn i’r gwaith hwn ddatblygu ymhellach yn sgil cyhoeddi’r cwricwlwm terfynol ym mis Ionawr 2022.

Yn y cyfamser, mae’r Gweinidogion Iechyd ac Addysg yn arwain y gwaith o ddatblygu Agwedd Ysgol Gyfan tuag at gefnogi iechyd meddwl ac emosiynol plant a phobl ifanc, gan sicrhau bod y gwasanaethau’n cydweithio er budd y dysgwyr (caiff y Canllawiau Fframwaith Drafft ar gyfer gweithredu’r Agwedd Ysgol Gyfan eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghori arnyn nhw ym mis Rhagfyr 2019). Bydd dogfen y Gweithgor Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn Addysg yn rhan o’r Pecyn Cymorth sy’n ategu’r Canllawiau, gan roi ei gyngor ar gyflwyno ymwybyddiaeth ofalgar wrth galon Addysg yng Nghymru.

“ IMae’n ddyletswydd arnon ni i roi’r sgiliau a’r wybodaeth fydd eu hangen arnyn nhw i genedlaethau’r dyfodol allu chwarae rhan lawn a gweithgar yn eu cymunedau ac yn y gymdeithas ehangach ”

Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl, 2017

“Gall ymarfer technegau ymwybyddiaeth ofalgar gael effaith gadarnhaol iawn ar ein lles, ac mae hyn yn hollbwysig i’n hymarferwyr a’n harweinwyr addysgol ar bob lefel.”

Huw Foster Evans. Prif Weithredwr yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol