“Pan fyddwn yn dewis cael gwared ar ddyfeisiau o’n pocedi a’n dwylo, rydyn ni’n symud y rhwystrau i feddylgarwch.”
(Kristy Guest, cydsylfaenydd Project Holding Space)
Mae Project Holding Space (PHS)yn cynnig profiadau meddylgarwch anffurfiol trwy gysylltu â natur, o ymdrochi yn y goedwig i goginio mewn gwersyll, o sgiliau byw traddodiadol i arddio. Beth bynnag fo’r gweithgaredd, y gwahoddiad yw bod yn y presennol heb i ddylanwad technoleg hawlio’r sylw a’r cyfle i brofi hynny.
Profiad uniongyrchol Kirsty Guest, y cydsylfaenydd, oedd sail y prosiect. Cafodd ei hun ynghlwm yn barhaus mewn sgrolio di-feddwl yn ystod ei chyfnod yn berfformiwr. Wrth sylweddoli bod ceisio dilyn pawb arall arlein yn gwneud iddi ymbellhau oddi wrth hi ei hun, sylwodd mai bod ar ei rhandir oedd yr unig weithgaredd a oedd yn rhoi iddi’r cyfle gwerthfawr o fod yn wirioneddol bresennol. Ceisiodd wneud newidiadau; fodd bynnag, dim ond ar ôl cael plant roedd Steve, ei phartner, a hithau yn gallu ymrwymo i drawsnewid eu ffordd o fyw.
Gan roi’r gorau i’w ffonau clyfar, fe brynon nhw ddarn bach o dir mewn dyffryn yng ngorllewin Cymru, ac amlygon nhw eu blaenoriaethau o ran hunangynhaliaeth ac iechyd a hapusrwydd yn y tymor hir. Yn fuan wedyn dechreuon nhw gysylltu â phobl eraill a oedd yn ceisio gofod heb ddyfeisiau, ond ar y pryd doedd ganddyn nhw ddim syniad pa mor bell y byddant yn datblygu i ddarparu seibiant i’r gymuned oddi wrth gorgynnwrf y byd modern. Am rai blynyddoedd buon nhw’n cynnal cyfarfodydd cymunedol anffurfiol, ac wedyn ffurfiwyd PHS, sef y cwmni swyddogol er budd cymunedol.
Nod PHS yw meithrin cymunedau ystyriol trwy drefnu gweithgareddau llesiant digidol pwrpasol, gan roi cyfle i bobl dreulio amser ym myd natur heb ddefnydd o ddyfeisiau. Mae rhai gweithgareddau yn ddiwrnodau gwirfoddoli anffurfiol ‘Shared Earth’, gan gynorthwyo gyda garddio a thasgau cynnal a chadw, eraill yn rhai o ddod ynghyd yn gymdeithasol sy’n cynnwys gweithgareddau fel meddylgarwch a chrefftau.
Mae mwyafrif y gweithgareddau yn cael eu cynnal ar y tir ac o gwmpas tân gwersyll. Mae Kirsty yn gweld sut mae natur garddio yn ei wneud yn weithgaredd ystyriol, a’i fod yn cynnig ffordd berffaith i’r gwirfoddolwyr brofi meddylgarwch heb lawer o ymdrech. Mae’n disgrifio gweld pobl yn canolbwyntio ar dasgau yn yr ardd, gan ymgolli yn yr hyn sydd o’u cwmpas, trydar yr adar, persawr peraidd blagur Mai, teimlo’r pridd ar flaenau’r bysedd. Ac mae’n enwi sut gall cyfuniad o’r synhwyrau hyn dawelu’r meddwl a phorthi’r enaid a’n cynnal ni i ymgolli yn ein profiadau ein hunain, yn hytrach na chael gwybodaeth o’r cyfryngau ynglyn â’r hyn mae pawb arall yn ei wneud.
Yn seiliedig ar roddion, mae cyfleoedd gwersylla ar gael ar y safle i’r sawl sydd am dreulio cyfnodau mwy estynedig ym myd natur, trwy glampio neu drwy ddefnyddio eu pebyll a faniau eu hunain. Yn ogystal mae’r prosiect yn curadu adnoddau y gall pobl eu cymryd oddi yno i gynorthwyo i’r ffordd hon o fyw gael dod yn rhan ohonynt weddill eu hoes.
“Rwyf bellach wedi gwirfoddoli yma bedair gwaith a bob tro rwyf wedi mwynhau fy hun ac maen nhw wedi gwerthfawrogi fy ymdrechion. Yn ystod tywydd drwg fe wnaethon ni symud i’r polytunnel i wneud gweithgareddau ‘dan do’ fel plannu hadau, garddio mewn gwelyau uwch ac yn y blaen, gan dreulio amser a rhannu ymdrechion gyda phobl o’r un anian. Mae wedi bod yn fonws sgwrsio dros baned o goffi a chinio wedi’i rannu ac ar ddiwedd pob diwrnod rwyf wedi mynd gartre wedi blino’n lân ond yn hapus, ac yn fodlon ar ôl gwneud rhywbeth a fydd yn gwneud gwahaniaeth bach ac efallai yn parhau am flynyddoedd i ddod.”
“Mor iachus, tawel, braf cyfarfod â phobl newydd”
(Cyfranogwyr Project Holding Space o ddiwrnodau Shared Earth)
Yn y dyfodol mae PHS yn gobeithio cyfarfod pobl o’r un anian ar draws Cymru a gweddill y DU a chydweithio gyda nhw. Y weledigaeth yw cydweithio, gan greu rhwydwaith o brosiectau di-ddechnoleg a gofod sydd yn cynnig rhwydwaith gefnogol i’r sawl sydd am gymryd saib o’r byd technolegol. Yn CBC sydd wedi ei gydnabod yn ffurfiol, mae’r tîm yn y broses o ddarparu ceisiadau am gyllid i’r gymuned gael elwa ymhellach.
Wrth i bethau fynd yn eu blaen a datblygu, mae Kirsty a Steve yn bendant o’r farn mai’r gwahoddiad craidd yw i bobl ddod i adnabod eu hunain unwaith yn rhagor, i gofio’r ffordd maen nhw’n dymuno byw a fydd yn creu cydbwysedd iachach â’u defnydd o dechnoleg a chysylltiad dyfnach ac mwy iachus gyda nhw eu hunain, gyda’i gilydd a chyda byd natur.
hello@projectholdingspace.uk
www.projectholdingspace.uk
www.linkedin.com/in/projectholdingspace
www.ko-fi.com/projectholdingspaceuk