Flynyddoedd maith yn ôl cymerodd y Cynghorydd Sir Alun Williams ran mewn cwrs ffurfiol ar feddylgarwch. Ers hynny mae wedi parhau i ymarfer myfyrio ac i astudio egwyddorion meddylgarwch a Bwdїaeth. Mae Alun wedi rhannu ei fyfyrdodau gyda Meddylgarwch Cymru am sut mae ei ymarfer rheolaidd wedi effeithio ar ei brofiad o gael rôl feichus a phrysur ar y Cyngor, sydd yn aml yn gofyn iddo wneud penderfyniadau yn y fan a’r lle o ran sut i ymateb i bobl a sefyllfaoedd.
Gan amlaf mae Alun yn eistedd am hanner awr yn y bore, ac mae hyn yn cael effaith amlwg ar sut mae’n ymdopi â heriau a ddaw yn ystod y dydd. Mae’r arfer hwn yn galluogi iddo gamu’n ôl yn feddyliol ac ystyried yn gliriach y sefyllfa wrth law, sydd yn ymddangos fel petai’n creu gofod rhwng adegau a digwyddiadau sy’n lleihau’r teimlad o fod ar frys neu o dan bwysau. Mae’r munudau sy’n deillio o hyn yn galluogi iddo i ystyried yn well effeithau ehangach ei ymyriadau a’i ymatebion.
Mae cyfathrebu yn y gweithle yn cynnig llawer o gyfleoedd i ymchwilio i’r effaith mae arfer Alun yn ei gael. Ambell waith mae’n ynghlwm â digwyddiadau lle mae llawer o bobl eisiau siarad ag ef ar yr un pryd am bethau gwahanol. Mae’n gwybod y byddai yn y gorffennol wedi ystyried bod treulio amser gyda rhai o’r bobl hyn ddim mor bwysig â chyda phobl eraill, a’i fod wedi ymddangos yn bell ac wedi bod yn swta o ran sgwrs. Mae dulliau meddylgarwch wedi galluogi iddo osgoi pethau dibwys neu feddwl am rhywbeth arall, a thalu rhagor o sylw i bob rhyngweithiad, gan gymryd pawb llawn cymaint o ddifri. Yn deillio o hynny mae’n mwynhau pob rhyngweithiad yn fwy o lawer ac yn elwa mwy ohonyn nhw.
Ar yr un pryd, mae ymrwymo i ganolbwyntio ar unigolion wedi ei gynorthwyo i adnabod yn well y nifer prin hynny sydd yn gofyn gormod ganddo neu i wybod lle y byddai’n well canolbwyntio o ran treulio amser, ac mae’n gallu cyfathrebu mewn modd parchus o ran gosod ffiniau clir.
Wrth gadeirio cyfarfodydd mae meddylgarwch yn helpu Alun i ganolbwyntio’n ddiffuant ar bob cyfranogwr a sicrhau bod gan bawb yr un cyfle i gymryd rhan. Tra ei fod wrthi’n gwneud hyn mae ef yn ymwybodol o hyd o anghenion y cyfarfod. Pan fo hyn yn gweithio’n dda, mae’n sylwi bod ei ffordd ef o ryngweithio yn gallu lledu, bod bod yn bositif yn dylanwadu ar ysbryd y cyfarfod a hefyd o bosib ar ymddygiad eraill. Yn ogystal mae wedi sylwi ar y dull hwn o ryngweithio gan eraill ac mae wedi gwethfawrogi hynny:
‘Un tro roeddwn mewn cyfarfod gyda pherson eitha adnabyddus a thua 20 person arall. Roedd hi’n amlwg fod gan y person hwn allu i wneud i bawb yn yr ystafell deimlo ei fod yn sylwi arnyn nhw a bod ganddo feddwl o bob un ohonyn nhw. Fe wnaeth hynny argaraff fawr arna i. Dydw i ddim yn siwr a alla i efelychu hynny ond rwy’n meddwl ei fod yn rhywbeth i anelu tuag ato.’
Gall Meddylgarwch hefyd fod yn ffordd bwerus o drin y negyddol er gwell. Yn y maes lle mae Alun yn gweithio mae yna lawer o leisiau negyddol neu bobl sy’n anhapus am rywbeth, a gall hyn gael effaith andwyol ar rywun o ran ysbryd a diffyg cynhyrchiant yn sgil hynny. Mae Meddylgarwch yn cynorthwyo Alun i ganolbwyntio ar ddulliau positif ac i osgoi dylanwadau negyddol yn ogystal â’r effaith a gaiff y rhain. Mae hefyd yn ceisio cynghori eraill i wneud yr un fath.
Yn olaf, mae Alun yn cydnabod pwysigrwydd cymuned ymarfer ac mae’n mynd i sawl grŵp lleol. Mae’r ‘sangha’ (enw Bwdaidd am gymuned ymarfer) yn rhoi sylfaen iddo o ran theori ac ideoleg, gan arwain at ffyrdd o ddatblygu a darllen ymhellach. Mae yna gyfleoedd i gyd-ddysgu, er enghraifft taflu goleuni ar bynciau, ailbwysleisio egwyddorion, amlygu ymarferion da, cydnabod problemau a chynnig syniadau i’w datrys.
‘Mae’r cyfle i gyfrannu tuag at rywbeth mwy yn rhoi hwb i deimlad o gymuned a chefnogaeth. Mae e i gyd yn rhan o’r cyfan, naill ai drwy gyfrannu tuag at gost llogi ystafell, tacluso ar ôl cynnal cyfarfod neu gyfrannu ar lafar.’
Manylion cyswllt:
alun1001@yahoo.co.uk