Mae Cymunedau Ffyniannus yn Gwmni Buddiant Cymunedol deinamig nid-er-elw yng Nghaerffili aꞌr cyffiniau. Ei nod yw creu cymunedau positif, hapus, iach a ffyniannus ledled de Cymru. Sefydlwyd yn 2021 ac yn awr mae yna bedwar cyfarwyddwr gweithredol: Mel Jones, Dr Manmeet Kaur, Esther Apoussidis a Sandra Brown, sydd yn dîm ymroddedig o bobl broffesiynol ym maes iechyd a llesiant. Bu cyfarfod rhwng Meddylgarwch Cymru ac Esther a Manmeet yn mis Chwefror a Mawrth 2024 i drafod sut mae eu gwaith yn berthnasol i feithrin cymunedau ystyriol.

Ar hyn o bryd mae pedwar diben iꞌw gwaith: rhaglen Llesiant Corff a Meddwl; gweithdai galluogi; grwpiau hapusrwydd a llesiant; a menter ‘Ysbryd Byd Natur’ ( mwynhau gweithgareddau iach yn yr awyr agored gyda phobl sydd o fryd positif). Yn amlwg mae Meddylgarwch yn gyswllt euraidd syꞌn rhedeg drwy waith Cymunedau Ffyniannus. O fewn ystod eang oꞌu gweithgareddau, mae cyfranogwyr yn cael eu hannog i fod yn y funud hon, gan dalu sylw llawn iꞌr hyn maen nhw yn ei wneud. Eu nod yw “helpu bobl brofi meddylgarwch yn y gweithgareddau rydyn niꞌn eu gwneud…creu mwy o ymwybyddiaeth a byw bywyd iꞌr eithaf.” Mae myfyrdodau ystyriol yn rhan greiddiol oꞌr Rhaglen Llesiant Corff a Meddwl aꞌr rhaglen galluogi. Mae ‘Ysbryd Byd Natur’ yn cynnwys mynd am dro yn ystyriol ym myd natur, lle anogir cyfranogwyr i fod yn bresennol yn y funud hon, sylwiꞌn iawn ar yr hyn syꞌn digwydd, synhwyroꞌr amgylchedd oꞌu cwmpas, a deall sut y gallant elwa o hyn. Yn y gweithdai galluogi, mae cyfranogwyr yn dysgu sut i fod yn ymwybodol o pwy ydyn nhw, yn y funud hon, a sut maen nhwꞌn ymateb i hynny, gan eu galluogi felly i wneud dewisiadau gwahanol. Yn ogystal maent yn cynnig dosbarthiadau myfyrio galw heibio arlein yn wythnosol syꞌn rhad ac am ddim. Mae’r tîm yn awyddus i hyrwyddo buddion meddylgarwch i iechyd meddwl:

“Felly mae ein meddyliau ni yn y gorffennol, yn y dyfodol, yn y gorffennol, dyfodol drwyꞌr amser, tra bo meddylgarwch yn byw yn y funud hon. Os dechreuwn fyw yn ystyriol bydd hanner y problemau yn cael eu datrys, yn enwedig problemau iechyd meddwl, maen nhwꞌn digwydd fel arfer oherwydd pryderon am y gorffennol neu am y dyfodol.”

Mae Cymunedau Ffyniannus wedi ymroi i wneud gwahaniaeth i fywydau unigolion drwy leihau unigrwydd, gorbryder ac iselder aꞌu galluogi nhw i weithredu yn ôl eu cryfderau, datblygu hyder, ymgysylltu â gweithgareddau ac â phobl eraill, a byw bywyd iꞌr eithaf. Mae eu cyfranogwyr yn tystio i hyn:

“Mae pob gweithgaredd, rhaglen a gweithdy yn canolbwyntio ar ddulliau syꞌn ein helpu ni i fod yn fwy presennol, i ddod o hyd i lawenydd a diolchgarwch mewnol, i fod yn fwy hunan-ymwybodol a hunan-ystyriol, sydd yn ei dro, yn fy mhrofiad i, yn helpu gyda bod yn fwy ystyriol o eraill. Nawr mae gen i drefn ddyddiol o ioga, myfyrio a gwaith anadl, sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr, gan fy helpu fynd drwy fywyd gyda llawer mwy o lawenydd a gweld pethauꞌn gliriach. Maeꞌr tîm yn wirioneddol wych, yn mynd yr ail filltir i roi croeso i bawb ac yn cyflwyno’r holl raglenni mewn ffordd lawen a chynhwysol.”

Mae gweithio yn y gymuned a chydweithio yn amlwg yn ganolog iꞌr ffordd mae Cymunedau Ffyniannus yn ymdrin âꞌu prosiectau. Maeꞌr tîm yn meithrin teimlad parhaus o gymuned, cysylltiad a pherthyn yn eu cyfranogwyr, trwy ddefnyddio grwpiau WhatsApp iꞌw cefnogi a grŵp o wirfoddolwyr syꞌn arwin ar annog eraill a hyrwyddo a chefnogiꞌr gweithgareddau cyfredol. Yn ehangach, mae Cymunedau Ffyniannus wedi cydweithio â mudiadau trydydd sector eraill yn y cyffiniau. Maen nhwꞌn teimloꞌn gryf y gallant wneud gwir wahaniaeth i gymdeithas drwy gydweithio yn y gymuned.

Gweledigaeth y tîm iꞌr dyfodol yw parhau i ehangu eu gwaith ar draws de Cymru, gwneud Cymunedau Ffyniannus yn fudiad syꞌn fwy o faint, yn fwy deinamig ac yn ganolfan rhagoriaeth am lesiant yn y gymuned aꞌr gweithle. Maent wedi dechrau cynnig gweithdai i staff ysbytaiꞌr GIG yn ne Cymru. Maent yn barod wedi gwneud dadansoddiad dechreuol o ddylanwad eu rhaglen Llesiant Corff a Meddwl ac yn nawr maent yn cydweithio â Phrifysgol Abertawe syꞌn arwain ar brosiect ymchwil gwerthuso mwy o faint.

Am ragor o wybodaeth am Cymunedau Ffyniannus, ewch i:

Home – Thriving Communities CIC

http://www.facebook.com/thrivingcommunitiescic/

Geiriau Allweddol

#mindfulness #wellbeing #informal mindfulness #community #friendship #nature #happiness #South East Wales #Caerphilly #Blaenau Gwent #Newport #Third Sector #NHS #partnership