Taith Ddysgu Iechyd a Llesiant gyda Llywodraethwyr a amlygodd ddylanwad meddylgarwch drwyꞌr ysgol yn Ysgol Gynradd Garnteg, ychydig iꞌr gogledd o Bontypŵl.

Roedd gweld sut mae disgyblion yn cyd-dynnu â’i gilydd ac â staff, sut maent yn talu sylw ac yn canolbwyntio, eu hagwedd at ddysgu, aꞌu hymddygiad yn gyffredinol, gan gynnwys rhai oꞌn disgyblion mwyaf bregus a oedd yn datblygu eu hunan-reoleiddio o hyd, wedi gwneud argraff ddofn ar y Pennaeth aꞌr Pennaeth Cynorthwyol a oedd yn cymryd rhan.

Dymaꞌr cam mwyaf diweddar ar daith sylweddol a gychwynnodd yn 2017 ac syꞌn datblygu o hyd. Yn ystod y blynyddoedd dilynol cwblhaodd pob aelod o staff gwrs meddylgarwch wyth sesiwn – rhai ohonynt ddwywaith – ac mae nifer ohonynt wedi hyfforddi i addysgu rhaglenni meddylgarwch fel The Present (o oed Meithrin i B2) a Paws b i ddisgyblion yn B4. Yn 2023-4 mae disgyblion B1 wedi bod yn dilyn rhaglen MiSP dots ac mae disgyblion B5 a B6 wedi bod yn ymwneud â phrosiect ymchwil gyda Phrifysgol Derby yn treialu fersiwn o Compassionate Mind Training syꞌn seiliedig ar feddylgarwch sydd wedi ei lunio ar gyfer yr oedran hwn. Felly mae gan pob disgybl sawl cyfle i brofi rhaglen meddylgarwch wediꞌi haddysgu yn rhan oꞌr cwricwlwm, syꞌn cyfrannu at y Pedwar Diben ac Adran Iechyd a Llesiant Dysgu a Phrofi.

Ond maeꞌr nodweddion a welwyd ar y Daith Ddysgu wedi datblygu o ymagwedd ysgol gyfan sꞌyn bwriaduꞌn benodol ymgorffori meddylgarwch ym mywyd yr ysgol, datblygu oꞌr rhaglenni a addysgir a chynnal disgyblion i ddefnyddioꞌr sgiliau aꞌr ymarferion yn rheolaidd.

Wrth gynllunio ar gyfer pob tymor, mae athrawon yn cynnwys gweithgareddau meddylgarwch penodol yn eu cynllun wythnosol yn ogystal â chynnwys meddylgarwch yn rhan o’u diwrnod. Ac nawr gan fod ganddynt fapiadau pob un oꞌr rhaglenni i ddangos sut maen nhwꞌn diwallu manylion Cwricwlwm i Gymru, maen nhwꞌn gallu cysylltu agweddau eraill ar feddylgarwch âꞌu meysydd penodol nhw.

Gyda hyn mae Ysgol Gynradd Garnteg wedi cymryd sawl cam ar hyd model y Llwybr MiSP:

CAM 1: Archwilo’r dewisiadau

CAM 2: Cyrsiau staff wyth-wythnos

CAM 3: Cyflwyno dewisiadau meddylgarwch i ddisgyblion

CAM 4: Gweithio gyda Chefnogwr Arweinydd Meddylgarwch yr Ysgol sy’n allanol

Ac yn barod yn gweithio ar rhai agweddau o

CAM 5: Ymagwedd ysgol gyfan – ymarfer personol ac ymarfer dysgu parhaus ar gyfer Camau 1-4, archwilio opsiynau ar gyfer gweithio gydaꞌr gymuned ehangach ac ysgolion eraill i weld sut y gall meddylgarwch fod yn gefn i ddiwylliant yr ysgol gyfan. Yn ogystal yn gweithio tuag at gyflwyno Portffolio Llwybr MiSP i ddod yn Ysgol neu Safle MiSP Disglair:

canolfan arfer da

I grynhoi, mae Camau 1,2, a 3 wedi eu hen sefydlu, mae Cam 4 ar y gweill a gall Cam 5 fod yn gam nesaf.

Gallwch glywed rhagor am Feddylgarwch yn Garnteg yma:


:  Mindfulness at Garnteg Primary School