Cyflwyno Meddylgarwch gyda Thîm Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ac Academi Arweinyddiaeth
Ambell waith mae sgwrs ar hap yn gallu cael dylanwad annisgwyl syꞌn profi sut y gall ein rhwydweithiau cydgysylltiedig yng Nghymru gyfrannu at Meithrin Cymunedau Ystyriol. Roedd gan Meddylgarwch Cymru a thîm Comisiynydd Cenedlaethauꞌr Dyfodol Cymru gysylltiad drwy gydweithiwr i Lywodraeth Cymru ac yn ystod y sgwrs fe drefnon i gynnig y cwrs 3 sesiwn Cyflwyno Meddylgarwch a ddatblygwyd gan Oxford Mindfulness Foundation i staff a chyfranogwyr Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethauꞌr Dyfodol. Rhaglen i bobl ifanc ywꞌr Academi, syꞌn cynnig datblygu sgiliau arweinyddiaeth i bobl ifanc o 18-30 oed o wahanol fudiadau yng Nghymru.
Ym mis Medi 2024 cymerwyd rhan gan grŵp brwdfrydig, ac maent wedi mynd âꞌu sgiliau, eu dealltwriaeth aꞌu profiadau i blannu hadau meddylgarwch yn eu bywydau personol a chydaꞌu cydweithwyr. Rydym yn gobeithio y bydd yr hadau yn datblygu ac yn cyfrannu at feithrin cymunedau ystyriol mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Dywedodd cyfranogwyr:
“Roeddwn yn hoffiꞌr gweithgaredd o ganolbwyntio ar rannauꞌr corff a rhestruꞌr pethau rwyꞌn ddiolchgar amdanyn nhw! Pethau cynnil, neis iꞌw gwneud wrth fy nesg pan fo pethauꞌn ormod i mi.”
“Rwyꞌn CARUꞌr ymarferion sadio, a oedd yn wybodaeth newydd i mi, ac rwyꞌn ymarfer yr hyn rydych chi wedi ei gynghori: pan rwyꞌn teimlo tyndra yn fy nghefn rwyꞌn canolbwyntio ar ran isaf fy nghorff, gan amlaf y coesau a’r stumog syꞌn gweithio i mi, aꞌr peth nesaf rwyꞌn ei wybod yw bod y tyndra wedi lleihau.”
“Yn ogystal yn hollol wych i atgoffa ein hunain o fyd natur ac o edrych allan drwyꞌr ffenestr pan rydyn niꞌn ystyriol ac yn y funud hon. Technegau arbennig. Rwyꞌn gobeithio y byddwch yn hapus o glywed fy mod yn mynd iꞌw cynnwys wrth gyflwyno fy hyfforddiant, cyn bob sesiwn a hanner ffordd drwyddynt.”
“Roeddwn eisiau ymateb i ddiolch i chi yn bersonol unwaith eto am gwrs mor arbennig. Rydych chi wedi fy ysbrydoli i ddefnyddio technegau meddylgarwch yn ein cyfarfodydd mewnol ac allanol yn y gwaith, yn ogystal ag yn fy mywyd personol i roiꞌr gofod aꞌr persbectif i mi i wneud penderfyniadau gwell…Roeddem i gyd wedi gwir fwynhauꞌr sesiynau.”