Mae Chris Ruane, un o’n hymddiredolwyr cyntaf, wedi bod ar daith o gwmpas y byd yn siarad â llywodraethau ac â gweision sifil am feddylgarwch ac am werthoedd mewn arweinyddiaeth yn y byd gweleidyddol ac yn y gymdeithas ehangach. Rydyn ni mor falch ei fod wedi cael gwobr arbennig yn Uwchgynhadledd Meddylgarwch India 2024 i gydnabod ei gyfraniad i ledaenu meddylgarwch i wella cyflwr y byd gwleidyddol.
Yn ogystal Chris yw cadeirydd Rhwydwaith Byd-Eang y Menter Meddylgarwch ac mae wedi parhau â’r gwaith hwn yn Awstralia, Tasmania a Singapore ar y daith hon, ac yn Ne America yn gynharach yn y flwyddyn. A ble bynnag mae Chris yn mynd gallwch fod yn siwr ei fod yn sôn am Gymru a’r hyn rydyn ni’n gobeithio ei gyflawni yn wlad fach mewn byd mawr, gan ysbrydoli gweithgareddau meddylgarwch ledled y byd a chael ein hysbrydoli ganddyn nhw.