Sesiynau Galw Heibio Dyddiol a Misol
Ymunwch â ni am sgwrs ac ymarfer meddylgarwch ddydd Mawrth-ddydd Gwener 10-11am
Mae Meddylgarwch Cymru yn cynnal sesiynau galw heibio arlein bob dydd, ddyddiau Mawrth, Mercher, Iau a Gwener o 10am – 11am
ID Cyfarfod 882 0562 8715
Cod cyfrin 649803
Mae’r sesiynau cyfeillgar hyn yn cael eu harwain gan athrawon meddylgarwch profiadol sy’n cynnig meddylgarwch a chymuned. Mae gan bob un ohonom ein diwrnod arferol er ein bod yn newid neu gymryd lle ein gilydd ambell waith. Mae arddull wahanol a phrofiadau gwahanol gan bob un ohonom – gallwch gael blas ar ein hymarferion isod. Gallwch ddarllen rhagor am ein tîm galw heibio yma.
SESIYNAU GALW HEIBIO MISOL CYMRAEG
Cynhelir ein sesiynau galw heibio bob dydd drwy gyfrwng y Saesneg, ond ar ddydd Mercher cyntaf y mis am 7pm cynhelir Sesiwn Galw Heibio drwy gyfrwng y Gymraeg, gyda Gwenan Roberts yn arwain.
Cysylltwch â ni i gael rhagor o fanylion.
Gallwch ddod o hyd i amrywiaeth o Fyfyrdodau Cymraeg yn ein hadran adnoddau
Dewch i gyfarfod â’r tîm galw heibio dyddiol a chael blas ar ein hymarferion

Mawrth - Kanchan Desai – Athro Meddylgarwch

Mercher - Liz Williams – Cadeirydd Meddylgarwch Cymru

Iau - Iwan Brioc – Cyfarwyddwr Theatr

Gwener - Kate Tucker – Ymddiriedolwr Meddylgarwch Cymru

Gwenan Roberts - Ymddiriedolwr Meddylgarwch Cymru
Cylch Myfyrio
Sesiwn galw heibio dan arweiniad yn Gymraeg ar Zoom (ffoto, testimonials)
Nos Fercher cyntaf o bob mis 7.30pm


