Paul yw fy enw i, ac rydw i’n athro gwyddoniaeth gyda phrofiad o arweinyddiaeth fugeiliol ar lefel ysgol uwchradd. Dechreuodd fy nhaith feddylgarwch pan es i ar gwrs Mindfulness in Action gyda Vishvapani Blomfield yn arwain. O’r profiad hwn daeth diddordeb dwys yn yr ymarfer, ac erbyn hyn rwyf wedi bod yn ymarfer meddylgarwch yn rheolaidd am fwy na blwyddyn.
Mae rhan sylweddol iawn o’m taith feddylgarwch wedi ymwneud â chymuned Meddylgarwch Cymru. Mae’r grŵp hwn yn cyfarfod arlein am 10 am bedwar diwrnod yr wythnos, ac mae yno amgylchedd cynnes a chynhwysol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn meddylgarwch. Mae natur groesawgar y gymuned hon wedi bod yn fodd o gynnal a dwysáu fy ymarfer.
Trwy’r sesiynau arlein hyn, rwyf wedi cael y cyfle i brofi amrywiaeth o fyfyrdodau o dan arweiniad ymarferwyr profiadol, pob un yn dod â’i bersbectif ac arddull unigryw. Yn ogystal mae’r sesiynau hyn yn rhoi man i gysylltu ag eraill a rhannu ein profiadau, gan gyfoethogi ymhellach fy nealltwriaeth a gwerthfawrogiad o feddylgarwch.
Un o’r arweinwyr meddylgarwch o Meddylgarwch Cymru yw Iwan Brioc, ac yn ddiweddar roeddwn yn ddigon ffodus o fynd i weithgaredd tridiau wyneb-yn-wyneb roedd wedi ei drefnu, o’r enw The Art of Looking at Ourselves. Roedd y gweithdy hwn yn brofiad dwys i mi, gyda llawer o’r gweithgareddau ystyriol yn gadael argraff ddofn a pharhaus rwyf yn ei phrosesu o hyd. Yn ystod y cwrs cawsom ein hannog i archwilio’r cwestiwn, “ Beth os mai hwn yw y cyfan?” trwy amrywiaeth eang o ymarferion meddylgarwch arloesol.
Fel athro bioleg, mae fy niddordebau yn cynnwys bod ym myd natur, boed hynny yn stwna yn fy ngardd neu ddringo mynyddoedd yn Yr Alban. Dim ond yn y blynyddoedd diwethaf rwyf wedi sylweddoli bod y cariad hwn o fod yn yr awyr agored yn rhan o fy ymchwilio am y munudau ystyriol sydd yn ein cyfoethogi gymaint.
Mae meddylgarwch wedi cyfoethogi fy mywyd , ac rwyf yn hynod o ddiochgar o fod wedi ei ddarganfod. Rwy’n diolch i’r drefn o fod wedi darganfod cymuned o ymarferwyr caredig ac empathetig. Rwyf nawr â diddordeb angerddol mewn rhannu meddylgarwch ag eraill, wrth i ni weithio tuag at ddatblygu byd sy’n fwy caredig a mwy ystyriol. Yn ddiweddar rwyf wedi cyflwyno sesiynau meddylgarwch i grwpiau bach o ddisgyblion yn fy ysgol, ac yn y dyfodol rwy’n awyddus i ehangu a datblygu hwn ymhellach.