Yn aml yn y carchar ceir rhai sydd wedi bod drwy brofiadau trawmatig iawn yn ystod eu plentyndod, sydd yn aml wedi eu methu gan gymdeithas. Mae carchar yn gallu bod yn lle bygythiol ac anghyfeillgar i ymweld ag o, felly maeꞌn hynod o bwysig cymryd amser i roi man diogel a gofod i bobl ail-gysylltu â nhw eu hunain iꞌw galluogi nhw i ymdopi yn well.

Mae Jackie Roberts wedi defnyddio ei phrofiad helaeth aꞌi hyfforddiant mewn meddylgarwch a meysydd eraill i weithio gyda charcharorion aꞌu teuluoedd iddynt gael delio yn well âꞌu hemosiynau, gan ystyried y sefyllfa anodd maent ynddi.
Mae Jackie wedi addysgu meddylgarwch i blant ac oedolion ac yn ystod ei hamser fel Perchennog Meithrinfa, enillodd wobr ‘Meithrinfa Orau Cymru’, a ‘Cyfarwyddwr Gorau y DU’, yn llwyr seiliedig ar yr ymarferion aꞌr gefnogaeth a hyrwyddodd ac a anogodd gyda staff a phlant fel ei gilydd, yn enwedig datblygu gwydnwch emosiynol i rai bach o 0-5 mlwydd oed. Mae hyn wedi profi i fod yn sylfaen cadarn iꞌr gwaith maeꞌn ei wneud nawr yn y carchar. Meddai Jackie:
“Maeꞌr gweithgareddau rwyꞌn eu gwneud yn y carchar yn seiliedig ar ddulliau anadlu, rheoli emosiynau, bwyta yn ystyriol, bod yn ddiolchgar ac yn ystyriol. Rwyf hefyd wedi cwblhau cyrsiau 9-wythnos yn y Carchar yn ogystal ag ymyriadau gyda theuluoedd a phlant, yn ystod clwb ‘Ti a Fi’ neu ddiwrnodau iꞌr teulu.
“Rwyf wedi cael adborth positif gan deuluoedd, gan blant a charcharorion, gan eu bod wedi gallu defnyddioꞌr sgiliau aꞌr ddealltwriaeth ar gyfer yr amgylchiadau yn eu bywydau ar hyn o bryd.
“Maent wedi elwa yn sylweddol. Mae rhai carcharorion wedi gallu rhoiꞌr gorau iꞌw meddyginiaeth. Mae rhai wedi gallu rheoli eu hemosiynau yn ddigon da i gael eu rhyddhau neu i gael eu symud i Garchar Amodau Agored. Fe wnes i greu grŵp yn y Carchar oꞌr enw ‘Llesiant o fewn Muriau’ syꞌn caniatáu i ddynion gael gofod i ddysgu am eu hiechyd emosiynol a llesiant, yn ogystal ag ymarferion a dulliau i wella eu hemosiynau eu hunain a rhai eu plant aꞌu teuluoedd hefyd.
“Hoffwn yn fawr gael dylanwad mewn meysydd sydd yn aml o ran eu natur yn cael eu hanwybyddu. Rwyꞌn gwybod fy mod i wedi cael dylanwad, ond ar hyn o bryd dim ond fi sydd yma! Rwyf wedi casglu data cynnydd wythnosol oddi wrth y carcharorion syꞌn ymwneud âꞌr hyfforddiant, rwyf wedi casglu ymatebion holiaduron i werthusoꞌr effaith, ac yn ogystal rwyf wedi defnyddio technoleg HeartMath, sydd hefyd wedi dangos dylanwad Meddylgarwch ac sut maeꞌn effeithio ar Guriad Calon a llesiant emosiynol rhywun.
“Rwyf wedi gwirfoddoli mewn ysgol leol i addysgu cwrs paws b i grŵp o fyfyrwyr a oedd wrth eu bodd gyda fo, ond mae gan ysgolion gyllideb dynn ac maen nhwꞌn gyndyn iawn o dalu am ymyriadau oꞌr fath, sydd yn bwysig iawn iꞌn plant, yn fy marn i.”
Mae Jackie yn gobeithio parhau âꞌr gwaith hwn aꞌi ehangu gyda meddylgarwch yn graidd iddo, gyda chymorth NLP, Havening, mBit, HeartMath, EFT, TFY a thechnegau Niwrowyddonol eraill.
Ei gweledigaeth yw Galluogi Trawsnewid un curiad calon ar y tro trwy ei busnes Myriad Minds syꞌn golygu “Manifest Your Resilience Inwardly and Dynamically”.
Ebost: myriadminds@icloud.com
Facebook: Myriad Minds
Instagram: _myriad_minds
LinkedIn: Jackie Roberts