Cyfeillion
Wrth i ni ehangu ein dyheadau a’n gweithgareddau mae Meddylgarwch Cymru yn dwyn ynghyd grŵp o gefnogwyr meddylgarwch o Gymru gyfan i ymestyn ein profiadau a gwella ein gallu. Rydym yn edrych ymlaen at rannu syniadau a gweithredu o ran ein gwerthoedd o gymuned a chyd-greu.
Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn dyfnhau a chryfhau ein rhwydwaith ac yn ein galluogi ni i gyrraedd llawer rhagor o gymunedau, mudiadau ac unigolion i feithrin cymunedau ystyriol. Byddwn yn datblygu’r bartneriaeth hon gyda’n gilydd ac rydym yn meddwl y bydd hyn o gymorth i ni ddatblygu Meithrin Cymunedau Ystyriol ledled Cymru. Rhagor cyn bo hir!
