
Mae Jo Soldan yn Seicolegydd Clinigol yng Nghaerdydd ond mae ganddi gefndir rhyngwladol o ran hyfforddiant meddylgarwch a phrofiad. Ymysg y pethau mae’n eu cyflwyno mae’r cwrs Gwydnwch yn y Gweithle Sy’n Seiliedig ar Feddylgarwch, sydd wedi ei addasu o gwrs MBSR ar gyfer y gweithle. Mae wedi ei lunio ar gyfer unrhyw un sydd o dan straen yn y gweithle. Datblygwyd y cwrs yn wreiddiol a chafodd ei werthuso 15 mlynedd yn ôl gyda staff ym maes iechyd yn Seland Newydd, lle roedd Jo yn gweithio ar y pryd. Nawr mae’n cael ei gynnig yn eang yn y cyd-destun hwn yn Auckland ac yn fwy diweddar mae wedi ei gyflwyno yng Nghaerdydd i staff ac athrawon ym maes iechyd.
Ar ôl y cwrs mae Jo yn cynnig sesiynau ymarfer parhaus i fod yn gefn i feithrin meddylgarwch. O ganlyniad i hwn mae’r grwpiau o gyfranogwyr wedi ffurfio cymunedau cefnogol cydlynus. Mae’r cwrs hwn yn creu nifer cynyddol o bobl ym maes iechyd sy’n defnyddio meddylgarwch fel ffordd o ddelio â’r straen o weithio yn y system maes iechyd.
Darganfyddodd werthusiad dechreuol o gyfranogwyr a oedd yn gweithio ym maes iechyd ( 43 o staff mewn amrywiaeth o swyddi) fod ymgysylltu’r staff yn y gweithgareddau datbylgu gwydnwch yn drawiadol, gyda 92.8% yn dod i’r sesiynau; 95% yn adrodd eu bod wedi elwa; a thua 70% yn cynnal eu hymarfer o hyd pan gawsant eu holi yn ddilynol hyd at ddwy flynedd yn ddiweddarach. Mae canlyniadau o brofion cymharu parau yn dangos lleihad sy’n arwyddocaol yn ystadegol yn israddfeydd Emotional Exhaustion a Depersonalisation o’r Maslach Burnout Inventory a’r Perceived Stress Scale. Yn ogystal maen nhw’n dangos cynnydd arwyddocaol mewn gwydnwch o’i fesur ar y Brief Resilience Scale.
Roedd 100% o’r rhai a aeth ar y cwrs yn teimlo ei fod wedi cael effaith arnynt yn broffesiynol. Roedd sylwadau yn cynnwys “ mwy o dan reolaeth”, “llai adweithiol”, ac yn “fwy presennol mewn sefyllfaoedd a oedd yn achosi straen”. Roedd tri deg chwech o dri deg wyth o’r rhai a atebodd yn teimlo ei fod wedi gwneud newid positif i’r ffordd roeddan nhw’n adweithio yn y gwaith. Roedd sylwadau’r cyfranogwyr yn cynnwys: “ gallu canolbwyntio mwy ar y funud hon – gallaf wneud y gwaith yn gyflymach” a “yn canu eto”. Roedd eu cydweithwyr hefyd wedi sylwi ar newid yn y cyfranogwyr: “ Ddim yn cymryd adborth negyddol mewn ffordd mor bersonol.” Ar ben hynny, roedd trideg saith o drideg wyth (97%), yn teimlo bod newid mawr neu bositif wedi bod yn eu gallu i ddelio â sefyllfaeodd o dan straen. Er enghraifft, dywedodd cyfranogwyr: “ gallu delio â phethau’n wahanol, hyderus, gwell am benderfynu, delio â straen yn well” a “ rwyf yn llawer mwy ymlaciedig ac yn fwy effro o ran delio ag achosion sy’n achosi straen a phryderon a phobl”. Dywedodd eu cydweithwyr hefyd eu bod: “ddim yn cael eu llorio gan sefyllfaoedd dan straen,” “ yn llawer mwy presennol a hyderus”, “lefelau uwch o egni, ddim yn teimlo’n isel” a “llai pryderus ac yn fwy positif am bethau.”
Mae Jo yn gobeithio y gall barhau i ledaenu buddion y cwrs hwn drwy ei gynnal mewn rhagor o leoliadau ledled Cymru.
I weld fideo o’r gwaith hwn ym maes iechyd, dilynwch y ddolen hon: https://1drv.ms/v/s!AipVLSHDV2pngmtSYRCmcKK5odtQ
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: jo@josoldan.com
LinkedIn: jo soldan