“Rwy’n credu bod gan ymarferion meddylgarwch a byw mewn ffordd fwy ystyriol effaith sy’n diferu o’r brig i lawr, gan ddatblygu cymunedau mwy positif lle mae pobl yn teimlo’n ddiogel ac wedi eu parchu; lle mae unigolion yn teimlo’n hyderus a’u bod yn cael eu cefnogi.”
(Gavin Sharp)
Fel athro yn Sir Benfro i bobl ifanc ag anghenion cymhleth, mae Gavin yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd meithrin gofod tawel a diogel i’r unigolion mae’n gofalu amdanyn nhw, gyda nifer ohonyn nhw ag anghenion dysgu dwys a niferus. Mewn maes a all yn hawdd achosi straen mawr ar y staff a’r disgyblion hwythau, mae Gavin wedi darganfod bod defnyddio ymarferion sy’n seiliedig ar fod yn ystyriol nid yn unig yn ei alluogi ef i reoleiddio ei hun drwy’r dydd, gan gynnal ei lesiant ei hun, ond hefyd mae’n gwella llesiant y sawl o’i gwmpas.
Ers iddo hyfforddi ym maes meddylgarwch sawl blwyddyn yn ôl, mae Gavin wedi darganfod bod ei ymarferion yn adnodd hynod o werthfawr, sy’n ei gynnal yn ystod cyfnodau anodd yn ei fywyd ei hun. Mae hyn wedi peri iddo ddeall yr angen am hunan-ofal da, ac mae’n bwriadu seilio ei berthynas ag eraill ar hyn, yn broffesiynol ac yn bersonol. Meddai: “Rwy’n credu’n gryf yn yr angen i ofalu am ein hunain yn dda i gael y capasiti a’r egni i ofalu am eraill”.
Er bod Gavin yn cydnabod y byddai’n hoffi treulio rhagor o amser yn gwneud ymarferion ioga ac yn myfyrio’n ffurfiol, ni allwn beidio â diystyru bwysigrwydd meddylgarwch anffurfiol mewn bywyd bob dydd. Ym mis Mai 2025 roedd Gavin yn ymwneud â phrosiect rhoi cymorth i wirfoddolwyr a ffoaduriaid yn Care4Calais, a thrwy ei ymarferion ystyriol anffurfiol daeth o hyd i’r hyder a’r gallu i gefnogi’r rhai roedd wedi mynd i’w helpu.
“Mae cynnwys meddylgarwch wedi rhoi’r gwydnwch i mi i wynebu pob dydd yn llawn positifrwydd a gobaith o ran mi fy hun, fy nheulu, fy ffrindiau a’r gymuned ehangach.”
Mae ymarferion dyddiol Gavin yn cynnwys oedi yn rheolaidd i ganolbwyntio ar anadlu a thawelu meddyliau. Un o effeithiau cynyddol hyn yw darganfod nad yw’n teimlo’r angen bellach i ruthro drwy ei dasgau ac mae’n cyflawni mwy o lawer wrth allu ymdawelu, ac mae’r llonyddwch hwn yn ymestyn i’r gymuned ehangach o’i gwmpas. Trwy ddefnyddio ei ymarferion mae Gavin yn gallu cynnal agwedd bwyllog, ymarferol at y pethau bob dydd sy’n achosi straen ac felly mae’n gallu helpu’r rhai hynny mae’n ymwneud â nhw mewn gwahanol feysydd.
Mae’n cydnabod bod ei alwedigaeth ddewisedig yn un heriol ond pan mae’n gallu aros yn ystyriol mae wedi sylwi bod y pobl o’i gwmpas yn fwy parod i roi eu hamser ac yn fwy parod i rannu pryderon a syniadau – gan greu cymuned fwy gofalgar ac ystyriol.
Mae defnyddio meddylgarwch mewn bywyd pob dydd nid yn unig wedi bod o gymorth i Gavin gyda heriau bywyd ond mae wedi gwella ei fywyd gan ei alluogi ef i ddatblygu cydbwysedd gwell rhwng gwaith a hamdden ac i gael mwy o fwynhad o weithgareddau pob dydd. Mae’n teimlo hefyd ei fod wedi meithrin ei berthynas â’i wraig ac â’i blant ac wedi ei gynnal mewn meysydd cymdeithasol, gan ei alluogi ef i gyfathrebu â hyder pwyllog gydag unrhyw un mae’n gyfarfod.

Un o hoff leoedd Gavin yw’r man sy’n edrych dros Afon Cleddau yng Ngwarchodfa Natur Saltings yn Hwlffordd. Mae’n lle sy’n golygu llawer iddo, a lle sy’n rhoi cyfle i fod yn ystyriol. Mae Gavin yn ymweld â’r man gydol y flwyddyn ym mhob tywydd ac mae hyn yn ei atgoffa bod meddylgarwch yn gweithio’n dda mewn nifer o feysydd gwahanol a gall rhywun ymdawelu yn hynod wrth ei ymarfer ym myd natur.
Mae’n esbonio mai bod yn hunan-ystyriol a bod yn ystyriol o eraill sydd wrth galon ei ymarfer yntau, ac mae wedi gweld tystiolaeth fod hyn wedi cyfoethogi ei fywyd yntau a bywydau eraill o’i gwmpas. Ei nod yw parhau i feithrin perthynasau ystyriol a hyrwyddo agwedd chwaraeus ysgafn ym mhob un o bob oed wrth wneud hynny. Yn ddiweddar fe gwblhaodd y Cwrs Hyfforddi Meddyliau Ystyriol trwy Feddylgarwch Cymru ac mae’n frwd o ran rhannu hyn yng nghyd-destun ei waith ei hun. Meddai: “Rydyn ni’n byw mewn byd heriol, lle mae gan bawb eu gobeithion a’u hofnau”. Drwy ei ymarfer meddylgarwch mae Gavin yn gobeithio y gall chwarae ei ran i ddylanwadu er gwell ar ei ddyfodol ei hun ac ar ddyfodol y byd ehangach.
Manylion cyswllt: gavin.sharp@neu.org.uk