Mae’r hyn a ddechreuodd fel ffordd o gysylltu a chefnogi yn ystod y cyfnod clo, gan fod cymaint o alw, wedi dod yn rhan o’r wythnos i staff yng Nghyngor Sir Powys, gan roi cyfle i staff ymlacio, pwyllo a bod yn y presennol.

Mae ein sesiynau tymhorol trideg munud yn darparu man i bobl setlo, pwyllo, ystyried lle maen nhw yng nghanol prysurdeb bywyd gwaith. Mae’r man hwnnw yn gallu helpu cyfranogwyr i fod yn fwy ymwybodol o sut ydyn nhw yn emosiynol, yn feddyliol ac yn gorfforol, ac efalli nodi trawsnewidiad – o ddod i’r funud hon. Cynhelir sesiynau ar brynhawn dydd Gwener cyn y penwythnos, sy’n amser da i ystyried, gwerthfawrogi a gallu cael saib o fusnes yr wythnos am hanner awr cyn i’r penwythnos ddechrau.
Nid oes raid mynd yn rheolaidd ond erbyn hyn mae gan rhai cyfranogwyr hanes hir o ymarfer. Mae Liz Williams, Cadeirydd Meddylgarwch Cymru yn arwain y sesiynau hyn ac mae’n ceisio cynnwys amrywiaeth eang o ymarferion o’r traddodiadol i ddulliau mwy arloesol ac ysgafnach gan gynnwys symud, barddoniaeth, profiadau i’r synhwyrau a llawer mwy. Mae staff yn dweud eu bod yn edrych ymlaen at y sesiynau ac yn eu colli os na fedrant fynd iddynt.
Mae hyrwyddo staff i gyfranogi yn y sesiynau meddylgarwch rheolaidd hyn yn cyfrannu at eu llesiant a gobeithio yn cael effaith ar sut maen nhw’n ymdopi, ymwneud ag eraill, ffynnu a gwneud pendrfyniadau gwell, felly mae yn barod yn plethu meddylgarwch rhwng agweddau personol a phroffesiynol o’u bywydau.
Rydyn ni’n gobeithio y gallwn annog rhagor o staff i ymwneud â meddylgarwch a chael y buddion o ymarfer meddylgarwch sy’n gallu cael dylanwad positif ar gymaint o agweddau o’n bywydau.Mae meddylgarwch wedi’i gynnwys yn rhan o Dulliau Sy’n Seiliedig ar Nerth ar gyfer Cyfathrebu Cydweithredol i Staff Gofal Cymdeithasol Oedolion yng Nghyngor Sir Powys, gan blethu meddylgarwch trwy ein bywydau a’n gwaith. Efallai mai’r cam nesaf fyddai datblygu’r sail hwn i gynnwys meddylgarwch yn fwy penodol i fywyd a gwaith Powys a’i chymunedau.
Ebost: jolene.hughes@yahoo.co.uk
Gwefan: http://www.powys.gov.uk