“Mewn byd sy’n llawn o atebion cyflym cystadleuol ar gyfer llesiant, rwy’n dadlau o ran llesiant gyda meddylgarwch sy’n seiliedig ar dystiolaeth, sy’n niwro-gadarnhaol, ac sy’n drawma-wybodus, sy’n parchu ei wreiddiau mewn doethineb myfyriol a naturiol, mewn ymarfer ac ethig. Llwybr parhaus i lesiant ac i fyw yn gynhwysol ac yn ystyrlon.” (Christoph Spiessens)
Ganwyd Christoph Spiessens yng Ngwlad Belg ac mae wedi byw yn y DU ers 23 o flynyddoedd. Maeꞌn arbenigo mewn dulliau meddylgarwch syꞌn gynhwysol ac yn hygyrch, ac mae ei waith yn y maes wedi ei drwythoꞌn ddwfn mewn egwyddorion, angerdd a phrofiad personol. Fel rhywun syꞌn cael ei gyfareddu gan groestoriad niwrowyddoniaeth, meddylgarwch, ac ysbrydoldeb ( seicoleg trawsbersonol), maeꞌn mynd ati i wneud popeth gydag amcanion hyderus er enghraifft cyflwyno profiadau meddylgarwch syꞌn ddiwylliant-berthnasol ac yn niwro-gadarnhaol tra ei fod yn dawel yn torri ar draws yr hyn syꞌn diriogaethol yn y maes.
Mae ei hyfforddiant yn gynhwysfawr ac yn cynnwys graddfeistr mewn addysgu meddylgarwch gan Brifysgol Bangor, a thystysgrif cymhwystra mewn addysgu Lleihau Straen Trwy Ddulliau syꞌn Seiliedig ar Feddylgarwch (MBSR), syꞌn cynrychioli lefel uchaf o hyfforddi athrawon meddylgarwch yn y DU. O ganlyniad iꞌw addysg ffurfiol a thros ddau ddegawd o ddysgu byd-eang a gwaith datblygu a phrofiad byw personol, mae ei ymagwedd at gyflwyno gweithgareddau meddylgarwch yn y byd yn un personol, ond eto yn gynhwysfawr a phroffesiynol.
“Fel person Hynod o Sensitif balch gyda niwro-amrywiaeth o achos trawma, rwyf wedi dysgu mai fy sensitifrwydd yw fy nghryfder mwyaf hefyd.”
Mae dau linyn iꞌr gwaith mae Christoph yn ei gyflwyno. Y cyntaf yw bod yn gefn i grwpiau ac unigolion syꞌn cynnwys ei brif gynulleidfa o weithleoedd, oꞌr cyhoedd yn gyffredinol, a grwpiau ar y cyrion (LHDTCRA +, bobl niwroamrywiol). Maeꞌn hyrwyddo hyfforddiant niwro-gadarnhaol, maeꞌn cyflwyno sgyrsiau sylfaenol, maeꞌn addysgu cyrsiau i unigolion, ac yn cynnig goruwchwylio athrawon meddylgarwch.
Yr ail yw trefnuꞌr ŵyl flynyddol Manchester Mindfulness Festival, a sefydlodd yn 2021 ac a enillodd yng nghategori ‘hyrwyddo llesiant’ yn y ‘This is Manchester Awards’. Maeꞌr ŵyl yn cynnig symud o ymarfer sydd wedi ei ganolbwyntio yn ormodol ar yr unigolyn ac yn hytrach at un sydd wedi ei wreiddio yn fframwaith wreiddiol foesol meddylgarwch sef ein helpu ni i fod yn well bobl ac yn gymdeithas well.
Mae pob blwyddyn yn datblygu oꞌr ddiwethaf, yn croesawu arbenigwyr syꞌn arweinwyr yn y maes, yn cynnal cyd-weithio syꞌn seiliedig ar feddylgarwch rhwng ymwelwyr a chynnal rhaglen gynhwysfawr o sgyrsiau syꞌn seiliedig ar feddylgarwch ac syꞌn llawn gwybodaeth.
“Diwrnod oedd yn ysbrydoli ac yn procio’r meddwl. Mae meddylgarwch ar groesffordd. Roedd hwn yn arwydd pwysig i’r dyfodol. Diolch o galon i’r arweinwyr ac am haelioni pawb ynghlwm â fo.” (Cyfranogwr yr Ŵyl 2024)
Mae cynhwysiant, hygyrchrwydd a bod yn real wrth galon pob agwedd ar waith Christoph. Mae ei hyfforddiant i weithleoedd yn cynnwys sesiynau cadarn wedi eu teilwra syꞌn cynnal timau i wynebu yn ystyriol achosion anodd o gael eu llorio, o ddatgysylltu ac o roi oꞌr neilltu. Trwy ddatblygu naws cyfforddus, empathi, ystyrioldeb a chysylltiad ystyrlon, maeꞌn rhoi cymorth i staff ac i reolwyr drawsnewid i newid parhaus. Maeꞌr Manchester Mindfulness Festival yn dod â phobl ynghyd i archwilio syniadaeth hanfodol ar addasu ymarferion ar gyfer pobl ag anghenion gwahanol. Maeꞌn ddigwyddiad gyda nifer o gysylltiadau gyda phartneriaid gan gynnwys Manchester Mind, Oxford Mindfulness, Mindfulness in Schools Project, BAMBA body of Mindfulness Practitioners, Meddylgarwch Cymru a phrosiectau eraill o Dde Affrica, Y Weriniaeth Tsiec ac Awstralia. Gyda dibenion amlwg o hyrwyddo cysylltu a chyd-weithio, maeꞌn ddigwyddiad sy’n hybu lleisiau llawr gwlad ac syꞌn dwysáu dealltwriaeth o feddylgarwch ar gyfer datblygiad personol, proffesiynol a chymdeithasol.
“Mae’n bryd symud tu hwnt i’r ddelwedd unigol gamarweiniol o brofi cyflwr o ddedwyddwch a chofio mai dull gweithredol yw meddylgarwch i ddelio â phrofiadau personol a thorfol, wedi ei wreiddio mewn gwahanol linachau o ddoethineb, ethig ac uniondeb.”
Fel awdur sydd wedi cael cyhoeddi, mae wedi ysgrifennu dau lyfr hunan-gymorth ysbrydol ac yn ogystal wedi bod yn gyd-awdur ‘Neurodiversity Tips for Mindfulness Teachers’ gyda Liezl Laidlaw, syꞌn adnodd i athrawon i wneud eu dosbarthiadau yn fwy niwro-gynhwysol. Mae yna groeso mawr iꞌr adnodd hwn ac maeꞌn cyd-fynd â gweithdai undydd a rhagor o gyfleoedd hyfforddi.
Nod Christoph yn y dyfodol yw ehanguꞌr Manchester Mindfulness Festival bob blwyddyn i gyrraedd cynulleidfa fyd-eang. Yn ogystal maeꞌn awyddus i weld a chefnogi lleihau tiriogaethedd yn y maes, a hefyd cael mwy o le i ysbrydoldeb mewn meddylgarwch, ochr yn ochr ag addysgu clinigol.
www.manchestermindfulnessfestival.com
www.facebook.com/profile.php?id=61564664588568
/www.instagram.com/christophspiessens/