Tarddiad a Hanes
Mae gan Feddylgarwch wreiddiau dwfn yng Nghymru
Mae Cymru wedi bod ar flaen y gad ym maes ymchwil ac ymarfer meddylgarwch.
- Yn y 19G bathodd Thomas William Rhys o Abertawe y gair ‘meddylgarwch’ yn gyfieithiad o’sati’ sef gair Pali.’
- Yn 2000, cyhoeddwyd[1] canlyniadau’r prawf ymchwil cyntaf ar Therapi Gwybyddol sy’n Seiliedig ar Feddylgarwch, gan roi tystiolaeth fod y dull yn haneru’r tebygolrwydd o ail-brofi iselder mewn rhai gyda hanes blaenorol ohono. Yr Athro Mark Williams a arweiniodd ran Prifysgol Bangor yn y prawf hwn, ar ôl degawd o waith datblygu wedi ei hwyluso gan gyllid gan Y Swyddfa Gymreig.
- Yn 2001, sefydlodd Yr Athro Mark Williams Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Meddylgarwch Prifysgol Bangor – y ganolfan feddylgarwch gyntaf yn Ewrop mewn prifysgol. Mae nifer sylweddol o athrawon meddylgarwch y DU wedi hyfforddi yno. Nawr mae ganddi enw yn rhyngwladol am ddidwylledd a rhagoriaeth a rhaglen addysgu athrawon a rhaglen ymchwil sydd ar flaen y gad yn rhyngwladol.
- Yn 2012 sefydlodd Llywodraeth Cymru raglen dymor hir o newid ymddygiad a diwylliant i gefnogi gweision sifil i ymwreiddio ymarferion ystyriol, myfyriol, sylwgar ac ymarferion perthnasol yn rhan o’u gwaith bob dydd.
- Yn 2015, rhoddodd Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig (SDGs) gynllun hollgynhwysol i ni ar gyfer byd cynaliadwy erbyn 2030. Yn yr un flwyddyn, ymgorfforwyd y nodau hyn a’r ffordd o weithio maen nhw’n seiliedig arni yn rhan o ddeddfwriaeth Cymru yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
- Yn 2019, Mark Drakeford, y Prif Weinidog ar y pryd, oedd yr arweinydd cenedlaethol cyntaf i annerch cynhadledd cenedlaethol ar Feddylgarwch lle y lansiodd Strategaeth Meddylgarwch Cymru.
- Yn 2021 cyhoeddwyd y fframwaith Nodau Datblygu Mewnol (IDGs). Cydgrëwyd y fframwaith hwn gan 1000+ o wyddonwyr, arbenigwyr a gweithwyr ym maes Adnoddau Dynol a Chynaliadwyedd . Mae’r fframwaith yn disgrifio’r ymarferion myfyriol a rhyngberthnasol sydd arnom eu hangen i fod yn gynaliadwy. Yn y flwyddyn honno ymgorfforwyd hwn yng Ngwasanaeth Newid Diwylliant Llywodraeth Cymru ac yn 2023 yn Fframwaith Galluogrwydd Polisi Llywodraeth Cymru.
- Ym maes addysg, cafodd dwy o’r prif raglenni i ysgolion cynradd eu datblygu yng Nghymru, sef Paws b a The Present. Cymru oedd yn gyfrifol hefyd am ddatblygu rhaglen Nurturing Parent – rhaglen feddylgarwch i rieni o dan bwysau. Yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor y datblygwyd y rhaglen MBCT i bobl yn byw â chanser. Mae’r rhaglen hon yn cael ei defnyddio ledled y byd.
- Mae HMPPS Cymru ar flaen y gad wrth ddod â meddylgarwch i faes cyfiawnder troseddol, gan gynnal profion cysylltiedig yn ddiweddar i ddynion ar brawf, staff carchardai a charcharorion.
- Mae Chris Ruane ac aelodau seneddol eraill o Gymru wedi bod yn flaenllaw ym maes meddylgarwch yn senedd y DU, sydd wedi ysbrydoli prosiectau tebyg mewn seneddau ym mhob cwr o’r byd gweld rhagor.
- Mae Meddylgarwch heb Ffiniau, sydd wedi ei ddatblygu yng Nghaerdydd gan Ariana Faris, wedi bod yn arloesol yn addysgu meddylgarwch i gymunedau o ffoaduriaid.
- O dan arweiniad Yr Athro Mark Whitehead, mae Dr. Rachel Lilley o Brifysgol Aberystwyth wedi defnyddio dulliau rhyngddisgyblaethol y gwyddorau cymdeithasol i gyfuno ymarferion meddylgarwch â dirnadaeth ymddygiadol. Mae wedi cynnal nifer o gyrsiau i swyddogion Llywodraeth Cymru ar y cyd â rhaglen arloesol newid mewnol Llywodraeth Cymru.
- Yn 2024 cynhaliwyd y Cynhadledd Rhyngwladol Meddylgarwch nodedig ym Mhrifysgol Bangor, gan ddenu mwy na 300 o gyfranogwyr o bob cwr o’r byd. (internationalmindfulnessconference.com)
[1] Teasdale, J. D., Segal, Z. V., Williams, J. M. G., Ridgeway, V. A., Soulsby, J. M., & Lau, M. A. (2000). Prevention of relapse/recurrence in major depression by mindfulness-based cognitive therapy. Journal of Consulting and Clinical Psychology, 68(4), 615–623. https://doi.org/10.1037/0022-006X.68.4.615