Gofal Iechyd

 Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn ein galluogi ni i ddarganfod ein cyfanrwydd a’n gallu cynhenid i ofalu am ein hiechyd a’n lles waeth pa sialensiau sy’n ein hwynebu. Drwy hyfforddiant caredig a thrwyadl i droi ein hymwybyddiaeth at brofiadau, gallwn ddatgloi ein gallu greddfol i ddysgu, tyfu, gwella a gweddnewid, a chyfrannu at y broses o fuddsoddi yn ein hiechyd a’n lles gan ategu unrhyw feddyginiaeth sydd ar gael.

Drwy ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar rydyn ni’n ailgysylltu â’n dynoliaeth gyffredin, ac mae hyn yn berthnasol i’r rhai sy’n cynnig ac yn derbyn gwasanaethau. Mae’n ein helpu ni i symud oddi wrth y syniad o ‘drwsio’, lle mae derbyn gofal iechyd fel mynd â’r car i’r garej, a chydnabod fod y sawl sy’n rhoi gofal yn ogystal â’r sawl sy’n ei dderbyn yn chwarae rhan weithredol yn y broses o wella.

Rebecca Crane, Cyfarwyddwraig, Canolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar Prifysgol Bangor

Bu gweithgor ymwybyddiaeth ofalgar ym maes Iechyd, yn cynnwys uwch-swyddogion GIG Cymru a darparwyr gwasanaethau llawr gwlad, yn cwrdd i adolygu’r ddarpariaeth bresennol ac ystyried y camau nesaf. Dyma’n sylwadau ni ar gyfraniad Rhaglenni ar Sail Ymwybyddiaeth Ofalgar (RhSYO) fel:

  • Ymyrraeth glinigol ar gyfer unigolion sy’n wynebu sialensiau corfforol a seicolegol
  • Hyfforddiant ar gyfer grwpiau neu unigolion i gefnogi lles staff
  • Methodoleg i wella effeithiolrwydd sefydliadau
    Cyflwyno Clinigol

    Mae fframwaith Matrics Cymru, sy’n arwain y broses o gyflwyno therapïau seicolegol yng Nghymru, eisoes yn rhoi Rhaglenni ar Sail Ymwybyddiaeth Ofalgar (RhSYO) wrth graidd ei strategaeth Iechyd Meddwl ac mae’n argymell cyflwyno’r canlynol yn glinigol:

    • RhSYO arbennig at seicosis
    • Ymyrraeth ar sail ymwybyddiaeth ofalgar megis Therapi Derbyn ac Ymrwymo (ThDY – at anhwylderau gorbryder) a Therapi Ymddygiad Dialectig (ThYD – at Anhwylder Personoliaeth Ffiniol)

    Mae Matrics Cymru yn sylfaen ar gyfer strwythur datblygedig iawn o Bwyllgorau Rheoli Therapïau Seicolegol ar lefel genedlaethol a Bwrdd Iechyd sy’n ategu a goruchwylio’r gwaith o gyflwyno a gweithredu therapïau seicolegol. 

    • Therapïau Gwybyddol ar Sail Ymwybyddiaeth Ofalgar (ThGSYO) at atal iselder, gorbryder iechyd ac iselder a gorbryder cynenedigol

    Mae Llywodraeth Cymru a’r Pwyllgorau Rheoli hyn y cydnabod fod gwahaniaethau’n bodoli ledled Cymru o ran y therapïau sydd ar gael, eu hansawdd a pha mor hawdd y gellir eu derbyn, gan gynnwys RhSYO. Yn ogystal â hyn, mae’n rhaid i arweinwyr y gwasanaethau gydbwyso anghenion a blaenoriaethau lleol ag anghenion y strategaeth genedlaethol sy’n arwain at amrywioldeb yn y gwasanaethau ledled Cymru.

    Cytunodd y grŵp fod gan Therapïau Gwybyddol ar Sail Ymwybyddiaeth Ofalgar gyfraniad pwysig i’w wneud fel rhan o’r ystod o therapïau seicolegol sydd ar gael: mae’n therapi seiliedig ar dystiolaeth sy’n gost-effeithlon ac yn cynnig opsiwn gwahanol i wrth-iselyddion tymor hir ac mae galw amdano ymysg cleifion. Fodd bynnag, darganfu arolwg mai pytiog ydy’r gwasanaethau yng Nghymru. Ar draws y saith Bwrdd Iechyd, mae dau yn cynnig gwasanaeth ThGSYO yn llwyddiannus; mae tri’n cynnig gwasanaethau ar raddfa fach; ac nid ydy’r ddau arall wedi dechrau datblygu gwasanaethau. Ar hyn o bryd, dim ond un bwrdd sydd â chanllawiau ar ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

    Hefyd, mae gwaith clinigol arloesol yn digwydd mewn rhai Byrddau Iechyd sy’n defnyddio RhSYO mewn ffyrdd eraill 

    Lles Staff

    Mae gwaith arloesol yn digwydd mewn rhai Byrddau Iechyd i gynnig RhSYO i staff er mwyn meithrin:

    • Lles

    • Arferion gwaith effeithiol

    • Dull o fyw a gweithio sy’n seiliedig ar werthoedd

    • Tosturi tuag aton ni’n hunain ac eraill.

