‘Fel fyfyriwr prifysgol, mae meddylgarwch yn fy addysgu i dderbyn digalondid ac i sylwi ar straen.
Fel chwaraewr pêl-rwyd mae’n rhoi’r gallu i mi sylwi ar rwystredigaeth, ei anwybyddu a chanolbwyntio ar
ran nesaf y chwarae. Yn bennaf oll, fel aelod o’r teulu ac fel ffrind,
mae meddylgarwch wedi fy addysgu i oedi cyn ymateb ac i ddewis bod yn amyneddgar
yn hytrach na datrys problemau yn rhy gynnar.’
(Erin, myfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth)
Mae Erin yn astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae wedi cwblhau nifer o gyrsiau sy’n seiliedig ar feddylgarwch yn ystod y flwyddyn ddiwethaf drwy’r adran dysgu gydol oes.
Dyma’r tro cyntaf iddi fentro i faes meddylgarwch sydd wedi ei chyflwyno i’r ymarfer o fod yn gwbl bresennol ac yn ymwybodol ym mhopeth mae’n ei wneud. Yn ystod ei blwyddyn gyntaf o ymarfer, mae Erin wedi bod trwy gyfnodau o’i chael hi’n anodd canolbwyntio, ond trwy ddyfalbarhad a hunan-gred mae wedi llwyddo i aros ar y trywydd iawn ac mae’n sylwi ar newidiadau bach ond rhai pendant. Mae’r rhain yn cynnwys teimlo’n dawelach ei meddwl, gwelliant o ran canolbwyntio a chapasiti cynyddol o ran bod yn hunan-ystyriol. Yn ogystal mae rhieni Erin a’i chariad wedi sylwi ar newidiadau ynddi.
‘Yn araf ond yn bwyllog mae meddylgarwch wedi troi ysbeidiau byr yn gyfleoedd i
fyfyrio, i gysylltu a datblygu..’
Fel rheol mae Erin yn defnyddio meddylgarwch yn ei bywyd trwy feicro-ymarferion yn y fan a’r lle er enghraifft bod yn ymwybodol o anadlu, amser gwerthfawr yn ddyddiol yn cysylltu â byd natur, a phwyllo wrth gysylltu ag eraill, iddi gael bod yn chwilfrydig am unrhyw adwaith neu her. Mae’n darganfod bod yr ymarferion yn araf ail-lunio ei ffordd o fynd ati i weithio ar draethodau, cystadlu ym maes chwaraeon ac ymlacio gydag anwyliaid. Trwy fod yn bresennol yn ei phrofiadau, mae Erin yn fwy ymwybodol o lawer o’r modd mae ei chorff a’i meddwl yn ymateb i straen.
‘Mae meddylgarwch wedi bod yn bresenoldeb sy’n cadw fy nhraed ar y ddaear yn y rolau niferus sydd gen i
ac mae wedi fy nghaniatáu i ailgysylltu â fi fy hun mewn ffyrdd
mwy ystyriol a bwriadol.’
Mae ei gallu i aros yn y presennol yn ystod cyfnodau anodd yn datblygu. Yn hanesyddol mae cael adborth bositif wedi bod yn heriol i Erin, ond gyda’r bwriad o’i dderbyn gyda meddwl agored mae’n gallu bod yn fwy chwilfrydig ynglyn â ‘r hyn y gall ddysgu, a sut y gall ddatblygu. Mae hyn yn lleihau ei hagwedd amddiffynol ac yn cynyddu’r teimlad o fod yn gyflawn. Yn hytrach na chael ei llyffetheirio gan ei hadweithiau, mae ganddi nawr wir ddiddordeb yn yr hyn y gall eraill fod yn rhannu gyda hi. Yn ogystal mae’n teimlo yn fwy cymwys i barchu ei gallu ei hun a gosod ffiniau pan fo arni angen amser i fagu nerth newydd.
Mae Erin hefyd yn rhannu yn anffurfiol gyda theulu a ffrindiau yr hyn mae wedi ei ddysgu. Mae wedi cyflwyno holi yn feddylgar gyda phobl sy’n agos ati, gan ddefnyddio cwestiynau syml, er enghraifft, ‘sut mae pethau wedi bod yn ystod y mis diwethaf?’ i annog pawb i gymryd amser i oedi a gwrando’n fwy astud ar ei gilydd. O ganlyniad i hyn mae ei chysylltiadau yn dyfnhau, gan ddod yn fwy diffuant a chadarn, ac mae’n teimlo yn fwy cymwys i fod yn agored ac yn ddiamddiffyn yn y cysylltiadau personol hyn.
‘Gofyn i chi’ch hun sut ydych chi yw un o’r pethau symlaf ond mwyaf pwerus ym meddylgarwch
a dw i’n credu y dylai pawb roi cynnig arni – cofiwch fod yn garedig
â chi eich hun yn ogystal â bod yn garedig ag eraill.’
Yn y dyfodol mae Erin yn gobeithio bod pwysigrwydd meddylgarwch yn cael ei gydnabod ym mhob maes. Mae’n grediniol y dylai pawb gael y cyfle i’w llesiant gael ei gydnabod a’i gynnal, ac mae’n gwybod o brofiad fod meddylgarwch yn cynnig seibiant mewn byd sy’n aml yn teimlo’n frysiog ac yn drech na hi. Ei chyfraniad at hyn yw awgrymu i ffrindiau agos ddechrau myfyrdodau ar nosweithau Sul a negeseuon testun o ddiolch. Mae Erin yn gobeithio y gall hyn fod yn ffordd o ddatblygu hunan-ymwybyddiaeth a rheoleiddio emosiynol, trwy ymollwng unrhyw straen sy’n parhau o’r wythnos flaenorol ac ar yr un pryd osod sylfaen glir ar gyfer yr hyn sydd i ddod.
‘Ers peth amser dw i wedi teimlo fy mod yn araf fynd gyda’r lli trwy fywyd, fy mod yn ddatgysylltiedig o wir deimlo a phrofi. Fodd bynnag, mae meddylgarwch wedi dechrau cynnig cipolwg bach ond ystyrlon
o’r hyn yw bod yn wirioneddol bresennol. Dw i bob amser wedi ceisio bod yn garedig
ac yn ystyriol mewn bywyd, eto i gyd dw i’n cael fy llorio o hyd gan sefyllfaoedd sy’n teimlo’n anodd symud drwyddyn nhw.
Dydi meddylgarwch ddim wedi gwneud popeth yn glir i mi
ond mae wedi dod ag ysbeidiau cliriach a thawelwch i feddwl sydd bron byth yn dawel.’
erinjames57@yahoo.com