Mae Meddylgarwch yn allweddol i staff ym maes gofal iechyd: gwella llesiant ac ystyrioldeb staff ym maes gofal iechyd
Mae staff ym maes gofal iechyd, yn bennaf myfyrwyr meddygol a meddygon ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe / ysgol feddygol Abertawe wedi elwa o Hyfforddi Manylach Gwydnwch rhag Straen (ESRT), yn dechrau gyda diwrnod o lesiant a meddylgarwch yn 2018 ac yn datblygu i raglen o ddarpariaeth sydd hefyd yn cynnwys y rhaglen Hunan-Ofal Ystyriol (MSCP).
Dywedodd myfyrwyr fod yna welliannau o ran rheoli straen, ac roedd newid yn eu perthynas â straen yn ganolog i hyn. Dywedodd un myfyriwr, “Fe ddysgais i lawer am fi fy hun a sut oedd orau i ddelio â straen. Rwyꞌn teimlo fy mod yn gallu delio â straen yn well a deall fy emosiynau.” Roedd rhai yn disgrifio “ newid mewn ffordd o feddwl”, tra roedd eraill yn dweud eu bod ganddynt “ddealltwriaeth well” o straen. Roedd y gallu hwn i adnabod straen yn eu galluogi nhw i ddelio ag o cyn “ iddo eu llorio.” Yn ogystal ag adnabod straen yn well dywedodd y myfyrwyr eu bod yn gallu “ camu oddi wrtho”, neu “rhoiꞌr straen fwy mewn cydbwysedd… gydag agwedd fwy realistig.”
Dywedodd myfyrwyr eraill eu bod yn teimloꞌn fwy presennol yn ystod eu hymarfer sgiliau clinigol, dosbarthiadau tiwtorial a chlinigau. Gallwch weld yr adroddiad gwerthuso llawn yma
Dechreuodd Dr Umakant Dave ar y daith hon o ganlyniad iꞌw straen/ chwythu plwc ei hun yn 2013. Cafodd gymaint o gymorth oꞌr cwrs Lleihau Straen trwy Ddulliau syꞌn Seiliedig ar Feddylgarwch (MBSR) iddo fynd ymlaen i ddatblygu ei ymarfer ei hun a hyfforddi i addysgu gyda Phrifysgol Bangor.
Cynhaliwyd y diwrnod meddylgarwch / llesiant cyntaf i staff meddygol a myfyrwyr yn 2018. Oꞌr dechrau hwnnw mae sesiynau cyflwyno meddylgarwch wedi eu cynnal i feddygon iau, deintyddion, ymgynghorwyr newydd, rheolwyr y GIG, British Society of Gastroenterology, Association of Anaesthetists of GB and Ireland, AaGIC a chymdeithas feddylgarwch Libanus. Mae Umakant wedi addysgu ESRT (Hyfforddi Manylach Gwydnwch Rhag Straen) sydd wedi ei addasu o MBCT i fyfyrwyr meddygol a hyfforddeion llawfeddygol yng Nghymru. Yn ogystal mae wedi cyflwyno gweithdai gwydnwch i feddygon ac wedi trefnu hyfforddiant MSCP ( Rhaglen Hunan-Ofal Ystyriol) i staff gastroenteroleg ac endoscopi yn Abertawe. Mae Umakant hefyd wedi bod yn gweithio gyda Dr Carter Lebares yn California, UDA.
Maeꞌn wych gweld datblygiadau yng Nghymru yn dylanwadu ar waith ledled y byd ac yn dysgu ohono, yn ogystal â dylanwadu ar ddatblygiadau lleol.
Yn y dyfodol maeꞌn gobeithio gwneud ESRT a MSCP ar gael yn helaeth i staff ym maes iechyd a chynnwys ESRT yn y cwricwlwm meddygol.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: umakant.dave@wales.nhs.uk