Sut y Dechreuodd Meddylgarwch Cymru
Ym mis Mawrth 2019 cyfarfyddodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog ar y pryd, ag ymarferwyr meddylgarwch ac ymchwilwyr gan sbarduno gwaith ehangach o ymwreiddio meddylgarwch a dealltwriaeth ymddygiadol yng Nghymru drwy strategaeth fyw neu ‘strategaeth -ar-waith’. Ym mis Tachwedd 2019 Mark oedd yr arweinydd cenedlaethol cyntaf i annerch cyfarfod meddylgarwch cenedlaethol pan siaradodd â’r Cynhadledd Rhwydwaith Meddylgarwch Cymru yn y Deml Heddwch. Yn yr union wythnos lansiodd y Gweinidog Addysg ganllawiau i gefnogi gweithredu’r cwricwlwm newydd yng Nghymru.
Yn 2021 aelodau’r grŵp hwn oedd yn gyfrifol am ffurfio Meddylgarwch Cymru yn Sefydliad Gorfforedig Elusennol – a dyma ni!
