Meddylgarwch ym Maes Iechyd
Meddylgarwch ym Maes Iechyd: Cefnogi Llesiant Cymru
Angen Cefnogaeth Llesiant
Mae Cymru yn wynebu her barhaus: cefnogi iechyd meddwl a llesiant ei dinasyddion a’i gweithwyr ym maes iechyd. Gan eu bod o dan bwysau yn gofalu am eraill, mae staff gofal iechyd hefyd angen cefnogaeth. Gall meddylgarwch fod yn fodd o ddarparu’r gofal hollbwysig hwn, gan gynnig dull effeithiol o wella llesiant personol. Mae’r dull hwn yn cyd-fynd â rhai o’r gwerthoedd sy’n gyffredin i ymddiriedolwyr Meddylgarwch Cymru, er enghraifft, cyd-greu, gofalu, cysylltu, cydweithredu a charedigrwydd.
Cyfleoedd Meddylgarwch
Mae meddylgarwch yn fodd i bawb chwarae rhan weithredol o ran ei iechyd ei hun. Mae’n cyd-fynd â gofal meddygol, gan alluogi’r unigolyn i ymdopi â straen, â gorbryder ac â chyflyrau cronig drwy hunan-ofal a charedigrwydd. Ym maes gofal iechyd mae meddylgarwch yn annog staff i ymarfer hunan-ofal, gan feithrin diwylliant gofalgar a chydweithredol lle y gall bawb ffynnu – boed nhw’n glaf neu yn aelod o staff.
Ymdrechu ar y Cyd i Newid
Ym Meddylgarwch Cymru, rydyn ni’n gweithredu fel catalydd – cysylltu, hyrwyddo a hwyluso ymdrechion ledled Cymru i feithrin cymuned ffyniannus ym maes gofal iechyd. Mae ein gwaith gyda mudiadau fel GIG Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) Rhwydwaith Meddylgarwch, a Chanolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar (CYYYO) ym Mhrifysgol Bangor yn canolbwyntio ar ddod â Rhaglenni sy’n Seiliedig ar Feddylgarwch (MBPs) yn rhan o’r system iechyd, gan ymrwymo’n glir i gydweithredu a bod yn ofalgar. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n canolbwyntio ar dri maes allweddol:
- Triniaethau Clinigol: Mae Therapi Gwybyddol sy’n Seiliedig ar Feddylgarwch (MBCT) yn helpu’r sawl sy’n wynebu heriau o ran iechyd meddwl, er enghraifft iselder, gorbryder a phoen cronig. Mae’r rhaglenni hyn yn meithrin hunan-garedigrwydd a chysylltiad dyfnach â iacháu personol.
- Llesiant Staff: Mae meddylgarwch yn adnodd hanfodol i weithwyr gofal iechyd, gan eu cynorthwyo i ymdopi â straen a’u rhwystro rhag gorweithio nes iddynt lwyr ymlâdd. Gall rhaglenni tebyg i’r Rhaglen Hunan-Ofal Ystyriol (MSCP) roi’r gallu i staff ailafael yng ngwerthoedd caredigrwydd a chydweithrediad, gan eu galluogi nhw i ddarparu gofal ystyriol.
- Diwylliant Sefydliadol: Ein nod yw system gofal iechyd lle mae meddylgarwch a gofal wedi ymwreiddio ar bob lefel, o benderfyniadau ar y brig at ofal ar lawr gwlad. Mae diwylliant o gysylltu a chydweithredu yn meithrin amgylchedd meddylgar ac ystyriol.
