Meithrin Cymunedau Ystyriol
Mae ein gweledigaeth a’n gwerthoedd yn datblygu ac yn dod ynghyd â’n prosiect Meithrin Cymunedau Ystyriol gan blethu meddylgarwch drwy fywyd a gwaith ledled Cymru.
Ein nod yw parhau i ddatblygu’r teimlad o gymuned, o gysylltiad ac o berthyn yng
nghymunedau meddylgarwch Cymru a thrwyddi draw. Rydym yn anelu at wneud hyn drwy ddarparu cyfleoedd i gydweithio a hwyluso rhannu syniadau, adnoddau a chydgefnogi.
Rydym yn datblygu cronfa o adnoddau o enghreifftiau o weithgareddau sy’n seiliedig ar feddylgarwch i rannu gwybodaeth ac i ysbrydoli, a gweithio gyda Chyfeillion a phartneriaid i gefnogi unigolion, grwpiau a mudiadau i gymryd rhan. Gallwch wylio cyflwyniad am Meithrin Cymunedau Ystyriol yma.