Meddylgarwch Cymru
~ meithrin cymunedau ystyriol ~
Ein digwyddiad nesafMeithrin Cymunedau YstyriolSesiynau Galw Heibio
Pwy ydyn ni?
Sefydliad Corfforedig Elusennol yw Meddylgarwch Cymru [rhif elusen 1193146] sydd wedi ymrwymo i gydweithio â phartneriaid, ag athrawon meddylgarwch ac ag ymarferwyr, i ddod â meddylgarwch i bob sector o’n cymunedau ac i helpu plethu meddylgarwch trwy fywyd a gwaith pawb yng Nghymru. Rydyn ni’n hyb canolog i feddylgarwch yng Nghymru, gyda’r bwriad o gefnogi, rhwydweithio, cydweithio, rhannu, cyd-greu ac ysbrydoli.


Ein gweledigaeth yw rhannu meddylgawrch i alluogi Cymru i ddod yn gymdeithas fwy ystyriol, yn fwy caredig, yn fwy teg, ac yn fwy cynaliadwy.

Ein gwerthoedd, sydd wedi eu cynnal â chynhwysiant yw gofalu, cysylltu, cymuned, caredigrwydd a chydgreu.

Rydym yn creu rhwydwaith o bobl sydd yn angerddol dros feddylgarwch sy’n gweithio gyda Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
Beth rydyn ni’n ei wneud?
Rydyn ni’n cydweithio â phartneriaid i feithrin cymunedau ystyriol drwy eu cynorthwyo i blethu meddylgarwch trwy fywyd a gwaith Cymru
- Rydyn ni’n cynnal digwyddiadau arlein yn rheolaidd
- Rydyn ni’n cynnig sesiynau galw heibio bob dydd
- Rydyn ni’n cydweithio â phartneriaid i feithrin cymunedau ystyriol
Beth yw meddylgarwch?
Meddylgarwch yw:
Ffordd o fod yn fyw ac o fod yn gwybod hynny
Yn sêliedig ar fod yn ystyriol, yn garedig, yn chwilfrydig, yn ddiolchgar, yn werthfawrogol, ac ar ymddiriedaeth, ar barch a syndod
Uchafbwyntiau Ysbrydoledig y Mis
Stori

Cyflwyno plant i feddylgarwch wrth arddio
“Mae myfyrio wedi bod o gymorth mawr i mi yn fy mywyd personol, ac mae wedi bod o fudd mawr yn fy ngwaith gan y gallaf ganolbwyntio ar agweddau ystyriol penodol ar fy ngwaith gyda’r plant i wneud garddio yn brofiad sy’n eu tawelu ac sy’n bleserus.” (Manon Webb ~...
Sain
No Results Found
The page you requested could not be found. Try refining your search, or use the navigation above to locate the post.
Dyfyniad
No Results Found
The page you requested could not be found. Try refining your search, or use the navigation above to locate the post.
Ein Blog
Cydnabod Ymddiredolwr Meddylgarwch Cymru yn India
Mae Chris Ruane, un o’n hymddiredolwyr cyntaf, wedi bod ar daith o gwmpas y byd yn siarad â llywodraethau ac â gweision sifil am feddylgarwch ac am werthoedd mewn arweinyddiaeth yn y byd gweleidyddol ac yn y gymdeithas ehangach. Rydyn ni mor falch ei fod wedi cael...
ADRODD EIN STORΪAU MEDDYLGARWCH: mae arnom ni angen eich help!
Rydyn ni’n argyhoeddedig mai’r ffordd orau o ysbrydoli mudiadau, cymunedau ac unigolion i blethu meddylgarwch trwy eu gwaith a’u bywyd bob dydd yw trwy ddangos lle mae hyn eisoes yn digwydd a’r hyn mae pobl yn ei feddwl o’u profiadau. Felly rydyn ni eisiau casglu...