“Mae myfyrio wedi bod o gymorth mawr i mi yn fy mywyd personol, ac mae wedi bod o fudd mawr yn fy ngwaith gan y gallaf ganolbwyntio ar agweddau ystyriol penodol ar fy ngwaith gyda’r plant i wneud garddio yn brofiad sy’n eu tawelu ac sy’n bleserus.”

“Un tro, roedd y plant yn y clwb ar ôl ysgol wedi darganfod nyth titw tomos las ac roedden ni’n gwylio’r aderyn yn hedfan i mewn i’r twll yn y wal i fwydo’r cywion. Wrth wrando’n astud roedden ni’n gallu clywed y cywion yn glir iawn ac roedd y plant wrth eu bodd.”

Skip to content