Cyfarfod â’r Ymddiriedolwyr
Grŵp ydyn ni o ymarferwyr ac athrawon meddylgarwch sydd yn angerddol dros rannu meddylgarwch i wella ein llesiant yng Nghymru a thu hwnt.

Ymddiriedolwyr Meddylgarwch Cymru

Liz Williams
Cadeirydd / Arweinydd ar Addysg
Mae’n fraint fawr i mi fod yn gadeirydd Meddylgarwch Cymru a chydweithio â’m cyd-ymddiriedolwyr anhygoel a’n rhwydwaith ehangach o gyfeillion i symud ymlaen â’n gweledigaeth o rannu meddylgarwch i gynorthwyo Cymru i ddod yn gymdeithas fwy ystyriol, yn fwy caredig ac yn fwy teg. Ym maes addysg mae fy nghefndir gan ddechrau yn athro a phennaeth a diweddu yn Bennaeth Strategaeth Plant a Phobl Ifanc yn Llywodraeth Cymru.
Fe wnes i hyfforddi i addysgu MBSR a MBCT ond nawr rwy’n canolbwyntio ar yr ystod o raglenni ysgafnach sydd wedi eu hanelu fwy at y boblogaeth yn gyffredinol. Addysg yw fy mhrif flaenoriaeth, gyda staff a disgyblion o bob oed ac rydw i’n gweithio gyda Phrosiect Meddylgarwch Mewn Ysgolion i hyfforddi staff ledled y byd sut i addysgu eu rhaglenni. Ar y cyd â Phrifysgol Derby rwyf hefyd yn cymryd rhan mewn addysgu Hyfforddi Meddwl Gofalgar i staff a disgyblion.
Mae hyn i gyd yn cyd-fynd yn berffaith â’n prosiect Meithrin Cymunedau Ystyriol ac rwy’n edrych ymlaen at ddarganfod rhagor am y meddylgarwch sydd eisoes yn digwydd ledled Cymru i’n hepu ni i blethu meddylgarwch drwy bob math o gymunedau.

Heather Fish
Ysgrifennydd
Rwy’n falch iawn o fod yn un o ymddiriedolwyr sefydlol ac Ysgrifennydd Meddylgarwch Cymru ac yn rhan o’r tîm gwych hwn.
Fe wnes i ddechrau ymarfer meddylgarwch yn 2009 pan roeddwn yn dioddef o orbryder ac yn chwilio am rywbeth i helpu. Roedd darganfod meddylgarwch yn rhywbeth mor bwerus fe wnaeth fy arwain i hyfforddi i fod yn athro. Ers hynny rwyf wedi addysgu dosbarthiadau MBSR agored yn y gymuned, ac wedi datblygu ac addysgu modiwlau Prifysgol ar feddylgarwch yn y gweithle. Rwyf hefyd wedi cydweithio ag awdurdod lleol dros gyfnod o flynyddoedd yn rhan o’i strategaeth i ddod â meddylgarwch i ysgolion, gan ddechrau gyda llesiant staff. Meddylgarwch yn y gweithle yw fy arbenigedd academaidd ac rwyf wedi cydweithio â sawl mudiad bach a mawr i gyflawni hyn.
Yn fwy diweddar mae meddylgarwch wedi fy helpu fi yn sylweddol i wynebu colledion arurthrol ac ymdopi â heriau cyflwr cronig a phrofedigaeth fawr.
Ar nodyn ysgafnach, rwy’n barddoni ac yn perfformio fy ngwaith, ac yn mwynhau bod gyda fy nheulu a byw ar lan y môr.

Rob Callen-Davies
Trysorydd / Arweinydd ar Iechyd
Helo, rwyf wrth fy modd cael bod yn un o ymddiriedolwyr Meddylgarwch Cymru. Mae gen i ddiddordeb mewn myfyrio/ ymarfer meddylgarwch ers 35 mlynedd. Therapydd Gwybyddol Ymddygiadol ydw i o ran galwedigaeth, ac rwy’n athro Dulliau sy’n Seiliedig ar Feddylgarwch. Ar hyn o bryd rwy’n gweithio i’r GIG yng Ngwent.
Rwyf hefyd yn ymwneud â meddylgarwch yma yng Nghymru gan gwblhau yn ddiweddar Graddfeistr drwy Ymchwil ym Mhrifysgol Bangor a chydweithio â’r Rhwydwaith Meddylgarwch ar gynllun arbrofol Rhaglen Hunan-Ofal Ystyriol i weithwyr y GIG. Mae gen i ddiddordeb arbennig yn y sector iechyd a llesiant.

Chris Ruane
Roeddwn yn athro mewn ysgol gynradd ac yn ddirprwy bennaeth cyn dod yn aelod seneddol yn 1997 a chyfnewid cloch yr ysgol am gloch y bleidlais. Bues yn aelod dros Ddyffryn Clwyd am 21 o flynyddoedd a chynorthwyo i drefnu gwersi meddylgarwch i 350 o wleidyddion a 800 o staff. Buon ni’n gyfrifol am gyhoeddi’r adroddiad seneddol Cenedl Ystyriol i ddefnydd meddylgarwch ym maes iechyd, ym maes addysg, ym maes cyfiwander troseddol ac yn y gweithle. Bues i’n cynorthwyo yn y Ganolfan/ Sefydliad Meddylgarwch yn Rhydychen am 9 mlynedd a bues yn gadeirydd Frazzled Cafe Ruby Wax am dair blynedd. Ar hyn o bryd rwy’n gadeirydd rhwydwaith rhyngwladol o hyrwyddwyr a gwleidyddion Menter Meddylgarwch, sydd yn ceisio cyflwyno meddylgarwch yn rhan o’u deddfwriaeth. Rwy’n falch o fod yn aelod o fwrdd Meddylgarwch Cymru.

