Rydyn ni’n argyhoeddedig mai’r ffordd orau o ysbrydoli mudiadau, cymunedau ac unigolion i blethu meddylgarwch trwy eu gwaith a’u bywyd bob dydd yw trwy ddangos lle mae hyn eisoes yn digwydd a’r hyn mae pobl yn ei feddwl o’u profiadau.
Felly rydyn ni eisiau casglu enghreifftiau o weithgareddau sy’n seiliedig ar feddylgarwch sydd eisoes yn digwydd ar draws Cymru gyfan a’u rhannu ar ein gwefan. Rydyn ni’n chwilio am enghreifftiau o wahanol leoliadau, o sectorau amrywiol, o amrywiaeth o gymunedau gydag anghenion gwahanol ac unrhyw amrywiolyn arall. Ewch i’n gwefan i weld rhai o’r storїau cyntaf rydyn ni wedi eu casglu, https://mindfulness-wales.org ond a allwch chi ein helpu ni i gasglu rhagor? Yn enwedig os oes ganddoch chi stori i’w hadrodd neu gallwch ein cyfeirio at rywun sydd â stori ei hun. Rydyn ni’n llawn cyffro fod ein cais am gyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi bod yn llwyddiannus i’n helpu ni i ddatblygu’r gallu i ddod â’r rhain ynghyd, ond mae arnom angen eich help chi i gael gwybod am yr hyn sy’n digwydd. Rhowch wybod i ni yr hyn sy’n digwydd yn eich sector neu yn eich ardal chi drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt ar y wefan. Gadewch i ni wneud hwn yn adnodd cynhwysfawr a all ein hysbrydoli ni i gyd a’n helpu ni i blethu meddylgarwch trwy ddatblygiadau cymunedol ledled Cymru- meithrin cymunedau ystyriol gyda’n gilydd.
Credit llyn: William John Evans