Cyflawni yn Glinigol
Yng Nghymru mae Therapi Gwybyddol sy’n Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar eisoes yn cael ei gydnabod yn ddewis cost-effeithiol yn hytrach na defnydd tymor hir o foddion gwrth-iselder. Fodd bynnag mae cael gafael ar y gwasanaethau hyn yn amrywio’n fawr ledled y wlad. Nod Meddylgarwch Cymru yw cyd-greu mwy o gysondeb o ran y ffordd y cyflwynir Rhaglenni sy’n Seiliedig ar Feddylgarwch (MBPs), gan sicrhau bod cleifion sy’n byw â chyflyrau tymor hir er enghraifft iselder, canser neu boen cronig yn elwa o feddylgarwch sy’n seiliedig ar werthoedd gofalu a chydweithredu.
Llesiant Staff
I’w rhwystro rhag gorweithio nes iddynt lwyr ymlâdd mae gweithwyr ym maes gofal iechyd angen caredigrwydd a chysylltiad yn rhan o’u bywydau. Mae hyn yn meithrin yr agwedd ofalgar sy’n gymhelliad i’w gwaith. Mae meddylgarwch yn helpu staff i feithrin hunan-ofal, sy’n lleihau straen ac yn cynyddu’r teimlad o fod yn fodlon yn eu swydd. Mae rhaglenni tebyg i’r MSCP sy’n cael ei phrofi gan y Rhwydwaith Meddylgarwch yn cynnig dulliau ymarferol o ddatblygu gwytnwch a chydweithrediad, gan helpu staff i ofalu amdanynt eu hunain ac am eraill gyda rhagor o adnoddau o’r newydd.
Ein Gweledigaeth am Wasanaeth Iechyd Ystyriol yng Nghymru
Rydyn ni’n credu y dylai meddylgarwch fod wrth galon cefnogi cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Gweledigaeth Meddylgarwch Cymru yw creu gwasanaeth iechyd sydd o blaid cyd-greu, bod yn ofalgar, a chydweithredu. Mae’r argymhellion pwysicaf yn cynnwys:
- Integreiddio MBPs i Ofal Iechyd Meddwl: Agor y drws i raglenni meddylgarwch i fod yn gefn i gleifion a staff fel ei gilydd, gan feithrin gwella drwy hunan-ofal a chysylltu.
- Datblygu Strategaethau Cenedlaethol: cyd-greu strategaethau cenedlaethol sy’n cynnwys meddylgarwch yn rhan o hunan-ofal a byw yn iach, yn enwedig i’r sawl sy’n byw â chyflwr tymor hir.
- Cydweithio ledled Cymru: Cryfhau cydweithio rhwydwaith cenedlaethol o ymarferwyr meddylgarwch, gan sicrhau bod caredigrwydd ac ymarfer gorau yn cael eu rhannu drwy’r gwasanaeth iechyd.
- Cefnogi Staff Gofal Iechyd: Darparu ffyrdd o weithio sydd ar gael i weithwyr ym maes iechyd i gymryd rhan mewn hyfforddiant meddylgarwch, gan eu helpu nhw i ddatblygu gwytnwch a bod yn ofalgar ohonynt eu hunain ac o’r rhai maent yn eu gwasanaethu.
Ymarfer Meddylgarwch : Lleisiau o’r Maes
“Mae meddylgarwch yn ein hailgysylltu â’n dynoliaeth gyffredin. Mae’n ein newid ni o feddwl bod angen atgyweirio i feddwl bod y gofalwr a’r claf yn gyfranogwyr gweithredol yn y broses o iacháu “ – Rebecca Crane, Cyfarwyddwr, Canolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar, Prifysgol Bangor
“Dydi hi ddim yn hawdd dod o hyd i lonyddwch ar ddiwrnod prysur, ond mae ymarfer meddylgarwch am ychydig o funudau bob bore yn hepu fi i ganolbwyntio. Mae’n fuddsoddiad bach sy’n talu ar ei ganfed.” – Heather Payne, Uwch Swyddog Meddygol GIG Cymru
Drwy gydweithio, bod yn ofalgar a chysylltu, gallwn ddatblygu gwasanaeth iechyd sy’n gwirioneddol ofalu am bawb, gan gefnogi llesiant pawb yng Nghymru.