Gwenan Roberts (a Wini)
Pleser ydi cael bod yn un o ymddiriedolwyr Meddylgarwch Cymru. Gyda syndod y deues i at fyfyrio rhyw ugain mlynedd yn ôl, ac yn dal i ryfeddu fel y mae tawelwch yn fy ysbrydoli ac yn fy llonyddu. Wrth i feddylgarwch gael lle blaenllaw yn fy mywyd i, roeddwn yn awyddus i’w rannu ag eraill, a rhoi cyfle i wneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. Fe es ati i hyfforddi i fod yn athro meddylgarwch ym Mhrifysgol Bangor, ac wrth ymddeol fe gefais gyfle i gwblhau MA mewn agweddau yn ymwneud ag ymwybyddiaeth ofalgar, gan ganolbwyntio ar addasu rhaglen 8 wythnos i’r Gymraeg.
Cyn ymddeol fe dreuliais 36 mlynedd yn y GIG fel therapydd iaith a lleferydd arbenigol a rheolwr gan weithio gyda phlant ac oedolion ag anableddau dysgu ac anghenion cymhleth. Rwyf bellach hefyd yn cynnig cyrsiau a sesiynau meddylgarwch i rieni a gofalwyr. Dw i hefyd yn cynnal ‘cylch myfyrio’ yn fisol ar Zoom, yn Gymraeg ac yn cynnal sesiynau a gweithdai fel bo’r angen. Rwyf yn awyddus iawn i rannu a datblygu adnoddau Cymraeg i unigolion gael eu defnyddio.

Dr Kate Tucker
Helo, Kate Tucker ydw i. Mae gen i gefndir proffesiynol yn therapydd iaith a lleferydd (TILl), yn ddarlithydd ac ymchwilydd. Yn ddiweddar fe wnes i gwblhau astudiaeth PhD yn archwilio datblygiad hunaniaeth broffesiynol myfyrwyr astudiaethau gofal iechyd, gan ganolbwyntio ar fyfyrwyr TILl. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn cefnogi datblygiad proffesiynol, gwytnwch a llesiant ym maes gofal iechyd. Rwy’n athro meddylgarwch achrededig gyda Breathworks ac rwyf wedi cofrestru gyda BAMBA. Rwy’n cynnal sesiynau meddylgarwch arlein drwy Meddylgarwch Cymru, hyfforddi llesiant a meddylgarwch i fyfyrwyr therapi iaith a lleferydd, ac rwy’n addysgu meddylgarwch yn fy milltir sgwâr ym Mhenarth. Rwy’n llawn cyffro i fod yn rhan o brosiectau sy’n cefnogi datblygu cymunedau ystyriol yng Nghymru ac yn cyflwyno meddylgarwch yn adnodd i gynnal llesiant.

Roy Ellis
Helo, Roy ydw i a diolch am neilltuo amser i ddarllen am Meddylgarwch Cymru. Mae’n fraint fawr cael gwahoddiad i wasanaethu yn Ymddiriedolwr Meddylgarwch Cymru. Mae’n rhoi cyfle i barhau â’m diddordeb o ran y ffordd mae meddylgarwch yn gallu bod o gymorth i unigolion, i gymunedau ac i’r gwasanaethau cyhoeddus, i fyw yn dda a gweithio’n dda – bywydau iachach, hapusach, mwy boddhaus a mwy cynhyrchiol. Fe fues yn gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru am nifer o flynyddoedd ac i Academi Cymru yn Llywodraeth Cymru am 12 o’r blynyddoedd dan sylw. Rhoddodd y gwaith hwn ddealltwriaeth ddiddorol o heriau arwain yn y sector cyhoeddus. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys gweithio gyda mudiadau ar brosiectau staff o ran gwelliant parhaus a newid. Mae yna adnoddau profedig a damcaniaethau o ran newid, drwy wneud y gwaith hwn fe wnes i sylweddoli bod pob math o newid yn dechrau gyda’r unigolyn – gwaith mewnol. Fe wnes i sylweddoli hyn mewn cyfnod o heriau personol. Penderfynais ddatblygu ymhellach yr ychydig wybodaeth oedd gen i o ran meddylgarwch drwy gwblhau cwrs 8 wythnos, Lleihau Straen ar sail Ymwybyddiaeth Ofalgar. Cefais fy sbarduno i astudio ymhellach ym Mhrifysgol Bangor – roeddwn wedi cychwyn ar fy nhaith meddylgarwch. Mae gen i ddiddordeb mewn datblygu agweddau meddylgarwch cynhwysol sy’n dderbyniol gan bawb ac ar gael i bob un pan fo angen.