Mae Sioned ac Elin yn ddwy ferch fferm o ogledd Cymru ac yn hen ffrindiau. Ar ôl cyfarfod yn y brif ysgol wrth wneud gradd mewn seicoleg bron i 30 mlynedd yn ôl aeth bywyd proffesiyniol y ddwy ar drywyddau gwahanol. Wedi ychydig flynyddoedd ym myd addysg a lles aeth Sioned yn ôl i’w gwreiddiau a’i chariad cyntaf a sefydlu busnes tyfu a gosod blodau. Yn y cyfamser bu Elin yn gweithio fel seicolegydd addysg am ugain mlynedd cyn i groesffordd yn ei bywyd beri iddi wneud y penderfyniad i roi’r gorau i’w swydd er mwyn dod i redeg ei fferm deuluol. Mae Elin wedi hyfforddi i ddysgu meddylgarwch ers tua 10 mlynedd ac wedi rhedeg grwpiau i blant ac oedolion mewn addysg ac yn y gymuned. Er y llwybrau amrywiol mae’r ddwy wedi gwneud cylch cyfan erbyn hyn ac yn ôl yn eu cynefinoedd yn gweithio yn yr awyr iach, yn glwm i’r tymhorau a thro y rhod a’u traed yn ddwfn yn y pridd.
“ Roeddem eisiau rhannu y buddion yr ydym ni wedi ei brofi o ymarfer meddylgarwch tu allan ag o weithio yn glos gyda natur.” (Sioned)
Mae’r ddwy bellach yn rhedeg grwpiau misol yng ngardd Sioned yn ardal Rhuthun ble maent yn cyfuno eu sgiliau a’u diddordebau mewn meddylgarwch, creadigrwydd, garddio a lles.

“Cynnig cyfle i arafu a defnyddio meddylgarwch i ail gysylltu gyda natur, ailgofio ein bod yn rhan o fyd natur, ac wrth ddysgu am ofalu am yr ardd, efallai bod cyfe i gofio am ofalu am ein hunnain yn yr un ffordd”. (Elin)
Ceir cyfnodau byr o ymarfer meddylgarwch mewn grwp gyda phwyslais naturiol ar agor allan i brofiadau synhwyrol yr ardd: swn y nant a’r adar, arogl y blagur, teimlad y pridd rhwng y bysedd. Mae’r ardd yn cynnig gwledd o brofiadau synhwyrol sy’n dod a rhywun yn rhwydd i mewn i brofiad y foment bresennol.
“Mae talu sylw i deimlad, arogl a thlysni rhosyn er engraifft yn llawer haws ac yn teimlo yn fwy naturiol nac ymarfer yn ffurfiol ar glustog ac felly mae ymarfer yn yr ardd yn gallu bod yn borth hwylus i mewn i feddylgarwch o’r newydd neu yn ffordd o gyfoethogi ymarfer sydd wedi ei sefydlu yn barod.” (Elin)
“Mae cael y sesiynau mewn gardd heddychlon, allan yn yr awyr agored yn ganol natur yn ychwanegu at ein gallu i brofi a gwerthfawrogi ein bywyd fel y mae yn digwydd neu ddatblygu yn y foment honno”. (Aelod o’r grwp)
Mae pob sesiwn yn dilyn thema sy’n clymu gyda’r tymor a’r hyn sy’n digwydd yn yr ardd. Er engraifft ar ddechrau’r gaeaf bu sesiwn ‘swatio a maethloni’ oedd yn ffocysu ar brif orchwyl yr ardd yr wythnos honno sef hel dail er mwyn creu ‘mulch’ ogwmpas gwreiddiau coed a phlanhigion iw hamddiffyn a’u maethloni dros y gaeaf. Wrth fynd ati i gribinio, yn effro i holl brofiadau synhwyrol y dasg roedd gwahoddiad i adlewyrchu ar sut yr ydym ni yn gallu amddiffyn a maethloni ein hunnain hefyd dros y gaeaf.
Mae cyfle ym mhob sesiwn i ymgymeryd a un neu ddwy weithgaredd greadigol neu arddwriaethol syml. Mae’r gweithgareddau yma yn creu cyfleoedd i ymarfer talu sylw i brofiadau synhwyrol gweithgaredd yn anfeirniadol a sylwi ar brofiadau ac emosiynau sy’n gallu codi wrth greu a gweithio gyda phlanhigion a deunyddiau naturiol. Mewn sesiwn wanwynol bu’r grwp yn cerdded mewn tawelwch o gwmpas yr ardd yn hel deunyddiau ar gyfer creu nyth bach er mwyn plannu blodyn bach ynddo. Bu i rai sylwi ar deimladau o ryfeddod ac edmygedd am ddycnwch a chrefft yr adar bach oedd yn brysur yn adeiladu eu nythod eu hunnain o’u cwmpas, eraill yn disgrifio teimladau o fodlonrwydd tawel a synnwyr o lif wrth fod wrthi yn ddiwyd yn creu.

Mae pob sesiwn yn gorffen gyda phaned a chacen tu allan yn yr ardd os yw’r tywydd yn caniatau neu yn glyd o gwmas y tan yn y lloches. Mae sgwrs dros baned yn aml yn troi o gwmpas thema y sesiwn a’r rhyfeddoau sydd wedi eu darganfod yn yr ardd ac yn y profiad o arafu a sylwi. Mae amrywiaeth o bobl yn mynychu’r sesiynau, rhai pobl sydd yn dod o dro i dro yn unig ac eraill sy’n mynychu yn rheolaidd.
“ Cyfnod o amser hynod werthfawr i roi gofal a sylw i fy meddwl, fy nheimladau, synhwyrau, emosiynau a fy ysbryd.” (Aelod o’r sesiynau)
Geillir archebu lle ar sesiwn drwy’r wefan: www.pontytwr.co.uk
Mae gwybodaeth am y sesiynau i’w gael ar y wefan: www.pontytwr.co.uk
Instagram: sioned,pontytwr
Neu gellir e bostio am fwy o wybodaeth: info@pontytwr.co.uk