Mae Annette Thomas â chanolfan yn Wrecsam, ond maeꞌn cynnig gwasanaeth byd-eang arlein. Yn ddiweddar mae wedi sefydlu CreativelyReflect i helpu unigolion a chymunedau i ffynnu trwy adnoddau creadigol ac ystyriol syꞌn meithrin hunan-fyfyrio a chysylltu. Maeꞌn cynnig gweithdai ffotograffiaeth ystyriol, hyfforddiant o ran sgiliau byw, a gweithdai ysgrifennu myfyriol wedi eu llunio i helpu unigolion a chymunedau i weld y byd a nhw eu hunain mewn ffyrdd newydd, craff.
Mae ei chyfranogwyr yn cynnwys unigolion a chymunedau syꞌn ceisio datblygu a chysylltu trwy ymarferion creadigol ac ystyriol. Mae hyn yn gallu cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn datblygu yn bersonol ac mewn hunan-fyfyrio; cymunedau syꞌn ystyried gwella eu cysylltiadau rhyngbersonol a llesiant; unigolion syꞌn chwilio am gyfleoedd creadigol ar gyfer mynegiant a datblygiad; a grwpiau neu fudiadau syꞌn canolbwyntio ar feddylgarwch a llesiant cyfannol.
Mae Annette wedi bod yn ymwneud â meddylgarwch yn bersonol ers dros ddeng mlynedd. Fel rhan oꞌi hyfforddiant mewn Therapi Gwybyddol Ymddygiadol, mae wedi cynnwys meddylgarwch yn ei gwaith gyda phobl ifanc. Yn ogystal mae wedi cwblhau ei hyfforddiant mewn Gweithio gyda Ffotograffiaeth Ystyriol gyda ‘Look Again’, enillwyr diweddar Gwobrau Torri Tir Newydd mewn Meddylgarwch (2024) yng Ngŵyl Meddylgarwch Manceinion. Mae hwn yn hyfforddiant ffotograffiaeth ystyriol sydd yn seiliedig ar dystiolaeth i helpu ymarferwyr ledled y byd i wella iechyd meddwl, llesiant a gwydnwch eu cleientiaid aꞌr cymunedau maen nhw yn eu gwasanaethu.
Mae Ffotograffiaeth Ystyriol CreativelyReflect yn ymarfer syꞌn cyfuno meddylgarwch a ffotograffiaeth i feithrin hunan-fyfyrio, datblygu personol, a chysylltiad dwysach âꞌr byd. Maeꞌr dull hwn yn annog cyfranogwyr i:
- • Arafu ac Arsylwi: Mae ffotograffiaeth ystyriol yn ymwneud â bod yn gwbl bresennol yn y funud hon, talu sylw agos iꞌr hyn sydd o’n cwmpas, a sylwi ar fanylion a fyddai fel arall yn cael eu diystyru.
- • Ymgysylltu yn Greadigol: Maeꞌn hyrwyddo defnyddio ffotograffiaeth fel cyfle creadigol i fynegi meddyliau, emosiynau a pherspectifau, gan annog cyfranogwyr i weld y byd mewn ffordd newydd.
- • Myfyrioꞌn Fewnol: Trwy dalu sylw i ddelweddau mewn ffordd ystyriol, mae unigolion yn gallu hunan-fyfyrio, archwilio eu teimladau a meddyliau dwysaf, a chraffu ar eu profiadau personol.
- • Gwella Llesiant: Maeꞌr ymarfer hwn yn gallu lleihau straen, gwneud y meddwl yn gliriach a chynyddu llesiant yn gyffredinol drwy feithrin teimlad o bwyllo a meddylgarwch.
- • Datblygu Cysylltiadau: Yn ogystal gall fod yn weithgaredd cymunedol, gan helpu creu cysylltiadau gydag eraill drwy rannu profiadau a chreadigrwydd torfol.
Drwyddi draw, mae Ffotograffiaeth Ystyriol CreativelyReflect yn ymarfer cyfannol syꞌn cyfuno agweddau artistig a myfyriol ffotograffiaeth i hyrwyddo ffordd fyfyriol a chytbwys o fyw.
Ym mis Awst 2024 hyrwyddodd Annette raglen 10 wythnos mewn partneriaeth â Your True Path to Wellness CIC**.Roedd y gwaith hwn wedi helpu meithrin cymunedau ystyriol mewn sawl ffordd:
- • Hybu ymwybyddiaeth a phresenoldeb, drwy helpu unigolion i fod yn fwy ymwybodol a phresennol yn eu bywyd bob dydd.
- • Hyrwyddo hunan-fyfyrio, drwy adnoddau creadigol ac ymarferion ystyriol.
- • Datblygu cysylltiadau, drwy greu cyfleoedd i rannu profiadau a gweithgareddau cydweithrediadol.
- • Annog creadigrwydd a mynegi teimladau a meddyliau, drwy ddarparu cyfleoedd creadigol fel ffotograffiaeth.
- • Darparu adnoddau i ddatblygu, y gall unigolion eu defnyddio i barhau âꞌu taith meddylgarwch.
Mae sylwadau gan gyfranogwyr y cwrs hwn yn cynnwys:
‘Rwyꞌn bendant yn sylwi ar bethauꞌn fwy bob dydd.’
‘Rwyf wedi cael hwyl, wedi datblygu ac wedi dysgu llawer.’
‘Does dim byd doeddwn i ddim yn ei hoffi. Doeddwn i ddim yn siwr beth iꞌw ddisgwyl gan y cwrs hwn. Roedd yn arbennig. Nid yn unig wnaeth o fy helpu fi i arafu a thalu gwir sylw i fy nghartref…mewn ffordd doeddwn i erioed wedi ei wneud naꞌi weld o’r blaen…cawsom hwyl, gwybodaeth, ac amser i fod…caru fo! Roeddwn yn meddwl ei fod yn wych sut wnaeth Annette gyflwyno ymarfer anadlu iꞌn helpu ni i fod yn bresennol ac ein cysylltu i fod yn y funud hon.’
Yn y dyfodol mae CreativelyReflect yn gobeithio:
- • Datblyguꞌr gymuned i argyhoeddi cynulleidfa ehangach, gan helpu rhagor o unigolion a grwpiau i elwa o ffotograffiaeth ystyriol ac ymarferion myfyrio creadigol.
- • Datblygu amrywiaeth o raglenni, encilion, ac adnoddau syꞌn addas i ystod amrywiol o bobl, gan sicrhau bod rhagor o bobl yn gallu ymwneud âꞌr ymarferion hyn ac yn elwa ohonynt.
- • Datblygu partneriaethau gyda mudiadau eraill, a grwpiau cymunedol i integreiddio ffotograffiaeth ystyriol a chreadigrwydd i raglenni llesiant ehangach.
Ar hyn o bryd mae gwaith Annette yn canolbwyntio ar ddatblygu partneriaethau gydag elusennau sydd wedi ymroi i alluogi cymunedau mewn cymdeithas sydd yn aml wedi cael eu diystyru neu eu camddeall.
Am ragor o wybodaeth gweler:
Ebost: info@creativelyreflect.com
Gwefan: www.creativelyreflect.com
Facebook: CreativelyReflect
Instagram: CreativelyReflect
LinkedIn: CreativelyReflect
*Look Again Mindful Photography for Mental Health Wellbeing and Resilience