Wedi ei hanelu at bobl sydd eisiau bod yn heini, bod yn iach, rhedwyr, cerddwyr, pobl sy’n llawn mynd, rhedwyr uchelgeisiol – a dweud y gwir, pawb ohonon ni. Bwriad Sioe Redeg Caerdydd yw datblygu meddylgarwch yn rhan o raglen llesiant yng nghyd-destun rhedeg. Cyfarfod llawr gwlad yw Sioe Redeg Caerdydd o adnoddau lleol a rhanbarthol i alluogi pobl i gychwyn eu taith i fod yn heini a’i ddatblygu. Meddai Abichal Sherrington, un o’r sylfaenwyr a threfnwyr:

Mae’r Sioe Redeg yn gyfle i bobl brofi meddylgarwch mewn sefyllfa ddatblygiadol sy’n ymarferol ac yn ddefnyddiol. Gwneir hyn drwy sesiynau blasu sy’n amlinellu’r arwyddocâd a phwysigrwydd o ehangu ymwybyddiaeth. Mae’n ymwneud â rhoi cyfle i bobl ddeall a phrofi nhw eu hunain o berspectif gwahanol sy’n allweddol i adnabod a chynnwys fersiwn fwy gynhwysol o realiti.

Oherwydd natur myfyrio a meddylgarwch bydd hyd yn oed dod mewn cysylltiad â’r syniad o fyfyrio yn dod â newidiadau cynnil i unigolion. Yr Effaith Pili-Pala. Bydd cyflwyno bobl i natur eu meddyliau eu hunain yn cael ôl-effeithiau diddiwedd wrth iddynt ddechrau datblygu dealltwriaeth nid yn unig o’u meddyliau eu hunain ond hefyd sut maen nhw’n rhyngweithio â’u hamgylchedd. Esblygu yw hwn, nid yn unig yr unigolyn ond esblygu torfol hefyd.

Mae gennym ni ddigon o wybodaeth gwyddonol i weld yr hyn sy’n digwydd yn y byd. Mae angen arnom ddefnyddio’r wybodaeth honno a doethineb cronedig er budd popeth.

Mae’r posibiliadau yn ddiddiwedd os gwnawn ystyried dod yn fwy ymwybodol o unrhyw werth. Byddai cysylltu gyda mudiadau sy’n cefnogi agwedd gyfunol tuag at natur bod a bywyd yn y moddolrwydd penodol hwn, y byd athletig/ gweithgar, o fudd i argyhoeddi y rhai sydd ar gychwyn eu taith o hunan- ddarganfod.

Dyfyniad gan un o gynorthwywyr y sioe sydd â phroblem clun ac a gymrodd fantais o’r hyn oedd ar gael:

“ Cyfarfod amrywiaeth o bobl broffesiynol na fyddwn o reidrwydd yn gwneud ymdrech i’w gweld yn fy mywyd bob dydd…roedd cael pawb gyda’i gilydd mewn un ystafell wedi fy helpu ddeall fy anaf sydd wrth wraidd y broblem a sut y gallai dulliau amlddisgyblaethol fy rhoi ar ben ffordd.”

Rydyn ni’n gobeithio mai’r ddealltwriaeth annatod hon fydd yn ymddangos mewn bobl sy’n dod i weithdai meddylgarwch yn y sioe, gan fabwysiadu ymagwedd fwy ystyriol at eu profiad.

Ebost: mail@cardiffrunningshow.com

Gwefan: https://cardiffrunningshow.com

Facebook: https://www.facebook.com/CardiffRunningShow/

Instagram: https://www.instagram.com/cardiffrunningshow