“Dod â pherthynasau yn fyw, gyda ni ein hunain, gyda bodau dynol eraill a gyda’r bodau eraill ar y blaned.”
Mae meddylgarwch yn y gwyllt yn brosiect cyffrous sy’n cyplysu hoffterau gydol oes Heather Bolton, therapydd ac athro meddylgarwch profiadol o ogledd Cymru. Mae’r sesiynau hyn yn cyfuno cysylltu â natur a gofalu am yr amgylchfyd gydag ymarfer meddylgarwch.
Mae Heather Bolton wedi ymrwymo i gynorthwyo pobl i ffynnu oddi mewn i rwydwaith byd natur. Mae wedi gweithio yn seicotherapydd ers nifer o flynyddoedd ac mae wedi addysgu meddylgarwch ers 15 mlynedd. Mae wedi addysgu MBCT a chyrsiau meddylgarwch eraill i grwpiau Mind ac i Brifysgol Bangor, yn ogystal ag i unigolion a grwpiau syꞌn rhan oꞌi gwaith preifat. Mae Heather hefyd yn wirfoddolwr ymroddedig i fudiadau syꞌn ymwneud âꞌr amgylchfyd. Yn ddiweddar mae wedi ymddiddori mewn cyfuno meddylgarwch âꞌi chariad at natur a gofalu am yr amgylchfyd, ac maeꞌn angerddol dros rannu meddylgarwch aꞌi addysgu yn yr awyr agored. Yn ogystal â chreu Meddylgarwch yn y Gwyllt yn fwy diweddar, mae wedi cynnal cyrsiau MBCT sydd wediꞌu haddasu yn yr awyr agored.
Mewn caban sydd wediꞌi leoli yng nghanol darn hyfryd o goetir hynafol yng ngogledd-orllewin Cymru mae cyfranogwyr yn cael gwahoddiad i dreulio amser yn yr awyr agored wedi ymgolli ym myd natur, gan ymdawelu a chraffuꞌn fewnol. Mae Heather yn disgrifioꞌr sesiynau hyn yn ymarferion meddylgarwch syꞌn gymysgedd o rai syꞌn cael eu harwain gan fodau dynol a rhai syꞌn cael eu harwain gan bethau nad ydynt yn ddynol.
“Rwyꞌn credu bod cydgysylltiad llwyr rhwng ein llesiant ni a llesiant pob bod… mae’r perthynasau hyn yn ein cynnal ni ac yn cynorthwyo popeth i ffynnu.”

Mae Heather yn credu bod meddylgarwch yn y gwyllt yn ffordd wych o ailgysylltuꞌn fewnol â’n hunain yn ogystal â chysylltu â gweddill byd natur. Maeꞌn darparu gofod i gofio ein bod yn rhan o ecosystem fwy ac mai natur ydyn ni. Wrth allu neilltuo amser i ymgysylltu âꞌr amgylchfyd mewn ffordd feddylgar gydaꞌn synhwyrau, rydyn niꞌn ymwneud llai âꞌr storїau yn ein meddyliau prysur ynglyn â’n lle yn y byd. Mae’n rhoi cyfle i werthfawrogiꞌn syml sydd ambell waith yn hynod o ddwys. Yn ogystal rydyn niꞌn dechrau cael y profiad fod gan rannau eraill ein hecosystem, fod gan fodau eraill fywydau a gwerth cynhenid ac nid yn unig yn adnoddau i ni. Maeꞌn esbonio bod canlyniadau ymchwil diweddar o ran natur a meddylgarwch yn dangos bod y naill yn elwaꞌn fawr oꞌr llall.
“Wnes i ei fwynhau i gyd yn fawr iawn ac mae wedi fy ngwthio ymlaen ar fy siwrnai meddylgarwch yn enwedig o ran coed aꞌr byd naturiol lle rwyꞌn treulio llawer o amser.” (Cyfranogwr)
Yn hytrach na gwahodd y cyfranogwyr i ddadansoddi eu profiadau maen nhwꞌn cael gwahoddiad i ddod o hyd i ffordd greadigol oꞌu darlunio. Roedd sawl person wedi gwneud llun, ac roedd un person wedi tynnu lluniau i wneud cyfosodiad i gynrychioli eu diwrnod. Roedd eraill wedi trefnu deunydd naturiol a ddaethant o hyd iddo yn y goedwig. Crëwyd y mandala hwn gan Emma i bortreadu ei hadborth iꞌr gweithdy. Maeꞌn cynrychioli aelodauꞌr gweithdy syꞌn gysylltiedig âꞌi gilydd ac â phob bod.

Mae meddylgarwch yn y gwyllt yn creu gofod i bobl a chyfle iddynt archwilio hunan-gysylltu a chysylltu â rhwydwaith ehangach natur. Dywedodd un cyfranogwr ei bod yn teimlo cysylltiad dyfnach â phobl ac â lleoliad wrth i amser fynd heibio, er iddi deimlo ar ddechrauꞌr sesiwn ei bod wediꞌi dieithrio. Rhannodd eraill ei fod yn gallu creu profiad dwys gyda buddion pellgyrhaeddol syꞌn effeithio ar fywyd bob dydd. Gobaith Heather yw cynnal rhagor o sesiynau Meddylgarwch yn y Gwyllt ac archwilio ymhellach y buddion iꞌr meddwl, iꞌr corff ac iꞌr ysbryd.
Bydd sesiwn nesaf Meddylgarwch yn y Gwyllt yn cael ei gynnal 17 Mai 2025. Am ragor o wybodaeth anfonwch ebost at:
Heatherboltontherapy.com