Meddylgarwch ym Maes Addysg

Helpu llesiant staff a dysgwyr

Yn grŵp o addysgwyr ac ymarferwyr meddylgarwch, fe wnaethon ni ofyn i’n gilydd ar ddechrau ein taith feddylgarwch yng Nghymru “ Beth all meddylgarwch ei wneud i ddysgwyr yng Nghymru?” Y canlyniad oedd pedwar nod cadarn – gall meddylgarwch helpu ein dysgwyr i ymdopi, i gysylltu ac i berthyn, i ffynnu a rhoi’r gallu iddynt newid drwy wneud penderfyniadau mwy gwybodus.

Mae yna neges gref yma – mae hi mor bwysig ein bod yn helpu plant i ymdopi, ond mae meddylgarwch yn golygu llawer mwy na hyn. Gwella eu bywydau, gan roi cymorth iddynt nid yn unig i oroesi ond i ffynnu.

Cwricwlwm i Gymru a Llesiant

Yn ffodus, dyma’r neges sy’n sail i’r Cwricwlwm i Gymru (CiG), gyda’i 4 diben i’r dysgwyr fod yn:

  • Ddysgwyr uchelgeisiol a galluog
  • Cyfranwyr mentrus, creadigol
  • Dinasyddion egwyddorol, gwybodus
  • Unigolion iach, hyderus

Yn well na hyn, mae’r cwricwlwm newydd yn cynnwys Maes Dysgu a Phrofiad sy’n benodol ar gyfer Iechyd a Llesiant.  Mae’r Prosiect Mapio mewn Ysgolion MiSP Mapping yn dangos sut mae’r sesiynau canlynol yn gallu cyfrannu’n sylweddol at alluogi plant yng Nghymru i gyflawni amcanion CiG Dots: (3cwricwlwm meddylgarwch o 30 sesiwn i blant oed 3-6), Paws b (cwricwlwm o 12 sesiwn i blant oed 7-11), .breathe (cwricwlwm o 4 sesiwn llesiant yn seliedig ar feddylgarwch i gefnogi’r cyfnod pontio i blant oed 9 a 14) a .b (cwricwlwm o 10 sesiwn i blant oed 11-18), Rydyn ni’n fodlon iawn gyda’r fframwaith polisi a’r cyd-destun yng Nghymru ac mae yna eisoes lawer o ymarfer da, felly lledaenu’r neges yw ein her nesaf.

Taith yw Meddylgarwch

Hyd yn oed gyda fframwaith polisi mor gefnogol, mae cyflwyno meddylgarwch yn bendant yn daith yn hytrach na gweithgaredd. Rwyf wedi bod yn gweithio mewn un ysgol gynradd leol yn Nhorfaen ers tua 5 mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwn mae’r staff bron i gyd wedi cyflawni .b Foundations (cwrs cychwynnol o feddylgarwch i oedolion am 8 wythnos), mae nifer o staff wedi hyfforddi i addysgu Paws b, ac mae meddylgarwch wedi ei blethu drwy’r cwricwlwm i bob dosbarth a bob blwyddyn. Ar hyn o bryd rwy’n addysgu cwrs dots yn B1 tra bo athro yn cael ei hyfforddi – gan ei fod yn gymaint o hwyl mae hynny’n fonws ychwanegol i mi. Mae gweithgareddau ystyriol yn cael eu cynnwys yn rhan o’r diwrnod ysgol ym mhob dosbarth. Yn B4 mae bob plentyn yn dysgu Paws b ac ar hyn o bryd mae disgyblion B6 yn cyflawni prosiectau unigol i wella eu hymarferion meddylgarwch eu hunain. Doedd dim angen perswadio staff fod yr hyn maen nhw’n ei wneud yn cyfrannu’n sylweddol at Ddisgrifiadau Dysgu ym mhob Cam Datblygu, ond mae cael y Mapio MiSP/CfW Mapping wedi eu galluogi nhw i leisio yn fwy penodol yr hyn maen nhw’n ei wneud yn eu datblygiad cwricwlwm a chynlluniau gwaith. Mae meddylgarwch yn rhan o gynlluniau datblygu yr ysgol ac maen nhw’n edrych ar fodel llwybrau MiSP Pathways i helpu mynd ymlaen â hyn. Mae’r ysgol mewn ardal heriol iawn ac rwy’n llawn edmygedd o agwedd ac ymroddiad B6 tra fy mod wedi bod wrthi’n eu dysgu y tymor hwn.

Ar lefel uwchradd, mae ysgol gyfun gymunedol yng Nghastell Nedd Port Talbot yn addysgu .b i bob disgybl yn B7 ac mae yna Glwb Meddylgarwch i’r disgyblion wrth iddynt symud i flynyddoedd uwch yn yr ysgol. Gan eu bod yn ymwybodol o’r dystiolaeth o gyfraniad meddylgarwch i’r amgylchedd dysgu a llesiant, mae nifer o athrawon wedi cymryd rhan yn y datblygiadau o ran meddylgarwch, yn ogystal â chynorthwywyr a goruchwylwyr cinio, ac mae cynlluniau ar y gweill i’r uwch dîm reoli gymryd rhan. Mae Mapio MiSP/CiG nawr yn cael ei ddefnyddio i fanteisio i’r eithaf ar y dylanwadau ar Faes Iechyd a Llesiant Dysgu a Phrofiad.

Rhan o’r stori

Dim ond rhan o’r stori yw’r enghreifftiau hyn, ac rydyn ni’n casglu storїau o ymarfer meddylgarwch mewn ysgolion ledled Cymru i helpu ysbrydoli eraill. 

Rydyn ni’n sylweddoli bod ysgolion yn gallu gwneud gwaith anhygoel yn yr amser cymharol fyr tra bo’r plant yno. Mae Meddylgarwch Cymru Mindfulness Wales yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu Cymunedau Ystyriol i alluogi i’n hysgolion gael eu cynnal mewn amgylchedd lle y gall meddylgarwch fod yn gefn i bawb. Felly rhagor cyn bo hir wrth i ni barhau â’n taith feddylgarwch yng Nghymru…. And A rhowch wybod i ni am eich stori chi i ysbrydoli eraill.

Skip to content