Dulliau Gweithredu Sector Cyhoeddus

Rachel Lilley

Gellir addasu Rhaglenni ar Sail Ymwybyddiaeth Ofalgar i gyfrannu at ddulliau gweithredu sector cyhoeddus mewn sawl ffordd

  • cyfuno â dulliau newid sefydliadol i helpu arweinwyr a staff i ddatblygu a dod i ddeall y meddwl mewn ffordd fwy cymdeithasol a chyd-destunol. Gall hyn arwain at newid ar lefel ddiwylliannol a strwythurol.
  • Gallan nhw helpu staff i ddeall damcaniaethau’r meddwl sy’n meithrin persbectif, sy’n cynyddu empathi ac sy’n eu helpu i ddeall eu rhagfarnau nhw eu hunain ac eraill. Gall hyn wella’r berthynas rhwng cydweithwyr.
  • Drwy ddefnyddio model cymdeithasol o straen a delio â rhagfarn, maen nhw’n mynd i’r afael ag achos gwreiddiol y straen. Gall y newidiadau o ran diwylliant ac arferion a ddaw 

    Yng Nghymru, rydyn ni wedi bod yn archwilio sut y gallen ni addasu rhaglenni ymwybyddiaeth ofalgar i gyflawni’r deilliannau hyn. Dros saith mlynedd rydyn ni wedi datblygu’r rhaglen Cipolwg ar Ymddygiad a Gwneud Penderfyniadau ar Sail Ymwybyddiaeth Ofalgar, y mae Rachel Lilley wedi ei threialu â gweision sifil Cymreig fel rhan o’i hymchwil doethuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

    Dechreuodd y rhaglen hon drwy ystyried sut y gellid defnyddio ymwybyddiaeth ofalgar i dargedu arferion gwaith yn y llywodraeth a’r sector cyhoeddus, o’u cymharu â mentrau lles neu hunan-wella eraill. Yn ôl y gwaith ymchwil, mae gweithwyr sector cyhoeddus yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser yn gweithio gyda’u meddyliau nhw eu hunain ac eraill – hynny ydy’n cyd-drafod, deall gwybodaeth gymhleth, cydweithredu a rheoli perthnasau. Ond nid oes llawer o gyfle i ystyried darganfyddiadau gwyddonol diweddar am y ffordd y mae ein meddyliau’n dirnad gwybodaeth, y cysylltiad rhwng emosiynau a gwybyddiaeth neu sut mae rhagfarn yn effeithio ar ein dealltwriaeth.

    Datblygodd Rachel raglen yn defnyddio ymwybyddiaeth ofalgar i helpu timau polisi i archwilio’r damcaniaethau diweddaraf am y meddwl a chydweithiodd ag eraill i ddatblygu dulliau ymchwil addas. Ar ôl i bobl ennill gwybodaeth a sgiliau yn y meysydd hyn (yn hytrach na dysgu i ddelio â straen eu swydd( roedden nhw fel petaen nhw’n fwy bodlon. Roedden nhw’n gallu newid eu dulliau gweithredu i greu perthnasau gwell a dechrau mynd i’r afael â rhagfarnau. 

    Roedd y rhaglen yn defnyddio fframwaith damcaniaethol ar sail economeg ymddygiadol – dull seiliedig ar seicoleg a niwro-wyddoniaeth o ystyried llywodraeth. Gwnaeth hyn y rhaglen yn berthnasol yn y cyd-destun hwn, ac aeth i’r afael â rhai o’r materion moesegol a all godi yn sgil polisïau ar sail ymddygiad.

    Roedd e’n hynod ddiddorol o ran rhoi fframwaith i mi ddeall fy ymddygiad fy hun, ystyried ymateb pobl eraill yn fy nhîm ac, o safbwynt y gwaith polisi rydyn ni’n ei wneud, sut i newid ymddygiad yn y byd go iawn.

    Dysgwr ar y Cwrs MBBI

    Roedd e’n hynod ddiddorol o ran rhoi fframwaith i mi ddeall fy ymddygiad fy hun, ystyried ymateb pobl eraill yn fy nhîm ac, o safbwynt y gwaith polisi rydyn ni’n ei wneud, sut i newid ymddygiad yn y byd go iawn

    Dysgwr ar y Cwrs MBBI