Mae’r meddylgarwch rydyn ni’n ei addysgu yn hollol seciwlar ond gan fod gan y rhan fwyaf o grefyddau draddodiad myfyriol, mae’n cyd-fynd â chredoau crefyddol ac ysbrydolrwydd. Mae’n cyd-fynd yn arbennig gyda dysgeidiaeth Thich Nhat Hanh, arweinydd ysbrydol byd-eang, bardd a gweithredwr ar ran heddwch sy’n cael ei barchu ledled y byd am ei ddysgeidiaeth arloesol ar feddylgarwch, moeseg byd-eang a heddwch. Mae athroniaeth Thich Nhat Hanh wedi cael effaith sylweddol ar feddylgarwch seciwlar ledled y byd.

I’r sawl sydd am roi ei ymarfer meddylgarwch mewn cyd-destun mwy ysbrydol yn benodol mae grŵp o ymarferwyr yn sir Benfro wedi dod at ei gilydd i greu eu cymuned eu hunain – neu sangha -i archwilio dysgeidiaeth Thich Nhat Hanh mewn ar lefel ddwysach.
Mae’r cyfarfodydd yn cynnwys meddylgarwch ar sawl ffurf – myfyrio o dan arweiniad, myfyrio’n dawel, cerdded yn ystyriol tu mewn a’r tu allan, darllen yn ystyriol a gwrando’n astud a rhannu profiadau personol.
Meddai Elizabeth Daniels, un o sylfaenwyr y grŵp:
“Rydyn ni’n cynnal cyfarfod arlein yn wythnosol a hefyd sangha yn y cnawd bob wythnos lle rydym yn cyd-ymarfer a’r nod yw helpu datblygu heddwch a hapusrwydd, lleihau ein dioddefaint ein hunain ac yn y byd drwy ddealltwriaeth ac ystyrioldeb.
“Yn ogystal rydyn ni’n trefnu sesiynau Cerdded Nordig bob wythnos i’r gymuned gyda dau arweinydd hyfforddiedig o’n grŵp sydd yn gyfle hyfryd i archwilio’r byd naturiol a datblygu ein teimlad o gymuned. Rydyn ni’n cynnal bore coffi yn wythnosol mewn caffi lleol i unrhyw un sydd â llai o fynd ynddyn nhw.
“Bob tri mis rydym yn cynnal diwrnod rheolaidd o feddylgarwch, neu fore ystyriol ac encil dau ddiwrnod yn flynyddol i goroni’r cyfan. “
“Rydym yn cydnabod y traddodiad myfyriol sy’n rhan o gymaint o fudiadau ysbrydol, ac mae gennym gysylltiadau â’r Crynwyr, cymuned byd-eang myfyrio Cristnogol a grwpiau Bwdhaidd lleol eraill.”
Rydym yn cydnabod y traddodiad myfyriol sy’n rhan o gymaint o fudiadau ysbrydol, ac mae gennym gysylltiadau â’r Crynwyr, cymuned byd-eang myfyrio Cristnogol a grwpiau Bwdhaidd lleol eraill.”
Meddai aelodau’r Sangha:
“Fe wnes i ymuno â’r Open Waves Sangha bron i dair blynedd yn ôl ac rwyf wedi bod yn ymwneud yn weithredol â’r Sangha arlein a’r un corfforol fel ei gilydd ac encilion sy’n gysylltiedig. Rwyf hefyd wedi helpu dechrau gweithgareddau eraill fel Cerdded Nordig. I mi, rwy’n dilyn llwybr ysbrydol ac rwyf wedi profi budd deublyg o aelodaeth Sangha. Yn gyntaf, mae’r Sangha wedi fy nghynnal yn ystd cyfnodau anodd yn fy mywyd. Yn ail, ac yn bwysicach, mae’r cyfle i gyfranogi a helpu eraill o fudd anfesuradwy i fy natblygiad fy hun ac rwy’n ddiolchgar i Elizabeth am fy annog i ac aelodau eraill y Sangha.”
“I mi mae’n lle unigryw lle gallaf rannu syniadau, rhannu pryderon a rhannu fy hun gan deimlo’n ffyddiog y byddant yn gwrando arnaf yn ddiduedd ac y gallaf ddysgu oddi wrth eraill. Rwy’n ei deimlo’n fraint i fod yn rhan o’r Sangha.”
