“Yma mae meddylgarwch yn mynd ymhell tu hwnt i’n dysgu ni i gnoi ein bwyd yn araf a’i flasu, er bod hynny’n fan cychwyn. Mae’n golygu meddwl am bob un a helpodd ddod â’r bwyd atom ni. Mae’n golygu meddwl am yr holl greaduriaid sydd ddim yn ddynol sy’n gysylltiedig â chreu ein bwyd, o’r bacteria yn y pridd i’r gwenyn, ac yn enwedig y rhai sydd wedi colli eu bywydau er mwyn i ni fwyta.”
(Jane Powell)
Mae Jane wedi bod yn weithgar ym maes bwyd ar hyd ei hoes waith, gan chwilio am ffyrdd gwell o dyfu bwyd a’i ddosbarthu i gael planed iachach. Mae’n defnyddio amrywiaeth eang o sgiliau yn ei gwaith yn ogystal â meddylgarwch.
Un o’r ffyrdd y gall meddylgarwch ein helpu ni yw trwy i ni ddod yn ymwybodol o’n hymatebion emosiynol ac yn awyddus i wybod amdanynt. Darganfyddodd Jane yn gynnar iawn fod gwneud gormod yn y ffordd anghywir yn arwain at gael ei siomi. Drwy chwilio am ddealltwriaeth ddyfnach daeth Jane at Fwdїaeth a’i dysgodd sut i fod yn ffyddiog ei bod yn rhan o fyd sydd wedi ei gydgysylltu, a sut i beidio bod yn gaeth i batrymau o adweithio.
Gan ei bod yn eiddgar i ddod â’r perspectif hwn a’r sgiliau i’w hymrwymiadau cyhoeddus â gwaith ffermio, sylweddolodd Jane ei bod arni eisiau dod o hyd i ffyrdd seciwlar o fynegi’r doethineb roedd wedi ei ganfod mewn Bwdїaeth. Astudiodd feddylgarwch gyda Breathworks a chafodd hyfforddiant dwys mewn cyfathrebu’n ddi-drais a dulliau eraill.
Mae meddylgarwch yn ein gwahodd i arafu a chysylltu â phrofiad dyfnach, mwy ymgorfforedig. Trwy brosiect Jane o’r enw Food Values daeth yn bosibl i drafod mor gryf yw teimladau pobl o ran gweld byd lle nad oes neb yn newynu. Darganfyddodd Jane fod gweithgareddau a oedd yn cynnwys rhannu bwyd yn creu awyrgylch o fod yn bresennol ac o sylw ymgorfforedig:
“Fe wnaethon ni ddarganfod bod trefnu gweithgareddau a oedd yn cynnwys rhannu prydau bwyd, yn naturiol yn cael yr effaith o arafu sgyrsiau a rhoi profiad mwy ymgorfforedig i bobl. Dw i’n meddwl mai dyna oedd rhan hollbwysig y gwaith, a dweud y gwir, ac nid yn unig ‘siarad am werthoedd.’ ʺ
Datblygodd y prosiect hwn yn Maniffesto Bwyd Cymru, a ddatblygodd ymhellach yn Gynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru.
Mae meddylgarwch yn ein helpu ni nid yn unig i ddatblygu ymwybyddiaeth ond gall hefyd fod o gymorth i ni agor ein calonnau i fod yn fwy gofalgar ohonom ein hunain, o eraill ac o’n byd ehangach. Drwy’r sgyrsiau hyn am fwyd daeth yn amlwg fod tynnu sylw at y gwerthoedd cyffredin hyn o fod yn ystyriol, gofal a chydraddoldeb yn arwain at ddatblygu ‘r nodweddion hanfodol o hyder a dewrder. Dewrder i wynebu ‘r hyn a all ddigwydd i’n systemau bwyd yn sgîl rhyfel neu gynhaeaf gwael. Hyder i ddod o hyd i ffordd oddi wrth bod â chyflenwadau hael i fregusrwydd prinder ac erchyllterau posibl dirywiad cymdeithas a newyn.
Ochr yn ochr â’r archwiliadau macro a’r paratoadau hyn, mae gan Jane brofiad o gamau bach hyfryd a all ddigwydd i unigolion ar ôl eu hannog i gysylltu a newid:
“Ar ôl pryd o fwyd cymunedol mewn ysgol gynradd gyda gemau a chwis, daeth rhiant ata i a dweud, gyda dagrau yn ei llygaid, “Mae fy merch fach bob amser yn gwrthod bwyta tatws. Rydyn ni’n anghydweld yn ofnadwy. Ond heddiw gan ei bod yn mwynhau ei hun cymaint fe wnaeth hi anghofio dydi hi ddim yn eu hoffi nhw a’u bwyta i gyd. Diolch o galon!” Wrth gwrs, nid y tatws oedd yn bwysig. Roedd hi’n fater o’r plentyn yn cael profiad dwys o fod yn rhan o gymuned fwy ac anghofio ei hun wrth wneud hynny.” (Jane Powell)
Hyd yn hyn mae Jane wedi gweithio â Llywodraeth Cymru, Conscious Food Systems Alliance y CU, a nifer o fudiadau bwyd ar draws y DU. Un sydd wedi ei hysbrydoli yn arbennig oedd prosiect Food Citizenship. Ar hyn o bryd mae’n gweithio â Biosffer UNESCO Dyfi sydd yn ffynhonnell cysylltiadau ledled y byd.
Yn y dyfodol mae Jane am sefydlu elusen ar y cyd ag eraill o’r enw CyFAN Cymru a fydd yn trefnu Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru a hefyd weithgareddau eraill.
I gloi, mae gwaith Jane gyda bwyd yn ymwneud â thynnu sylw at yr ystyriaeth a chysylltiadau sydd eisoes yn bodoli a dod o hyd i ffyrdd o’u cryfhau. Mae tasgau syml ymarferol fel tyfu llysiau mewn ysgolion yn dod yn gyfleoedd i drawsnewid yn bersonol ac ar y cyd. Mae defnyddio meddylgarwch mewn agwedd ar fywyd sydd mor greiddiol â bwyd yn dangos sut y gall ymarfer ddatblygu o ddysgu talu sylw i gefnogi pawb mewn ffordd weithredol i fod yn gyfrifol am y ffordd mae bwyd yn cael ei greu ac i wneud dewisiadau doeth o ran ei brynu a’i fwyta. Trwy wneud hyn gyda phob pryd bwyd, gallwn fod o gymorth i greu mwy o iechyd a chydgysylltu yn y byd.
Am ragor o wybodaeth ewch i:
https://www.linkedin.com/in/jane-powell-food/