Pwy sydd ag awydd dilyn Taith Celf Meddylgarwch yn amgylchedd trawiadol yr Orielau Celf yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru (AGC) yng Nghaerdydd? Wedi ei chynllunio ar gyfer ymwelwyr i’r Amgueddfa Genedlaethol a’r rhai sydd yn caru celf, yn ogystal â’r rhai a fyddai’n hoffi archwilio celf mewn ffordd fwy fyfyriol, mae hon yn rhoi gwedd newydd ar feddylgarwch mewn cyd-destun.

Datblygwyd y Daith o leoliad gwaith myfyriwr o gwrs MA mewn Curadu o Brifysgol Gorllewin Lloegr yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, a’r bwriad oedd galluogi i’r myfyriwr gael profiad byw a chreu cysylltiadau yn y sector curadu. Mae Caroline Merriam wedi defnyddio’r flwyddyn lleoliad gwaith fel ffordd o ehangu argyhoeddi meddylgarwch yn y byd celf. Meddai Caroline:

“Fel rhan o’r lleoliad gwaith yn AGC, rwyf wedi creu Taith Gelf Meddylgarwch mewn cydweithrediad â Louise Rogers yn Adran Dysgu’r Amgueddfa. Mae’n daith led-dywysol yn yr orielau celf a’r Brif Neuadd yn Amgueddfa Caerdydd gyda’r bwriad i ymwelwyr gael creu munudau ystyriol yn ystod eu hamser yn yr adeilad. Mae yna fap o’r Daith a phromptiau sy’n galluogi pob cyfranogwr i ddefnyddio ei synhwyrau a’i ddychymyg wrth weithiau celf penodol a gwrthrychau.

Mae’r Daith Gelf yn ehangu argyhoeddiad dysgeidiaeth meddylgarwch i amgueddfeydd a’r byd celf. Mae’n galluogi i ymwelwyr brofi meddylgarwch ar eu pennau eu hunain neu gydag eraill a dod â nhw i mewn i gymuned fwy o bobl ystyriol.

Rwy’n gobeithio bydd y cydweithrediad hwn yn creu gwaddol parhaus o’m gwaith yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdyd yn ogystal â chreu perthynas rhwng yr Amgueddfa a Meddylgarwch Cymru a fydd o fudd i’r ymwelwyr a’r staff yn yr Amgueddfa.”

Bydd y Daith yn mynd yn fyw 5 Tachwedd 2024 a gobeithio y bydd yn ysbrydoliaeth i ragor o deithiau meddylgarwch mewn rhannau eraill o ddarpariaeth helaeth yr Amgueddfa Genedlaethol.

Instagram: @uwe_ma.curating  @carolinesmerriamart