Meddylgarwch yn y Sector Cyhoeddus

Stori Meddylgarwch Cymru

 

“Nid ydym yn codi i’r hyn rydym yn anelu ato pan rydym o dan bwysau, ond yn hytrach yn disgyn i lefel ein hyfforddiant.” – Bruce Lee

Cefndir

Yn 2015 Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i gynnwys Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig yn rhan o Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Hyd yn oed cyn creu’r ddeddf, roedden ni’n sylweddoli bod gwneud newidiadau positif yn y byd o’n cwmpas yn seiliedig ar wneud newidiadau yn fewnol yn gyntaf. Yn 2012 fe wnaethon ni sefydlu’r rhaglen gyntaf o ran newid mewnol ar gyfer gweision sifil, sydd bellach wedi datblygu yn Gwasanaeth Newid Diwylliant ehangach sy’n ein cefnogi ni wrth weithredu newid sy’n seiliedig ar ymarfer.

Ym mis Mawrth 2019 cyfarfyddodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog ar y pryd, ag ymarferwyr meddylgarwch ac ymchwilwyr gan sbarduno gwaith ehangach ar osod meddylgarwch a dealltwriaeth ymddygiadol yng Nghymru drwy strategaeth fyw neu ‘strategaeth-ar-waith’. Ym mis Tachwedd 2019 Mark oedd yr arweinydd cenedlaethol cyntaf i annerch cyfarfod meddylgarwch cenedlaethol pan siaradodd â’r Cynhadledd Rhwydwaith Meddylgarwch Cymru yn y Deml Heddwch. Yn yr union wythnos lansiodd y Gweinidog Addysg ganllawiau meddylgarwch i gefnogi gweithredu’r cwricwlwm newydd yng Nghymru.

Yn 2020 sefydlwyd yn swyddogol Y Nodau Datblygau Mewnol (IDGs) yn ymateb ar sail tystiolaeth i’r diffyg cynnydd o ran Nodau Datblygu Cynaliadwy y CU. Cawsant eu cyd-greu gan filoedd o arbenigwyr, ymarferwyr a gwyddonwyr rhyngwladol ac maent yn set o sgiliau mewnol a nodweddion sy’n sylfaenol i ddatblygu cynaliadwy.

Gweithgareddau diweddar

Er mwyn gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol mae arnom angen gwella ein dealltwriaeth o’r pum ffordd o weithio ac o’u gweithredu – yn y tymor hir, rhwystro, integreiddio, cydweithio a chymryd rhan. Mae’r sgiliau mewnol a’r nodweddion a ddisgrifir yn y Nodau Datblygu Mewnol yn rhan hanfodol o’r broses hon. Yn 2023 cyfunodd Llywodraeth Cymru y Nodau Datblygu Mewnol â’n Fframwaith Galluogrwydd Polisi sydd yn sail i bob polisi a datblygiad gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r rhaglen Global Leadership for Sustainable Development (GLSD) Programme yn cefnogi cyfranogwyr i ddatblygu eu gallu mewnol a chyfuno’r IDGs â’u prosesau, â’u polisїau, â’u strategaethau ac â’u gweithrediadau, i gyflymu eu gwaith tuag at gyflawni’r Nodau Datblygu Cynaliadwy. Yn 2024 cymerwyd rhan yn y rhaglen gan bedwar mudiad yng Nghymru: Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru a Llywodraeth Cymru ( cyfanswm o unarddeg o gyfranogwyr).

Gyda chefnogaeth Academi Wales a Gwasanaeth Newid Diwylliant Llywodraeth Cymru, mae cyfranogwyr wedi creuTîm Cymru IDG sy’n cynnwys grŵp craidd o’r unarddeg cyfranogwr o’r GLSD a swyddogion cynorthwyol o’u mudiadau a grŵp ehangach sydd â diddordeb mewn ymwreiddio IDGs yng Nghymru neu sy’n ymwneud â hyn yn barod.

Mae’r grŵp craidd yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn cydweithio’n agos â thîm IDGs y DU. Ar 17 a 18 Medi 2024 bydd Cyfarfod IDGs y DU yn cael ei gynnal yn Lancaster.

Mae grŵp ehangach IDGs Cymru yn croesawu aelodau newydd sydd â diddordeb yn y pwnc hwn. Bydd cyfarfod cyntaf y grŵp ehangach yn cael ei gynnal fore 3 Hydref 2024 yn rhithwir ac yn wyneb-yn-wyneb.

Rydyn ni nawr yn cynnig sesiynau Zoom arlein yn fisol ddydd Mercher 4-5pm, sy’n cysylltu gweithredwyr IDGs ag Ymarfer y Bobl, Creu Bioamrywiaeth a Newid Ymddygiad a chyfranogwyr u-lab.

Yn ogystal mae Cymunedau Ymarfer Communities of Practice eraill ar gael i’r sawl sydd â diddordeb arbenigol mewn dulliau sy’n seiliedig ar ymwybyddiaeth i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Cysylltwch â Diana ar Dyfodol.Cynaliadwy@llyw.cymru hoffech ymuno â’r grŵp ehangach neu gymryd rhan mewn unrhyw un o’r gweithgareddau hyn.)

 

Dolenni defnyddiol

Developing Agency in Urgent Times: https://www.themindfulnessinitiative.org/agency-in-urgent-times

Meeting the Climate Crisis Inside Out: https://www.themindfulnessinitiative.org/reconnection

Mae strategaeth Cymru Can yn berthnasol i’r gwaith hwn: 2023-11-20-Strategy-English.pdf (futuregenerations.wales) sydd yn crynhoi agwedd gymdeithasol a fydd gan Gymru yn y dyfodol at gynaliadwyedd a byw yn dda.

Mindfulness Wales

Mindfulness in Schools Wales (MISP)

Valleys Steps

Bangor CMRP

Dyma’r papur diweddaraf sy’n cyfeirio at ddylanwad rhaglen Llywodraeth Cymru Dirnadaeth Ymddygiadol sy’n Seiliedig ar Feddylgarwch.

 

Skip to content