Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr Meddylgarwch Cymru mor falch o’n Hymddiriedolwr Rob Callen-Davies am lwyddo i gwblhau ei Raddfeistr drwy ymchwil – sef un o’r ffyrdd sydd o bosib y mwyaf heriol. Llongyfarchiadau Rob!

Mae’r traethawd ymchwil yn ymchwilio i‘r dystiolaeth sy’n datblygu ar gyfer rhaglenni sy’n seiliedig ar feddylgarwch (MBPs) o ran cefnogi canlyniadau tu hwnt i’r unigolyn. Mae’n cyfosod canlyniadau meintiol astudiaethau i benderfynu eu cyfraniad posibl i drawsnewidiad rhag-gymdeithasol, perthynol a chymdeithasol, neu sut y gallai MBPs hyrwyddo nid yn unig llesiant seicolegol ond hefyd drawsnewidiad cymdeithasol a rhag-gymdeithasol buddiol.

Mae Rob wedi ennill parch a chefnogaeth y gymuned ymchwil am ei gyfraniad i’r gwaith pwysig hwn. Mae’r gwaith hefyd yn cefnogi yr hyn rydyn ni’n anelu at ei wneud drwy Meddylgarwch Cymru – hyrwyddo trawsnewidiad cymdeithasol a rhag-gymdeithasol buddiol.

Edrychwch ar weddill ein gwefan i ddarganfod rhagor – a rhowch wybod os oes ganddoch chi stori i’w hychwanegu at ein casgliad o storїau sy’n ysbrydoli https://mindfulness-wales.org

Skip to content