“Yr hyn roedd yn wir o ddiddordeb i mi o ran meddylgarwch oedd ei fod yn sgìl ymarferol, defnyddiol a allai roi’r gallu i ymwneud â chelf a chynyddu hyder.” (Louise Thompson)
Crëwyd Amgueddfeydd Ystyriol gan Louise yn 2024 i ddarparu ffyrdd hygyrch o feithrin iechyd meddwl pobl trwy gelf a chreadigrwydd. Ar ôl pymtheng mlynedd fel Rheolwr Iechyd a Llesiant yn Oriel Gelf Manceinion, mae hi nawr yn ymgynghorydd annibynnol syꞌn cynnig hyfforddiant meddylgarwch mewn amgueddfeydd a mannau diwylliannol ar draws y DU, gan gynnwys Cymru.
Datblygodd y fenter o waith Louise yn yr oriel yn cyflwyno prosiectau gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Iechyd Meddwl Greater Manchester, yn rhoi cymorth i bobl oedd yn symud oꞌr ysbyty i fyw yn y gymuned. Ar ôl bod yn dyst i effaith prosiect yn 2012 a oedd yn cyfuno celf a meddylgarwch i wella iechyd meddwl, deallodd Louise y ffyrdd unigryw y gallai meddylgarwch feithrin ymrwymo â chelf. Fe gwblhaodd ddau gwrs wyth wythnos Lleihau Straen trwy ddulliau syꞌn Seiliedig ar Feddylgarwch a dechreuodd addysgu cyrsiau meddylgarwch ffurfiol gyda chyslltiad â chelf mewn amgueddfeydd a mannau creadigol.
Wrth iꞌw hymarfer ddatblygu, darganfyddodd Louise i feddylgarwch fod yn fwy trawsffurfiol ar lefel bersonol nag y disgwyliai: “roedd yn hynod o arwyddocaol i mi, cafodd effaith enfawr, mwy nag unrhyw sgìl iechyd meddwl arall; maeꞌn adnodd hynod i reoli fy iechyd meddwl fy hun.” Fel sawl un arall, sylweddolodd hefyd, ei bod wedi ei magu mewn diwylliant sꞌyn credu mai caredigrwydd tuag at eraill oedd y norm – gwelwyd hunan-garedigrwydd fel hunan-foddhad a chafodd ei lesteirio:
“Mae meddylgarwch wedi rhoi adnoddau i mi i ddadwneud y fagwraeth honno sydd wedi bod yn drawsffurfiol i mi fel person yn ogystal ag i mi fel rhiant ac fel partner.”

Sylweddolodd Louise fod gan waith yr oriel botensial i roiꞌr gallu i bobl nad oedden nhw erioed wedi ymwneud â hunan-ofal, ond roedd yn ymwybodol fod cyrsiau yn aml yn denuꞌr rhai a oedd yn barod yn fwy tebygol o ymwneud â chelf a hyfforddiant ffurfiol mewn meddylgarwch. Teimlodd ei bod yn bwysig cael at y rhai a oedd yn llai tebygol o un ai fynd i ymweld ag oriel neu fynd ar gwrs meddylgarwch, gan wybod y byddai cyfunoꞌr ddau yn anffurfiol yn gallu bod o fudd enfawr iꞌr gymuned.
Trwy gydweithio ag amryw o asiantaethau gwahanol, dechreuodd gael at rhagor o bobl bregus gyda ei hymagwedd o gynnig man cychwyn creadigol i feddylgarwch – gan gynnwys y rhai nad oeddent erioed wedi teimloꞌn gyfforddus mewn mannau creadigol. Fel yr eglura Louise,
“ cryfder mawr yr ymagwedd hon oedd o ran ymrwymo a chysylltu, roedd pobl yn gallu dysgu sgiliau yn yr oriel y gallen nhw wedyn eu defnyddio mewn bywyd pob dydd, doedd dim rhaid i bopeth ddigwydd o fewn muriauꞌr oriel.”
Mae hyn wrth galon gwaith Louise:
“Maeꞌn wirioneddol bwysig i mi oherwydd fy nghefndir, hyd yn oed heddiw mae pobl yn gweld celf fel peth uchel-ael neu yn anghynhwysol. Os na chawsoch eich magu mewn teulu oedd yn defnyddioꞌr mannau hyn, yna y gallwch feddwl dydy mannau diwylliannol ddim yn rhywbeth i chi.”
Darganfyddodd fod addysgu meddylgarwch trwy gelf yn bylchuꞌr rhwystrau hyn; mae pobl yn teimloꞌn hyderus i ddefnyddio eu synhwyrau i sylwi ar liwiau, ar arlliwio, ar gynllun, a sylweddoli y gallan nhw yn deg ymrwymo â chelf – gan dynnu i lawr y rhwystrau cymdeithasol a seicolegol sydd wedi eu anghynhwyso nhw.
“Mae’n broses ddemocratig iawn – datblygu sgiliau mewn bod yn ymwybodol o’r presennol, y sylwi a dod yn ôl o grwydro’r meddwl.”
Yn dilyn y gwaith hynod ardrawol hwn, sefydlodd Louise Amgueddfeydd Ystyriol i gynnig hyfforddiant yn fwy eang ar draws y DU a thramor. Arweiniodd ei harddangosfa Room to Breathe at astudiaeth ymchwil gydag Adran Seicoleg Prifysgol Goldsmith yn Llundain. Yn ogystal maeꞌn hyrwyddo hyfforddiant trawma-wybodus er llesiant staff ac er mwyn creu mannau mwy hygyrch, gan alluogi grwpiau amrywiol i ymrwymo â chelf a meddylgarwch fel ei gilydd.
Mae Louise yn angerddol dros ddefnyddio creadigrwydd i wella iechyd meddwl yn y gymuned.
“Fy ymgyrch gydol oes yw i bob mudiad celf a phob amgueddfa yn y byd, yn enwedig y rhai syꞌn cael eu cyllido o arian cyhoeddus, gynnig pethau wedi eu seilio ar feddylgarwch i bobl yn union fel y byddai ganddyn nhw raglen ysgolion.”
Maeꞌn teimlo bod angen hyn yn fwy nag erioed – a bod y cyfrifoldeb o ymateb i argyfwng iechyd meddwl, i wahanu cymdeithasol ac i ddatgysylltu yn perthyn i ni i gyd, nid iꞌr sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yn unig.
Mae Meddylgarwch Cymru yn dymuno mynegi ein gwerthfawrogiad dwys o gyngor hael Louise yn ein gwaith o ddatblygu llwybrau meddylgarwch yn Amgueddfa Cymru.
Manylion cyswllt:
Gwefan: www.mindfulmuseums.org
Instagram: @mindful_museums
LinkedIn: Louise Thompson
https://www.linkedin.com/in/louise-thompson-512976183/?lipi=urn%3Ali%3Apage%3Ad_flagship3_profile_view_base_contact_details%3Bi5B%2BAkT9Q1OEwp3VCn9agQ%3D%3D
Geiriau allweddol posibl:
#Mindfulness, #wellbeing, #mindfulmuseums, #creativehealth