“Mae’r Present yn teimlo’n unigryw gan ei fod yn dod â ni yn uniongyrchol i mewn i gyfanrwydd bywyd mewn ffordd mor hawdd, gydag ymarferion syml i’w defnyddio a’u hintegreiddio a phrofi meddylgarwch yn treiddio trwy eich diwrnod. Cwrs hyfryd.” (cyfranogwr cwrs Living in the Present)

“Mae natur y cwrs sef dysgu trwy brofiad yn cael dylanwad cynnil o wythnos i wythnos, nes sylweddoli ar ddiwedd y cwrs y bydd y cydbrofi a’r cyd-ddysgu yno yn gefn i ti am flynyddoedd i ddod.” (cyfranogwr Living in the Present)

“Mae Encil Presennol Arlein ym mis Ionawr yn ffordd berffaith o ailgydio ynddyn ni ein hunain a dechrau’r Flwyddyn Newydd yn teimlo wedi adfywio ac wedi cryfhau ein hymarfer.”

“Rwyf bob amser yn teimlo bod cyrsiau encil Sarah o gymorth mawr, y rhai wyneb-yn-wyneb ac arlein. Mae ei dulliau hi yn gwneud i mi deimlo’n gyfforddus ac yn fy ngalluogi i setlo i ddysgu a datblygu.” (cyfranogwyr encil)

Mae gwaith ymchwil wedi’i gyflawni ar y dull hwn ac mae yna astudiaethau ar lefel graddfeistr a doethuriaeth. Mae’r rhain yn cynnwys astudiaeth o addysgu ysgol gyfan o athrawon a phlant yn Warrington, ac astudiaeth o Brifysgol Caerdydd ar gwrs Byw yn y Presennol a gynhaliwyd i rieni plant â chyflyrau cronig o’r croen ac astudiaeth ddoethuriaethol gyfredol gyda hyfforddwyr.

“Mae hyfrydwch amrywiaeth y lleoliadau rhyfeddol lle mae dull The Present yn ffynnu ac sy’n addas iddo wedi bod yn bresennol dros y 6 mlynedd diwethaf. Rwy’n edrych ymlaen at weld ymhle mae’n ymgartrefu dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.” (Sarah Silverton)

Ebost: sc.silverton150@gmail.com

Skip to content