“Dyw cerdded drwy’r coed ddim jyst yn seibiant; mae’n fy atgoffa fy mod i’n perthyn i rywbeth sy’n fwy na fi fy hun. ʺ (Gary)

‘Trwy gynnig ymarferion meddylgarwch ym myd natur sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sy’n hygyrch ac yn gynhwysol, rydyn ni’n helpu pobl i arafu, ailgysylltu â nhw eu hunain a meithrin bod yn ystyriol. Yn aml mae ein sesiynau yn creu profiadau mewn grwpiau cefnogol, gan annog cyfranogwyr i ddatblygu cysylltiadau parhaus â’i gilydd ac â byd natur.’

Ond ochr yn ochr â’r hyfforddiant ffurfiol mae Gary ac Olga, a wnaeth hyfforddi fel athrawon ioga yn India, yn pwysleisio pwysigrwydd gweithgareddau anffurfiol o feddylgarwch, gan gredu bod cyfuno’r ddwy ymagwedd yn cynnig buddion cyflenwol unigryw. Maen nhw’n angerddol dros wneud meddylgarwch ym myd natur yn hygyrch i bawb, beth bynnag fo’r oed, y cefndir neu’r gallu. Meddai Gary, ‘Yr hyn rwy’n garu fwyaf am ymgolli mewn coedwig yw ei bŵer tawel i dawelu fy meddwl a’m hailgysylltu â’r byd tu hwnt i sgriniau ac amserlenni.  Mae wedi bod yn hynod o iachusol yn fy mywyd i – gan ostwng lefelau straen, codi fy ysbryd a fy helpu fi i deimlo’n fwy byw ac yn fwy synhwyrol.

Gary a Olga, sylfaenwyr TFBI

“Mae fel therapi ym myd natur – mae’n heddychlon, mae’n adferol ac mae’n sadio rhywun. ʺ (cyfranogwr)

“Rwyf wedi stryglo gyda gorbryder ers blynyddoedd, ond mae’r sesiynau hyn yn rhoi’r adnoddau i mi ymdopi. ʺ (Cyfranogwr)

Nod TFBI yw rhoi rhagor o gyfleoedd i gael mynediad i ymgolli mewn coedwig ar draws Cymru a’r DU drwy hyfforddi rhagor o arweinwyr ac integreiddio meddylgarwch ym myd natur â gofal iechyd, ag addysg, ac â llesiant cymunedol.  Maen nhw’n parhau i weithio’n agos â phrifysgolion, â byrddau iechyd ac â phartneriaid rhyngwladol, ac maen nhw’n datblygu cysylltiadau cryfach â’r sector iechyd, â’r sector llywodraethol ac â’r sector addysg yng Nghymru. Maen nhw’n annog pawb sydd yn dod at feddylgarwch i roi cynnig arni ym myd natur, boed nhw’n dod ato o’r newydd neu â chefndir ym maes meddylgarwch, yn enwedig os ydyn nhw’n ei chael hi’n anodd ymarfer meddylgarwch dan do – mae nifer o gyfranogwyr TFBI yn ei chael hi’n haws o lawer ymlacio ac ymollwng straen. Mae yna lawer o awgrymiadau defnyddiol sut i ddechrau arni yn The Healing Power of Trees, llyfr newydd TFBI, ac yng nghardiau ymarfer FB+.

“Rwy’n teimlo’n dawelach fy meddwl ac yn ysgafnach fy ysbryd ar ôl pob sesiwn – fel petai fy mhryderon yn diflannu.ʺ

Mae ein cyfraniad at ymchwil a adolygwyd gan gymheiriaid i’w weld yma https://tfb.institute/scientific-research/. Mae pedwar papur hyd yma. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar bapur newydd gyda Phrifysgol Bournemouth, sydd wedi bod yn mesur gweithgaredd EEG; mae’r data cynnar yn gadarnhaol!

*Clarke, F. J., Kotera, Y., & McEwan, K. (2021). A qualitative study comparing mindfulness and shinrin-yoku (forest bathing): practitioners’ perspectives. Sustainability13(12), 6761.

Skip to content