Grŵp o ardal Pen-y-bont ar Ogwr yw Rock Through Life, a sefydlwyd sawl blwyddyn yn ôl i gynorthwyo pobl a oedd wedi cwblhau cwrs meddylgarwch 8 wythnos i barhau â’u hymarfer myfyrio. Symudodd arlein yn ystod y cyfnod clo er mwyn galluogi iddynt i gysylltu â’i gilydd yn ystod y dyddiau hir hynny o ddiffyg cysylltiad, ond cyn gynted â phosibl daethant ynghyd ac maent wedi parhau i gyfarfod yn fisol.
“Rydyn ni’n gefn i’n gilydd.” “Rydyn ni fel teulu.” “Mae’r grŵp yma mor bwysig i mi.” “Mae’n fan diogel.” “Rwy’n siarad am bethau fyddwn i ddim yn trafod gyda fy nheulu na fy ffrindiau.” “Aelodau’r grŵp yw fy nheulu meddylgarwch.” (cyfranogwyr Rock Through Life)
Mae gan Rock through Life bedwar trywydd – Cymuned rad ac am ddim ar Facebook, grŵp wythnosol arlein, grŵp misol wyneb-yn-wyneb, a diwrnod encil teirgwaith y flwyddyn.
Laura Evans, eu sefydlydd, yw calon y grwpiau hyn. Mae Laura’n gweithio ym maes meddylgarwch, ystyrioldeb a bod yn gefn i’r sawl sy’n gwella ar ôl galar, yn ogystal â’i gwaith bob dydd. Mae ei phrofiadau hi ei hun yn rhan o’r arbenigedd mae wedi ei ddatblygu.
Meddai Laura:
“Pan mae digwyddiadau enfawr yn newid ein bywydau, mae’n gallu gwirioneddol newid ein safbwynt ar fywyd. Ar ôl i mi gael fy llethu gan ddigwyddiad yn 2002 cychwynais ar siwrnai o hunan-gymorth, o wella ac o ddarganfod. Fe wnes i ddod o hyd i gwrs meddylgarwch 8-wythnos a newidiodd fy mywyd cymaint nes i mi hyfforddi i fod yn athro meddylgarwch.
“Rwyf bob amser wedi bod yn angerddol dros helpu eraill a oedd yn cael trafferth ymdopi. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rwyf wedi treulio amser yn gwella fy ngalar a thrawma fy hun. Pan rydyn ni’n wynebu galaru am anwyliaid neu’n wynebu anhwylderau iechyd a’n marwoldeb ein hunain mae’n gallu ein cymell ni i fyfyrio ar yr hyn sy’n bwysig. Rwyf wedi hyfforddi i fod yn arbenigwr ar wella ar ôl galar yn ogystal â bod yn athro meddylgarwch ar gyfer straen/ poen/ afiechyd ac yn hyfforddwr iechyd a llesiant.
“Ers rhai blynyddoedd rwyf wedi bod yn trafod gyda fy grŵp Rock Through Life sut y gall straen, galar a thrawma ymddangos yn y corff fel symptomau corfforol ac yn gallu arwain at sawl afiechyd. Mae yna gymaint y gallwn ei wneud i helpu ein hunain ond dydy’r rhan fwyaf ohonon ni ddim yn cael ein dysgu sut i wneud hynny neu yn teimlo does dim amser gennym ni. Dydi bod yn ystyriol ohonon ni ein hunain ddim yn hunanol – mae’n angenrheidiol i ni fod y gorau y gallwn fod, i ffynnu ac i barhau i helpu eraill.
“Fy neges mewn bywyd yw helpu pobl i beidio â gorfod dyfalu sut i ddelio â straen, galar a cholled a’r effaith a gawn nhw ar y meddwl, y corff a’r ysbryd, felly yn hytrach na chael trafferth ymdopi mae pobl yn gallu Dawnsio Trwy Fywyd / Rock Through Life.
“Rwy’n gwneud hyn mewn sawl ffordd ac rwy’n anelu at roi amrywiaeth o opsiynau i bobl:
- – Rwy’n athro achrededig mewn Breathworks (Lleihau Straen Trwy Ddulliau sy’n Seiliedig ar Feddylgarwch a Trin Poen Trwy Ddulliau sy’n Seiliedig ar Feddylgarwch); Uwch Arbenigwr mewn Gwella ar ôl Galar; Uwch Hwyluswr Grwpiau Cefnogi; Hwyluswr SOMABreath; ac yn Hyfforddwr achrededig a Goruchwyliwr sydd wedi hyfforddi mewn dulliau TGY a RN.
- – Cymuned Rock Through Life rhad ac am ddim – i roi’r gallu i bobl flaenoriaethu eu hiechyd a llesiant eu hunain. Dewch i ymuno â ni.
- – Dyddiau galw-heibio misol wyneb-yn-wyneb mewn meddylgarwch a myfyrio ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Cyfrannu trwy roddion.
- – Y Cwtch: aelodaeth wythnosol arlein o gymuned ymarfer i ddysgu meddylgarwch a myfyrio a’u defnyddio mewn bywyd bob dydd, datblygu hunan-ofal a datblygu eich pecyn hunan-ofal eich hun.
- – Cwrs 8 wythnos Rhyddhau o Alar – cwrs sy’n seiliedig ar dystiolaeth i’ch helpu chi i wella ar ôl torcalon yn dilyn marwolaeth un annwyl, ar ôl ysgariad neu wahanu, neu unrhyw reswm arall am alaru.
- – Hyfforddi pwrpasol personol – byddaf yn defnyddio adnoddau meddylgarwch, TGY, RN a hyfforddi yn ddibynnol ar eich anghenion.
“Mae marwolaeth fy mab wedi aildanio fy angerdd dros helpu plant a phobl ifanc ffynnu mewn bywyd yn hytrach na brwydro gydag anhwylderau corfforol a meddyliol. Rwy’n credu mewn helpu’r rhai sy’n helpu, sy’n arwain ac sy’n cefnogi eraill; drwy wella eu dioddefaint a thawelu eu system nerfol eu hunain iddynt fod yn bobl y gall y rhai maen nhw’n gofalu amdanynt ymddiried ynddyn nhw. Drwy wneud hyn gallaf gael effaith ehangach i ddylanwadu ar bobl ifanc ac i wneud fy rhan i greu byd gwell.”
Ebost: laura@rockthroughlife.com
Grŵp Facebook Rock Through Life https://www.facebook.com/groups/rockthroughlifecommunity/
Proffil Facebook: Facebook