    Dengys tystiolaeth ei bod yn werth buddsoddi yn yr hyfforddiant hwn, sy’n gost-effeithlon, yn lleihau absenoldeb o’r gwaith, blinder a straen, ac yn cynyddu boddhad a thosturi. 

    Mae rhai meysydd yn cynnig cyrsiau ymwybyddiaeth ofalgar fel rhan o hyfforddiant proffesiynol gofal iechyd, gan feithrin hunan-ofal, tosturi a lles yn gynnar yn natblygiad proffesiynol y staff. Creda’r gweithredwyr hyn y gall ymwybyddiaeth ofalgar helpu’r Gwasanaeth Iechyd i fynd i’r afael â’i sialensiau o ran recriwtio a chadw staff, yn arbennig meddygon. 

    Camau Gweithredu Pellach

    Dyma argymhellion y Gweithgor Ymwybyddiaeth Ofalgar ym maes Iechyd:

    1. Cryfhau cymunedau sy’n ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar ledled Cymru. Teimlai’r clinigwyr y siaradon ni â nhw y byddai sefydlu rhwydwaith Cymru o ymarferwyr ymwybyddiaeth ofalgar yn helpui:

    • Rannu arferion da, gan gynnwys strategaethau gweithredu ar sail tystiolaeth, modelau cyflwyno a ffyrdd o werthuso canlyniadau cyrsiau
    • Rhannu’r hyn mae clinigwyr wedi ei ddysgu o ran rhwystrau a chefnogaeth i’r broses o weithredu RhSYO
    • Datblygu sgiliau ymwybyddiaeth ofalgar glinigol a phersonol
    • Rhannu adnoddau megis deunyddiau wedi’u cyfieithu a chlinigwyr sydd â phrofiad o weithredu rhaglenni ymwybyddiaeth ofalgar, galluogi arbedion maint drwy oruchwylio a hyfforddi grwpiau
    • Lleihau arwahanrwydd pobl sy’n gweithredu fel unigolion

    2. Codi proffil Rhaglenni ar Sail Ymwybyddiaeth Ofalgar (RhSYO)

    Gosod gweithredu RhSYO ar agenda’r Pwyllgorau Rheoli Therapïau Seicolegol ar lefel y Byrddau Iechyd ac ar lefel genedlaethol er mwyn rhoi hwb i’r ymdrechion presennol i weithredu rhaglenni ymwybyddiaeth ofalgar; a chysylltu’r profiadau o weithredu ar lawr gwlad â’r mentrau cenedlaethol.

    3. Datblygu gweledigaeth a strategaeth weithredu ar gyfer y cyfraniad y gall RhSYO ei wneud i bobl sy’n byw â chyflyrau iechyd corfforol tymor hir

    Mae RhSYO yn arbennig o effeithiol am roi’r grym i bobl sydd â phroblemau iechyd (sydd â risg uwch o ddioddef iselder) ddarganfod eu gallu mewnol i fyw’n dda a rheoli eu cyflwr eu hunain.

    4. Sicrhau bod RhSYO ar gael i fwy o staff sector cyhoeddus 

    • • Datblygu gweledigaeth a strategaeth yng Nghymru ar sut y gall RhSYO gyfrannu at yr amrywiaeth o strategaethau sy’n hybu arferion iach ymysg y boblogaeth gyfan. 
    • • Cynnig hyfforddiant ymwybyddiaeth ofalgar i staff gofal iechyd yng Nghymru.

    “ Dydy hi ddim yn hawdd dod o hyd i dawelwch a ffocws ynghanol prysurdeb ein bywydau bob dydd, ond mae treulio munud neu ddau bob bore mewn ymwybyddiaeth ofalgar yn helpu i roi trefn ar fy niwrnod. Mae buddsoddi amser yn myfyrio’n talu ar ei ganfed ac yn arwain at ddiwrnod mwy cadarnhaol a chynhyrchiol. Dyma ‘nghyngor i: rhowch gynnig arni!

     

    Heather Payne, Uwch-swyddog Meddygol, GIG Cymru