“Rwy’n cynnwys elfennau o feddylgarwch yn yr holl grwpiau canu rwy’n hyrwyddo, boed hynny’n
grŵp dechreuol ar gyfer iechyd yr ysgyfaint, neu’r corau cymunedol wythnosol, neu’r digwyddiad codi arian blynyddol “Sing for Water” ar gyfer 100+ o gantorion.”
(Susie Ennals, Hyrwyddwr Canu)
Mae gan Susie Ennals hanes hir o ymarfer meddylgarwch. O oedran ifanc byddai’n cael ei denu at ymarferion sy’n seiliedig ar natur, a gweithiai gyda’r mantra ‘yma, a nawr’. Ar ôl cyfnod o iselder, tua 12 mlynedd yn ôl aeth ar gwrs MBSR a ddatblygodd i fod yn grŵp o bedwar myfyriwr cyfoed ac fe wnaethon nhw barhau i gefnogi ymarferion ei gilydd yn wythnosol am nifer o flynyddoedd. Yn ogystal â bod mewn grŵp i fenywod a oedd yn cynnwys elfen o fyfyrio, fe wnaeth hyn ei helpu hi i ddatblygu ymarferion meddylgarwch dyddiol mae’n eu defnyddio bob bore ac wedyn gydol y dydd.
Ochr yn ochr â gweld ei pherthynasau yn elwa o hyn, yn enwedig â’i theulu, mae Susie yn priodoli gwelliant yn ei iechyd meddwl i’w hymarferion, ei gallu cynyddol i ymlacio’n llwyr, llai o hunan-feirniadu a beirniadu eraill a gallu cynyddol i fod yn ystyriol ac yn bwyllog wrth gyfathrebu ag eraill. Yn ogystal mae meddylgarwch wedi ei chynnal mewn cyfnodau o argyfwng, gan gynnwys ymdopi â phoenau mawr ar ôl damwain ddifrifol, pan mae wedi canolbwyntio ar yr anadl i ddod o hyd i’r tawelwch mewnol unwaith eto:
“Pan mae pethau yn ormod, mae meddylgarwch yn fy helpu fi i sadio unwaith eto”
Ar hyn o bryd mae Susie yn mynd yn rheolaidd i Zen sangha yn Aberystwyth ac mae wedi ymrwymo i ddatblygu ei hymarfer iddo barhau i’w chynnal, yn bersonol ac yn ei gwaith o sefydlu a hyrwyddo grwpiau canu cymunedol, corau a grwpiau canu sy’n seiliedig ar iechyd a llesiant.
Mae’r grwpiau hyn yn amrywio o fod yn weithdai canu annibynnol, corau a chylchoedd canu wythnosol a misol, yn ogystal â phenwythnosau preswyl o ganu. Ar ddechrau pob sesiwn mae Susie yn cynnwys technegau meddylgarwch, gan annog cyfranogwyr i ganolbwyntio ar yr anadl ac i ymlacio rhannau gwahanol o’r corff drwy sganio’r corff yn sydyn. Drwy annog pawb i sylwi arnyn nhw eu hunain ac i fod yn fwy ymwybodol o bawb arall, mae’r ymarferion byr hyn yn cyfrannu at wneud i bobl deimlo’n llai unig ac yn fwy presennol, gan gydgysylltu, sydd yn meithrin eu hyder a thawelu’r meddwl yn fawr iawn.
“Mae’n hyfryd canu gyda Susie, mae’r sesiynau wedi helpu fy anadl ac wedi cynyddu fy hyder,
gan fy ngalluogi fi i ddatblygu cyfeillgarwch. Dwi’n gadael gan deimlo’n fwy hwyliog
a bob amser yn edrych ymlaen at y nesaf. Does dim geiriau i ddisgrifio’r llawenydd o ganu gyda phobl eraill,
mae jyst yn eich gwneud i deimlo’n grêt.”
(Leri, aelod o’r côr)
Mae ffordd Susie o ymwneud â’r rhai mae’n canu gyda nhw yn allweddol i’w profiad nhw o’r canu. Mae’n cyfathrebu mewn modd ystyriol i fod yn galonogol yn hytrach nag yn feirniadol, ac yn amyneddgar yn hytrach nag yn ymwthgar, er mwyn i bobl deimlo bod croeso iddynt, eu bod yn cael eu cynnwys ac yn teimlo’n gartrefol.
Mae rhai o’i grwpiau canu wedi canolbwyntio’n benodol ar bobl gydag anhwylderau iechyd, neu sydd wedi methu dod o hyd i’w llais. Roedd ‘Skylarks Sing for Lung Health’ yn grŵp i gefnogi pobl i ryddhau eu lleisiau o gyfyngiadau corfforol ac emosiynol. Fe enwyd y grŵp felly oherwydd ei fod yn hysbys nad yw’r ehedydd yn gallu canu mewn caethiwed.
“Gydag anogaeth gan Susie a‘i ffordd addfwyn o addysgu, mae canu wedi dod
yn brofiad llawen i mi yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae’n codi fy ysbryd ac yn rhoi ffordd bwerus i mi o
fynegi emosiynau dwfn.”
(aelod o’r côr)
Wrth i bobl ddatblygu hyder maen nhw ambell waith yn ymuno â ‘Leri Voices’, côr cymunedol wythnosol o Dalybont gyda 25 o aelodau, neu maen nhw’n mynd i’r sesiynau misol Taizè a ‘Healing Harmony’ sy’n digwydd yn Bow Street ac yn Aberystwyth. Ac i’r rhai sy’n mwynhau canu mewn grŵp mawr i fod o fudd i eraill, mae Susie yn trefnu digwyddiad codi arian yn Aberystwyth o’r enw ‘Sing for Water’. Yn hwn mae 100-150 o gantorion o wahanol gorau cymunedol trwy Gymru yn cydganu yn y bandstand ac yn codi tua £5000 i elusen ‘Water Aid’.
Ar yr adeg hyn o’i hoes, mae Susie o’r farn nad yw’n bwriadu ehangu ei gwaith. Yn hytrach ei phrif nod yw sicrhau ei bod yn dal ati i ymarfer meddylgarwch iddi gael parhau i addysgu ei grwpiau presennol yn ei henaint.
I gysylltu: