“Rwyf wedi sylwi bod fy holl waith meddylgarwch yn meithrin cydgysylltu o ran cyfranogwyr. Mae hyn yn arbennig o werthfawr yn y gweithle ac mewn sefyllfaoedd sy’n delio â’r rhai o dan hyfforddiant, gan feithrin cydymddiriedaeth a chydgefnogaeth wrth ymarfer.”
(Dr Julia Wallond, Meddyg Teulu)
Mae Julia Wallond, y meddyg teulu o Fachynlleth, wedi bod yn cynnwys ymarferion a dysgeidiaeth meddylgarwch, ffurfiol ac anffurfiol, yn rhan o’i gwaith a’i bywyd am yr 14 mlynedd diwethaf. Yn ystod y cyfnod hwn mae wedi cael sawl rôl ac mae wedi archwilio pa un yw’r ffordd orau o gyflwyno’r ymarferion i grwpiau amrywiol o bobl.
Cafodd Julia ei hyfforddi yn gyntaf ar gwrs therapi ymwybyddol sy’n seiliedig ar feddylgarwch ym Mhrifysgol Exeter yn 2011, gan ddilyn hynny gydag encil hyfforddi athrawon ym Mhrifysgol Bangor. Ar y dechrau addysgodd gyrsiau MBCT ar gyfer Canser, MBSR a MBCT. Roedd ei chyfranogwyr yn cynnwys myfyrwyr meddygol, cydweithwyr meddygol, y cyhoedd yn gyffredinol a chleifion. Yn ddiweddarach pan symudodd Julia i Gymru, ailganolbwyntiodd ar ei gyrfa meddygol a dechreuodd gynnwys meddylgarwch yn llai ffurfiol yn ei rôl yn feddyg teulu, yn ogystal â’i gynnwys wrth iddi ymwneud â phrosiectau lleol sy’n cysylltu â natur.
Yn fwy diweddar dechreuodd Julia weithio i’r GIG ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn y “Gwasanaeth Byw’n Dda Powys”. Yn y rôl hon mae’n dysgu cynnig dulliau sy’n seiliedig ar Theori Derbyn ac Ymrwymo ochr yn ochr â chymorth meddygol i bobl sy’n byw â phoen parhaus, blinder neu anghenion o ran colli pwysau. Yn ogystal mae’n cynnig sesiynau ymarfer anffurfiol i gydweithwyr ac mae’n treialu cylchoedd ystyriol gyda chydweithwyr meddygol a meddygon teulu o dan hyfforddaint, sydd wedi cael eu croesawu’n frwd.
Yr hyn wnes i fwynhau am y sesiynau ymarfer bod yn ystyriol oedd:
“Dod ynghyd.”
“Gallu siarad yn onest gyda chydweithwyr.”
“Cael yr amser i feddwl am yr hyn sy’n gallu rhwystro bod yn ystyriol a dysgu gweithio ar hynny.”
(Cyfranogwyr yr hyfforddiant cylchoedd ystyriol)
Ochr yn ochr â’i phroffesiwn meddygol, mae Julia wedi hyfforddi i addysgu enciliau Insight Meditation gyda Bodhi College (sy’n gysylltiedig â Gaia House yn Nyfnaint). Mae’r hyfforddiant hwn wedi ei galluogi hi i gynnig sawl encil meddylgarwch diwrnod o hyd arlein i raddedigion cyrsiau 8-wythnos ac athrawon meddylgarwch drwy’r Rhwydwaith Meddylgarwch / Mindfulness Network a’r Oxford Mindfulness Foundation. Tu hwnt i’w rôl seciwlar yn athro meddylgarwch, mae’n addysgu ar enciliau Insight Meditation yn Gaia House yn Nyfnaint a chyda grŵp Meddylgarwch lleol ym Machynlleth.
Mae Julia yn bendant o’r farn fod ei hymarferion ei hun wedi rhoi dulliau pwerus iddi ymdopi â threialon bywyd, gan fod yn fwy ystyriol a chael darlun cliriach o’r hyn sy’n digwydd. Ei phrofiad hi ohonynt yw eu bod yn ei chynorthwyo hi i ymgysylltu’n ddyfnach â phobl eraill a chyda’r byd naturiol ac mae’n gweld sut maent wedi creu posibiliadau a hyder i ddatblygu yn ei bywyd.
Dowch o hyd i Julia yn: