
Elusen llesiant yn ne Cymru sydd wedi ei hen sefydlu yw Valleys Steps. Maent yn cynnig cyrsiau i bobl sydd yn seiliedig ar dystiolaeth, yn agored i bawb, yn hawdd cael mynediad iddynt ac yn rhad ac am ddim. Eu nod yw galluogi pobl i helpu eu hunain, i beri newid arwyddocaol, ac i wneud gwahaniaeth mewn cymunedau lleol. Eu nod yw ei wneud mor hawdd â sy’n bosibl i bobl ymdopi â phroblemau bywyd a gwella bywyd bob dydd.
Dechreuodd menter Camauꞌr Cymoedd ym mwrdd Iechyd Cwm Taf, ardal syꞌn gwasanaethu pobl Rhondda Cynon Taf a Merthyr, lle roedd y raddfa uchaf yng Nghymru a Lloegr o broblemau iechyd meddwl. Datblygwyd eu cyrsiau fel adnodd i bobl ddatblygu eu gwybodaeth a sgiliau eu hunain i reoli yn well eu hiechyd meddwl eu hunain. Yn dilyn llwyddiant treialuꞌr cyrsiau, crëwyd Camauꞌr Cymoedd fel elusen, wedi ei chomisiynu gan y Bwrdd Iechyd i ddarparu dewisiadau effeithiol yn hytrach na thriniaethau seicolegol a meddyginiaethau gwrthiselder. Pan ehangodd y Bwrdd Iechyd, ehangodd Camauꞌr Cymoedd hefyd i gynnwys ardal Penybont-ar-Ogwr.
Maent yn cynnig dau gwrs allweddol: ‘Meddylgarwch i fywyd bob dydd’ a ‘Camau i lesiant’. Mae ‘Meddylgarwch i fywyd bob dydd’ yn seiliedig ar Therapi Derbyn ac Ymrwymo (ACT). Maeꞌr cwrs hwn yn addysgu sgiliau meddylgarwch sydd yn gallu cael eu hintegreiddio mewn ffordd rwydd i fywyd bob dydd. Maeꞌn gallu bod o gymorth i reoli straen, gwrthsefyll hwyliau isel, delio â gorbryder, a hybu llesiant yn gyffredinol. Er mwyn cefnogi meithrin ymarfer meddylgarwch a bod yn gymhelliad iꞌr rhai sydd wedi dilyn y cwrs, maent hefyd yn cynnig dosbarth galw heibio wythnosol arlein am hanner awr. Yn fwy diweddar maent wedi dechrau cynnig y cwrs meddylgarwch ‘Byw yn y Presennol’ i bobl syꞌn byw yn ardal BIP Aneurin Bevan, syꞌn pwysleisio ffyrdd llai ffurfiol o ymarfer meddylgarwch. Yn ogystal maent yn cyflwyno sesiynau blasu i grwpiau cymunedol a chyflogwyr allweddol lleol, ac ym maes addysg maent yn cynnig rhaglen wydnwch chwe-wythnos a rhaglen feddylgarwch.
Wrth galon gwaith Camauꞌr Cymoedd maeꞌr nod i wneud eu cyrsiau yn fwy o fewn cyrraedd pawb, gan gydweithio gyda chymunedau lleol maent yn eu gwasanaethu. Maeꞌr cyrsiau yn agored i bawb ac yn rhad ac am ddim:
“Egwyddor sylfaenol yr hyn rydyn niꞌn ei wneud yw diddymu rhwystrau i bobl. Rydyn niꞌn cyflwyno cyrsiau mewn lleoliadau syꞌn gyfarwydd i bobl. Rydyn niꞌn cyflwyno cyrsiau tu allan i fannau GIG yn fwriadol, felly rydyn niꞌn eu cynnal mewn llyfrgelloedd lleol…canolfannau cymunedol lleol…clybiau rygbi…amgueddfeydd lleol lle mae yna fan cyfarfod cymunedol…neuaddau eglwysig…felly rydyn niꞌn ceisio ei wneud mor hygyrch â phosibl i bobl. Felly rydyn niꞌn eu cynnal yn y bore, neu yn y prynhawn neu gydaꞌr nos. Does dim rhaid i bobl gofrestru. Does dim rhaid i bobl gael eu cyfeirio atom…Does dim rhaid i bobl rannu manylion personol..mae bobl yn dod ac yn eistedd a dyna fo.”
Yn y grwpiau hyn mae cyfranogwyr yn gweld pobl eraill yn cael profiadau tebyg ac felly yn teimloꞌn llai unig ac wedi eu stigmateiddio. Fodd bynnag maeꞌr cyrsiau hefyd yn cael eu cynnal yn rheolaidd arlein er galluogi mynediad haws atynt yn enwedig iꞌr rhai efallai a fyddaiꞌn teimlo y byddaiꞌn ormod iddynt gerdded i mewn i ystafell llawn dieithriaid. Mae ymgysylltiad cymunedol mewn meddylgarwch yn her barhaus i fudiad syꞌn gweithio mewn ardaloedd gydag amddifadiad lluosog a diweithdra rhwng y cenedlaethau. Mae bod yn bresennol yn gorfforol yn y cymunedau lleol a chydweithio gyda lleoliadau a mudiadau lleol, yn ymgorffori ymhellach yr hyn maent yn ei wneud yn yr ardaloedd maent yn eu gwasanaethu.
Maeꞌr tîm wedi derbyn gwerthusiadau positif iawn oꞌu dau gwrs craidd. Yn ystod y tair blynedd cyntaf cawsant eu gwerthuso gan Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru ym Mhrifysgol De Cymru. Dangosodd hyn welliannau arwyddocaol i lesiant pobl gyda phob cwrs, gyda phobl yn adrodd cynnal yr un lefel o lesiant chwe mis ar ôl gorffen y cwrs. Maent nawr yn parhau i werthuso eu cyrsiau yn rheolaidd, gan ddangos canlyniadau positif parhaus. Maeꞌr dystoliaeth hon yn cefnogi eu gweledigaeth i argyhoeddi rhagor o bobl aꞌu huchelgais i ddod yn elusen drwy Gymru.
Gwyliwch Richard Bundy yn siarad âꞌr Rhwydwaith Byd-Eang Menter Meddylgarwch yma
.
www.facebook.com/valleyssteps/
http://www.instagram.com/valleyssteps/
https://twitter.com/valleyssteps
YouTube: @valleyssteps